Diddordeb ar lefel ryngwladol yn y gwyddorau cymdeithasol yn y Brifysgol
2 Mawrth 2017
Mae nod Prifysgol Caerdydd i adeiladu'r Parc Ymchwil Gwyddorau Cymdeithasol cyntaf yn y byd yn ysbrydoli academyddion ym mhrifddinas Twrci.
Yn ddiweddar, daeth y brifysgol gyntaf yn Nhwrci i arbenigo yn y gwyddorau cymdeithasol, Prifysgol Gwyddorau Cymdeithasol Ankara (ASBÜ), i ymweld â Phrifysgol Caerdydd. Mae ASBÜ yn creu canolfan newydd i arbenigo mewn dadansoddi effaith, arloesedd cyhoeddus, a chodi ymwybyddiaeth.
Cynhaliwyd eu hymweliad â Chymru am eu bod am ddysgu gan sefydliadau arloesedd llwyddiannus. Ar ôl ymchwilio i ddatblygiadau rhyngwladol, dewiswyd y Parc Ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd am ei fod yn arweinydd yn y maes.
Cafodd yr Athro George Boyne, Dirprwy Is-ganghellor, Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol, a'r Athro Rick Delbridge, Arweinydd Academaidd SPARK, gyfle i gwrdd â'r Athro Dr Mehmet Barca, Llywydd ASBÜ, a'i gydweithwyr yr Athro Cyswllt Erdal Akdeve a Gülsen Kaya Osmanbasoglu.
Fe wnaeth y trafodaethau ganolbwyntio ar sut y gall ASBÜ ddysgu o brofiadau Prifysgol Caerdydd yn datblygu SPARK, yn ogystal â'r prosesau ar gyfer gwireddu'r syniad.
Bydd SPARK yn cefnogi ymchwil flaenllaw fyd-eang ac arloesedd cymdeithasol drwy gael ymchwilwyr a phartneriaid allanol i weithio iddynt. Drwy gydweithio, byddant yn cyd-gynhyrchu gwybodaeth a syniadau ymarferol sy'n mynd i'r afael â heriau cymdeithasol. Bydd yn gweithredu fel arbrawf ar draws yr holl ddisgyblaethau gan roi'r wybodaeth sydd ei hangen ar lunwyr polisi, elusennau a diwydiannau i newid cymdeithas er gwell.
Mae ASBÜ yn gobeithio ail-greu'r datblygiadau hyn yn Nhwrci, a gwahoddwyd yr Athro Boyne a Delbridge i Ankara i gyfrannu ymhellach at gynlluniau ASBÜ.
Dywedodd yr Athro Dr Barca: "SPARK yw un o'r mentrau mwyaf sylweddol rydym yn ei ddilyn. Mae'n ein hysbrydoli o ran strwythur gweithredol a chynyddu ein maint fel Prifysgol."
Ychwanegodd yr Athro Delbridge, Arweinydd Academaidd SPARK: "Roeddem wrth ein bodd o glywed am ddiddordeb Twrci yn SPARK." Tra bydd angen nodweddion penodol er mwyn diwallu anghenion y bobl leol wrth greu menter debyg yn Ankara, y mae prif egwyddorion SPARK yn cael adborth cadarnhaol iawn gan gydweithwyr yn y DU a chydweithwyr rhyngwladol. Yr egwyddorion yw gweithio'n rhyngddisgyblaethol, cyd-gynhyrchu a chyd-leoli. "Mae'n gyffrous meddwl y gallai SPARK Caerdydd fod yn y cyntaf o blith llawer."
Cyfarfu'r ddirprwyaeth hefyd â chydweithwyr o'r Lab i glywed am bartneriaeth y Brifysgol â Nesta. Cafwyd cyfle i weld sut y mae'r Lab yn datblygu ffyrdd newydd o gynnig gwasanaethau cyhoeddus ac o arloesi ynddynt.