Datgelu’r hyn sy’n rhwystro pobl rhag gwneud ymarfer corff
7 Mawrth 2017
Datgelwyd yr hyn sy’n peri’r rhwystr mwyaf i bobl sy’n dechrau rhedeg i gadw’n heini gan astudiaeth o redwyr dibrofiad gan Brifysgol Caerdydd.
Mae’r rhain yn cynnwys bod yn rhy brysur, ofnau diogelwch ynghylch rhedeg ar eu pennau eu hunain - yn enwedig ymysg merched - a phryderon ynghylch rhedeg ar ffyrdd prysur.
Wrth i’r rhybuddion barhau am iechyd y genedl, mae ymchwilwyr ac arbenigwyr clinigol o Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd y Brifysgol wedi bod yn ymchwilio i’r hyn sy’n cymell pobl i redeg.
Gweithiodd y tîm ymchwil gyda rhedwyr dibrofiad a oedd yn cymryd rhan yn y ras dorfol ym Mhencampwriaethau Hanner Marathon y Byd IAAF/Prifysgol Caerdydd yng Nghaerdydd ym mis Mawrth 2016.
Daeth yr astudiaeth i’r casgliadau canlynol:
- Y prif rwystrau a amlygwyd oedd ymrwymiadau gwaith a bywyd, diogelwch wrth redeg ar eu pen eu hunain a ffyrdd prysur.
- Roedd y prif gymhellion ar gyfer rhedeg yn ymwneud ag iechyd ac ymdeimlad o les
- Roedd 8 o bob 10 o’r ymatebwyr yn defnyddio apiau monitro rhedeg
- Roedd digwyddiadau mawr yn ysbrydoli pobl i wneud ymarfer corff a chadw’n heini
- Roedd mentrau ffi fynediad yn denu rhedwyr dibrofiad i rasys torfol
- Roedd gan fenywod bryderon gwahanol i ddynion ynghylch dechrau gwneud ymarfer corff
- Nid oedd llawer o redwyr dibrofiad yn yr astudiaeth yn cael eu denu at glybiau rhedeg
Roedd y rhai a gymerodd ran yn yr astudiaeth ymhlith 500 o redwyr dibrofiad a gafodd eu recriwtio gan drefnwyr Hanner Marathon y Byd 2016, sef Run4Wales, gyda chymorth y Brifysgol, wedi iddynt dderbyn lleoedd am ddim trwy raglen cyfrifoldeb cymdeithasol Athletau ar gyfer Byd Gwell yr IAAF.
Gwahoddwyd y rhedwyr i gymryd rhan mewn dau arolwg, un cyn y ras ac un chwe mis yn ddiweddarach. Hefyd, cynigiwyd dwy raglen atal anafiadau wahanol drwy Dîm Ffisiotherapi Ymarfer Corff a Chwaraeon Ysbrydoli Perfformiad y Brifysgol, dan arweiniad yr Athro Nicola Phillips, yn y cyfnod yn arwain at y digwyddiad.
Gofynnwyd i'r rhedwyr dibrofiad beth oedd yn eu hysgogi i wneud ymarfer corff; beth oedd yn eu rhwystro rhag cadw’n heini; a beth y gellid ei wneud i barhau â’r gweithgaredd.
Dywedodd arweinydd yr ymchwil, Dr Liba Sheeran: "Gwyddom fod gweithgarwch corfforol yn dda i'n hiechyd, ond yr her yw deall sut y gallwn feithrin newid parhaol yn ymddygiad y genedl o ran ymarfer corff a chadw’n heini.
"Er bod rasys torfol yn darparu cymhelliant a chyfle, nid yw'n glir a yw hynny ynddo’i hun yn ddigon i sicrhau newid hirdymor mewn ymddygiad rhywun i wneud ymarfer corff yn rheolaidd.
"Dangosodd y canlyniadau fod digwyddiadau mawr wir yn ysgogi pobl i gadw’n heini ac i ddal ati, fodd bynnag, gall anafiadau fod yn broblem i redwyr dibrofiad, gyda saith rhedwr o bob deg yn adrodd ynghylch anafiadau."
Canfu'r astudiaeth fod y rhai a fynychodd y gweithdai atal anafiadau dan arweiniad ffisiotherapi 50% yn llai tebygol o adrodd ynghylch anaf a oedd yn effeithio ar eu hyfforddiant.
Yr hyn oedd yn rhwystro pobl rhag gwneud ymarfer corff yn rheolaidd yn bennaf oedd ymrwymiadau gwaith a bywyd, a nodwyd gan tua wyth o bob 10 o bobl, yna diogelwch, a nodwyd gan bron i draean o fenywod a 15% o ddynion, ac yna rhedeg ar ffyrdd prysur (12%).
Rhoddodd dynion a menywod bryderon gwahanol ynghylch peidio â dechrau rhedeg, gyda menywod yn poeni am ddiffyg paratoi a rhedeg o flaen torf, tra oedd dynion yn pryderu am beidio â chyrraedd eu targedau. Awgrymodd yr ymchwilwyr, felly, efallai bod angen strategaethau sy’n targedu menywod a dynion ar wahân i annog pobl i gadw’n heini.
Er gwaethaf y rhwystrau hyn, rhoddwyd nifer o resymau cadarnhaol dros redeg, gan gynnwys ymdeimlad o les, a adroddwyd gan 28% o ymatebwyr, cael awyr iach (22%) ac iechyd gwell (20%).
