Myfyrwyr Meddygaeth yn ennill Ysgoloriaethau Cymhelliant y Coleg Cymraeg Cenedlaethol
7 Mawrth 2017
Mewn digwyddiad Dydd Gŵyl Dewi arbennig, cafodd criw sylweddol o fyfyrwyr cyfrwng Cymraeg Prifysgol Caerdydd y cyfle i ddathlu eu cyflawniadau yn ennill ysgoloriaethau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Yn eu plith, roedd saith o fyfyrwyr cyfrwng Cymraeg yr Ysgol Meddygaeth, rhai o’r cyntaf yn yr Ysgol i dderbyn eu hysgoloriaethau cymhelliant gan y Coleg.
Pob blwyddyn mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cynnig o leiaf 150 o ysgoloriaethau cymhelliant i fyfyrwyr sy’n bwriadu astudio o leiaf 33% (neu 40 credyd y flwyddyn) o’u pwnc drwy gyfrwng y Gymraeg.
Er mwyn cymhwyso, mae Mari Davies, Buddug Eckley, Gwenlli Jones, Manon Thomas, Sara Morgan, Erin Fon a Mari Pierce, wedi ymrywymo i astudio canran sylweddol o’u cwrs Meddygaeth israddedig yn Gymraeg.
Dywedodd Buddug Eckley:
"Rwy'n falch iawn o gael y cyfle i astudio rhan o'r cwrs Meddygaeth yn Gymraeg gan ei fod yn haws ac yn fwy naturiol astudio pwnc newydd yn fy iaith cyntaf. Bydd hyn hefyd yn sicrhau fy mod yn hyderus yn trîn â chleifion yn ddwyieithog yn y dyfodol."
Darlith feddygol gyntaf yn y Gymraeg
I gefnogi strategaeth iechyd 'Mwy na geiriau' Llywodraeth Cymru, nod yr Ysgol yw hybu defnydd naturiol o’r Gymraeg yn y gweithle iechyd ac mewn gwaith gwyddonol i adeiladu ar seiliau addysg Gymraeg mewn ysgolion. Ac yn bwysicach, i roi dewis iaith i gleifion. Gobeithio hefyd y gall hyn helpu i leddfu problemau recriwtio meddygon cyfrwng Cymraeg yng Nghymru.
I gefnogi strategaeth iechyd 'Mwy na geiriau' Llywodraeth Cymru, nod yr Ysgol yw hybu defnydd naturiol o’r Gymraeg yn y gweithle iechyd ac mewn gwaith gwyddonol i adeiladu ar seiliau addysg Gymraeg mewn ysgolion. Ac yn bwysicach, i roi dewis iaith i gleifion. Gobeithio hefyd y gall hyn helpu i leddfu problemau recriwtio meddygon cyfrwng Cymraeg yng Nghymru.
Mae’r ddarpariaeth Gymraeg yn yr Ysgol Meddygaeth yn datblygu’n barhaus. Ym mis Ionawr eleni, cyflwynodd Dr Awen Iorwerth, Darlithydd Clinigol ym Mhrifysgol Caerdydd, sy’n cael ei hariannu gan y Coleg, y ddarlith feddygol gyntaf drwy gyfrwng y Gymraeg, oedd yn llwyddiant ysgubol.
Ymddangosodd Dr Awen Iorwerth hefyd ar gyfres ddogfen boblogaidd, Doctoriaid Yfory, ar S4C oedd yn dilyn criw o fyfyrwyr Meddygaeth cyfrwng Cymraeg y Brifysgol dros gyfnod o flwyddyn.
Yn llongyfarch y myfyrwyr, dywedodd:
"Mae’n bleser cael gwrando ar drafodaeth aeddfed a marcio gwaith graenus y myfyrwyr disglair yma. Mae eu llwyddiant yn ennill yr Ysgoloriaethau Cymhelliant yn ddatblygiad cyffrous ar y llwybr i addysg feddygol gynhwysfawr drwy gyfrwng y Gymraeg."
Ewch i wefan yr Ysgol am ragor o wybodaeth am ddarpariaeth iaith Gymraeg yr Ysgol Meddygaeth.
Cewch ragor o wybodaeth am Ysgoloriaethau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar wefan y Coleg.