Llyfrgell Genedlaethol Cymru @Caerdydd
2 Mawrth 2017
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Phrifysgol Caerdydd yn falch o gyhoeddi arwyddo cytundeb cydweithredu sy'n amlinellu'r ffyrdd y bydd y ddau sefydliad yn gweithio gyda'i gilydd yn y dyfodol.
Mae hanes hir o gydweithredu rhwng y Llyfrgell Genedlaethol a Phrifysgol Caerdydd, gan gynnwys ar y prosiect arobryn WHELF LMS diweddar i gaffael System Rheoli Llyfrgelloedd newydd ar gyfer y sector. Mae'r cytundeb newydd yn adeiladu ar lwyddiannau blaenorol a bydd yn darparu buddion i'r cyhoedd yn gyffredinol yn ogystal ag i ddefnyddwyr presennol y ddwy lyfrgell.
“Llyfrgell genedlaethol ar garreg ein drws”
Yn ogystal ag arddangosfeydd ar y cyd, darlithoedd a digwyddiadau eraill, bydd myfyrwyr a'r cyhoedd ehangach yn gallu cael mynediad at gasgliadau ac adnoddau digidol Llyfrgell Genedlaethol Cymru o'i ganolfan newydd a leolir yn Llyfrgell y Celfyddydau ac Astudiaethau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd, sydd hyd yn hyn ond wedi bod ar gael ar y safle yn Aberystwyth, gan gynnwys ei archif sgrin a sain.
Dywedodd Linda Tomos, Prif Weithredwra Llyfrgellydd y llyfrgell Genedlaethol: "Mae'r trefniant newydd a chyffrous hwn rhwng y Llyfrgell Genedlaethol a Phrifysgol Caerdydd yn brawf pellach bod y Llyfrgell yn parhau i fod ar flaen y gad o ran cyflwyno ffyrdd newydd o agor y casgliadau cenedlaethol i bawb, lle bynnag y maent yn byw neu'n gweithio."
Dywedodd Janet Peters, Cyfarwyddwr Llyfrgelloedd Prifysgol Caerdydd: "Rydym yn edrych ymlaen at groesawu darllenwyr newydd i ofod pwrpasol y Llyfrgell Genedlaethol yn y Llyfrgell y Celfyddydau ac Astudiaethau Cymdeithasol ac i ddarparu'r un ystod o adnoddau digidol i'n myfyrwyr ac ymchwilwyr fel y byddent yn cael yn Aberystwyth. Bydd gennym lyfrgell genedlaethol yn llythrennol ar garreg ein drws.”