Roedd cost y ras yn ffactor, gyda dros wyth o bob 10 yn dweud y cafodd eu penderfyniad i ymgeisio am Hanner Marathon y Byd ei ddylanwadu gan yr IAAF yn cynnig lleoedd am ddim o dan ei chynllun cyfrifoldeb cymdeithasol.
Dywedodd mwyafrif helaeth y rhedwyr fod defnyddio apiau monitro rhedeg neu gadw dyddiadur hyfforddi yn strategaethau defnyddiol ar gyfer parhau i redeg.
Nododd bron pob ymatebydd eu bod yn bwriadu parhau i redeg. Dywedodd mwyafrif helaeth yr ymatebwyr a gwblhaodd yr arolwg dilynol chwe mis yn ddiweddarach eu bod yn parhau i wneud ymarfer corff.
Dywedodd y rhedwr dibrofiad Ali Abdi, a gymerodd ran yn yr ymchwil ac sydd wedi sefydlu grŵp rhedeg yn Grangetown, Caerdydd, ers hynny, fel rhan o brosiect ymgysylltu Prifysgol Caerdydd: “Mae rhedeg yn ffordd hwyliog, gymdeithasol a chymharol rad o gadw'n heini.
"Gwelodd yr astudiaeth nad oedd rhedwyr dibrofiad yn cael eu denu at glybiau rhedeg traddodiadol, ond mae Run Grangetown yn wahanol, gan ein bod ni’n glwb i redwyr dibrofiad yn benodol, gyda phwyslais ar fwynhau.
"Buaswn i’n argymell sefydlu neu ymuno â grŵp rhedeg anffurfiol fel ein un ni oherwydd ei fod yn eich annog chi i redeg yn rheolaidd a hyfforddi gyda phobl eraill ddibrofiad."
Mae’r tîm ymchwil, a oedd yn cynnwys sawl ffisiotherapydd, eisiau i’w canfyddiadau gael eu defnyddio i geisio annog pobl i ddechrau rhedeg fel ffordd o gadw’n heini.
Ychwanegodd Dr Sheeran: "Nawr, rydym yn gobeithio gweld newidiadau gan drefnwyr rasys torfol, noddwyr a chlybiau rhedeg, mewn partneriaeth â ffisiotherapyddion, i gymryd mwy o gyfrifoldeb dros iechyd a lles pobl sy’n rhedeg ras am y tro cyntaf.
"Yn benodol, rydym yn gobeithio gweld etifeddiaeth yn gysylltiedig â chodi lefelau cadw’n heini a chanlyniadau iechyd hirdymor y genedl."
Dywedodd Llywydd yr IAAF, Sebastian Coe: "Yn 2014, lansiodd yr IAAF ei rhaglen cyfrifoldeb cymdeithasol, 'Athletau ar gyfer Byd Gwell' i ddatblygu a hyrwyddo athletau ledled y byd ac i ysbrydoli newid cymdeithasol ar yr un pryd.
"Roeddem yn hynod falch fod 'Athletau ar gyfer Byd Gwell' yn gallu cynorthwyo 500 o redwyr newydd o gymunedau yng Nghymru i gymryd rhan ym Mhencampwriaethau Hanner Marathon y Byd IAAF/Prifysgol Caerdydd 2016, gan fanteisio ar y cyfle i ddilyn ffyrdd mwy iach o fyw."
Dywedodd Matt Newman, o Athletau Cymru a Phrif Weithredwr trefnwyr ras Caerdydd 2016, Run 4 Wales: "Mae Athletau Cymru wedi datblygu’r rhaglen redeg gymdeithasol Rhedeg Cymru dros y ddwy flynedd ddiwethaf, gyda'r nod o ysbrydoli, annog a chefnogi pob oedolyn yng Nghymru i redeg, a bydd yr astudiaeth hon yn caniatáu i ni barhau i chwalu'r rhwystrau sy'n atal rhedwyr newydd rhag cymryd rhan.
“Wrth gynnal digwyddiadau proffil uchel fel Pencampwriaethau Hanner Marathon y Byd IAAF/Prifysgol Caerdydd, a darparu mynediad am ddim i ddechreuwyr a’r rheiny sy'n wynebu rhwystrau rhag cymryd rhan, rydym wedi helpu i ysbrydoli pobl i ddal y byg rhedeg - ond rydym am sicrhau bod mwy o bobl yn parhau i gymryd rhan trwy fynd i'r afael â rhai o'r pryderon a amlygwyd yn yr adroddiad hwn.
"Bwriad darparu canllaw grwpiau rhedeg Rhedeg Cymru yn rhad ac am ddim, a chyfres o ddigwyddiadau hyfforddiant anffurfiol yn y cyfnod yn arwain at rasys fel Hanner Marathon Caerdydd/Prifysgol Caerdydd, yw rhoi’r rhwydwaith cymorth sydd ei angen ar ddechreuwyr i gymryd y cam nesaf at ddod yn gyfranogwyr rheolaidd.
"Byddwn yn parhau i ddarparu mentrau ffi fynediad a fydd yn ehangu cyrhaeddiad ein digwyddiadau ac yn helpu mwy o bobl i wella eu ffitrwydd a'u lles."
Prifysgol Caerdydd yw’r noddwr sy’n rhoi’r teitl i Hanner Marathon Caerdydd eleni, ac mae’n cynnig lleoedd am ddim i rai sy’n addo codi arian ar gyfer ymchwil y Brifysgol i ganser a niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl.
Os hoffech chi fod yn rhan o #TîmCaerdydd, gallwch gofrestru eich diddordeb drwy ddefnyddio'r ddolen hon.