Syniadau mawr sy'n mynd i'r afael â dementia yn BioCymru 2017
2 Mawrth 2017
Bydd tri syniad rhagorol ar gyfer gofal dementia gwell a ddatblygwyd gan staff meddygol rheng flaen a gofalwyr cleifion yn cael eu dathlu yn BioCymru 2017.
Bydd tri syniad rhagorol ar gyfer gofal dementia gwell a ddatblygwyd gan staff meddygol rheng flaen a gofalwyr cleifion yn cael eu dathlu yn BioCymru 2017.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro a Phrifysgol Caerdydd wedi datblygu 'Her Dementia' fel rhan o'u hymdrech i sbarduno arloesedd clinigol yng Nghymru.
Lluniodd gofalwyr a staff syniadau sydd erbyn hyn yn wasanaethau go iawn:
- ystafell fyw o'r 1950au er mwyn sicrhau bod ward yn addas i bobl â dementia;
- poster ar gyfer erchwyn y gwely ac ymgyrch cyhoeddusrwydd i sicrhau bod cleifion yn cael digon o ddŵr;
- man gwarchodedig ar gyfer cleifion â dementia a gofalwyr.
Mae'r prosiectau'n cael eu harddangos yn nigwyddiad gwyddorau bywyd BioCymru eleni yng Nghaerdydd.
Y Cwtch
Mae'r ystafell fyw 1950au – a elwir y Cwtsh – yn cynnwys dodrefn o'r cyfnod, gan gynnwys chwaraewr recordiau a chabinetau gwydr. Mae wedi'i lleoli yn ward Dwyrain 18 yn Ysbyty Athrofaol Llandochau ger Caerdydd.
Syniad Ben Ford, Rheolwr y Ward, a Katherine Martinson, Nyrs Ailganolbwyntio ar ward Dwyrain 18 oedd yr ystafell. Helpodd aelodau o deuluoedd cleifion i ddylunio ac addurno'r man newydd.
Mae ward Dwyrain 18 yn rhan o'r Gwasanaethau Iechyd Meddwl ar gyfer Pobl Hŷn ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro. Mae'n gofalu am bobl â dementia a chlefyd Alzheimer sydd angen bod yn yr ysbyty.
Rhoddodd George Drummond o Ben-y-lan, Caerdydd, o'i amser i osod papur wal, teils a ffitiadau'r ystafell. Cafodd gwraig George ei derbyn i'r uned ym mis Tachwedd 2015 ac yn anffodus bu farw ym mis Mai y llynedd.
"Mae'r effaith y mae'r ystafell hon yn ei chael ar gleifion yn bwysicach o lawer na'r gwaith yr oedd yn rhaid ei wneud i'w chreu," dywedodd George. "Mae'r awyrgylch yn tawelu'r meddwl. Yn aml, roeddwn i'n gallu cymryd Elaine i mewn i'r ystafell, yn enwedig pan roedd hi wedi cynhyrfu. Yna, roedd hi'n dweud wrtha' i beth roedd hi am wrando iddo, ac roedden ni'n chwarae un o'r recordiau o blith ein casgliad mawr o recordiau maint 33. Roedd hyn bob amser yn tawlu ei meddwl, ac rydw i wedi gweld yr un effaith ar gleifion eraill."
Mae dwy ward arall yn Ysbyty Athrofaol Llandochau bellach wedi creu ystafelloedd tebyg i leihau straen cleifion.
Gwneud yn siŵr nad yw cleifion yn sychedig
Mae ymgyrch #Ineedadrink-H₂O yn annog staff ysbytai a gofalwyr i wneud yn siŵr bod cleifion yn cael digon i'w yfed drwy gynnig gwydraid o ddŵr iddynt pan fyddant yn mynd i'w gwely.
Datblygwyd y syniad gan reolwr y ward, Liz Vaughan, a Cath Bradshaw, nyrs datblygu arferion proffesiynol, yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd. Gweithiodd y ddau ohonynt gyda Jackie Askey, o Landaf, Caerdydd. Roedd ei gŵr, George, yn dioddef o ddementia, a bu farw fis ar ôl iddo gael ei dderbyn i'r ysbyty.
Dywedodd Jackie Askey: "Rwy'n credu bod monitro faint o ddŵr mae pobl â dementia yn ei yfed yn hanfodol, oherwydd maen nhw'n anghofio yfed, yn teimlo nad oes syched arnynt, neu mewn rhai achosion yn yfed gormod. Mae hyn yn bwysicach fyth ar adegau pan maen nhw'n sâl."
Mae'r ymgyrch yn cynnwys arwydd wrth erchwyn y gwely sy'n dangos bod angen dŵr ar glaf, mat bwrdd i gofnodi'r cymeriant dŵr, a thaflen i hyrwyddo hydradiad cleifion drwy gynnig gwybodaeth ynglŷn â sut i adnabod diffyg dŵr.
Gwneud wardiau yn addas i gleifion dementia
Mae'r trydydd prosiect – 'Sicrhau bod wardiau llawfeddygol yn addas i bobl â dementia' – yn ceisio gwella profiad a diogelwch pobl â dementia mewn ward lawfeddygol gyffredinol drwy newid yr amgylchedd i ddiwallu anghenion pobl â dementia, yn seiliedig ar feini prawf a ddatblygwyd gan sefydliad the King's Fund.
Cryfhaodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro a Phrifysgol Caerdydd eu hymrwymiad i weithio'n agosach ar Arloesedd Clinigol yn nigwyddiad BioCymru y llynedd. Sefydlwyd menter ffurfiol, y Bartneriaeth Arloesedd Clinigol, i sicrhau gofal iechyd gwell i gleifion, ac i sicrhau bod arloesedd clinigol yn cael ei droi'n welliannau i wasanaethau iechyd a chlinigol yng Nghymru yn gynt. Fel rhan o'r bartneriaeth, sefydlwyd Tîm Amlddisgyblaethol newydd i ddod â staff ac academyddion ynghyd i ddatblygu syniadau.
Jared Torkington, Llawfeddyg Ymgynghorol, sy'n cadeirio'r Tîm Amlddisgyblaethol: "Mae'r ffordd newydd hon o weithio yn dod â staff rheng flaen y GIG, clinigwyr ac academyddion ynghyd, ac yn ein galluogi i rannu a datblygu syniadau a'u cyflwyno ar lawr gwlad. Gall y Tîm Amlddisgyblaethol fynd â syniadau i'r cam datblygu nesaf, ynghyd â chynnig cyngor ac arweiniad..."
Bydd BioCymru hefyd yn clywed bod Athro yr Arglwydd Darzi o Denham yn siaradwr gwadd yn ail ddarlith Cartref Arloesedd Prifysgol Caerdydd ar 3 Mai. Bydd yr Arglwydd Darzi yn trafod sut mae datblygiadau ym myd cyfrifiaduron a dadansoddi data yn cyflymu cydgyfeiriant gwyddoniaeth a llawfeddygaeth.
Cynhelir BioCymru 2017 – y prif ddigwyddiad ar gyfer y sector biowyddorau yng Nghymru – yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ar 7 ac 8 Mawrth 2017.