'Pobl go iawn sy'n wynebu heriau go iawn'
3 Mawrth 2017
Arddangosfa ffotograffau yn dathlu gwaith trawsnewidiol y Brifysgol yn Namibia
Mae arddangosfa newydd yn tynnu sylw at y gwaith arloesol y mae Prifysgol Caerdydd yn ei wneud i wella iechyd pobl a lleihau tlodi mewn gwlad yn ne Affrica.
Mae effaith Prosiect Phoenix, a sefydlwyd gan y Brifysgol dair blynedd yn ôl, eisoes wedi cael ei gydnabod gan aelodau o Lywodraeth Namibia.
Mae Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Namibia wedi gofyn arweinydd Phoenix, yr Athro Judith Hall, i roi hyfforddiant arbenigol i weithwyr iechyd proffesiynol ledled y wlad.
Mae'r prosiect, sy'n gweithio law yn llaw â Phrifysgol Namibia ac yn cefnogi rhaglen Cymru o Blaid Affrica a Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol Llywodraeth Cymru, wedi helpu i wella sgiliau meddygon, nyrsys a bydwragedd.
Ond mae gwaith y tîm yn cwmpasu amrywiaeth ehangach o themâu sy'n cynnwys mwy na 30 o weithgareddau, megis:
- Gwella sgiliau mathemateg gwyddonwyr y dyfodol
- Cefnogi ieithoedd lleol
- Cynnal gwaith ymchwil ar y cyd ynglŷn ag esgeuluso plant
- Datblygu cymunedau o bobl sy'n frwdfrydig dros feddalwedd
- Achub bywydau mewn damweiniau ar y ffyrdd
- Codi dyheadau dysgwyr ifanc
- Gwella sgiliau astudio
- Hybu e-ddysgu
- Cynyddu'r ymwybyddiaeth o hawliau dynol
Mae arddangosfa ffotograffau newydd gan Paul Crompton o Brosiect Phoenix wedi cofnodi'r gwaith arloesol a'r bobl fu'n rhan ohono.
Dywedodd arweinydd y prosiect, yr Athro Judith Hall: "Rwy'n gobeithio y bydd yr arddangosfa hon yn cynyddu ymwybyddiaeth pobl o'n gwaith ysbrydoledig ag UNAM, a chyfraniad y prosiect at Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol Llywodraeth Cymru.
"Un o saith nod y Ddeddf Llesiant yw 'Cymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang', a thrwy weithio gyda Namibia, mae Cymru'n gwneud llawer i gyflawni'r adduned hon. Mae Cymru a Namibia yn rhannu ac yn tyfu drwy'r bartneriaeth hon.
"Mae ffotograffau rhagorol Paul yn dangos faint rydym wedi'i gyflawni hyd yma mewn cyfnod mor fyr mewn partneriaeth â'n cydweithwyr yn Namibia, ond mae hefyd yn ein hatgoffa bod cymaint mwy i'w wneud o hyd."
Dywedodd Mr Crompton: "Rwy'n gobeithio y bydd yr arddangosfa'n dangos pa mor anhygoel o eang yw'r prosiect, a'r effaith fawr mae'n ei chael.
"Y nod hefyd yw cyfleu ochr ddynol y gwaith – mae'n fuddiol i bobl go iawn sy'n wynebu heriau go iawn – ac mae hynny'n foddhaus iawn."
Bydd yr arddangosfa'n agor yn y Senedd ym Mae Caerdydd ddydd Llun 6 Mawrth, ac yn agored tan 17 Mawrth.
Mae wedi'i noddi gan Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, Llywodraeth Cymru.
Dywedodd Mr Gething: "Mae'r delweddau yn yr arddangosfa hon yn dangos yr effaith y mae'r prosiect hwn yn ei chael, a byddant yn helpu i godi ymwybyddiaeth o'r prosiect arloesol hwn.
"Rydym yn falch o gael cysylltiad â'r prosiect gwych hwn sydd, ymhlith llawer o bethau eraill, wedi helpu i wella sgiliau meddygon, nyrsys a bydwragedd yn Namibia, a chynnig llawer o gyfleoedd a phrofiadau rhyngwladol newydd i staff a myfyrwyr yng Nghymru a Namibia."
Mae gwaith Prosiect Phoenix yn cyd-fynd â nodau Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig, gan gynnwys tlodi, iechyd a lles, ac addysg.
Mae Prosiect Phoenix yn fenter gydweithredol rhwng Prifysgol Caerdydd ac UNAM, ac mae o fudd i'r naill ochr fel y llall.
Mae'n un o brosiectau ymgysylltu blaenllaw Prifysgol Caerdydd, sydd hefyd yn cael ei alw'r Rhaglen Trawsnewid Cymunedau, sy'n gweithio gyda chymunedau yng Nghaerdydd, Cymru a thu hwnt ym meysydd iechyd, addysg a lles ymhlith eraill.