Ail-ddiffinio olion traed cynhanesyddol prin fel rhai 7,000 o flynyddoedd oed
28 Chwefror 2017
Mae dadansoddiad newydd gan ymchwilydd o Brifysgol Caerdydd yn gwthio ein dealltwriaeth o set o olion traed dynol prin ar arfordir Cymru yn ôl 3,000 o flynyddoedd.
Darganfuwyd yr olion traed a adawyd gan blant ac oedolion hynafol ym Mhort Eynon ar Benrhyn Gŵyr yn 2014, ac yn wreiddiol credwyd eu bod yn dyddio yn ôl i'r Oes Efydd.
Fodd bynnag, mae gwaith dyddio radiocarbon gan fyfyriwr PhD Archaeoleg Rhiannon Philp bellach wedi dyddio'r olion traed bregus yn ôl i'r cyfnod Mesolithig – cyfnod pan roedd dynol ryw yn hela a chasglu yn bennaf.
Olion traed 'rhewedig'
Dywedodd Rhiannon, myfyriwr yn Ysgol Hanes, Pensaernïaeth a Chrefydd y Brifysgol: "Mae'r olion traed 'rhewedig' hyn a grëwyd mewn corstir dŵr ffres yn rhoi cipolwg i ni o grŵp o oedolion a phlant yn teithio gyda'i gilydd saith mil o flynyddoedd yn ôl.
"Ond mae'r darlun yn fwy manwl fyth. Mae olion anifeiliaid gwyllt yn awgrymu bod ceirw a baeddod yn symud yn yr un cyfeiriad. Mae'n bosibl bod yr hyn yr ydym yn ei weld 7,000 o flynyddoedd yn ddiweddarach yn giplun o grŵp hela Mesolithig yn dilyn trywydd eu hysglyfaeth drwy dirwedd agored a chorslyd sydd bellach wedi'i golli i'r tonnau."
Mae olion traed dynol ar ôl cyfnod Oes yr Iâ yn brin yn y DU – dim ond naw safle rhynglanwol sy'n bodoli, ac mae'r rhan fwyaf ohonynt yng Nghymru.
Mae gwaith ymchwil Rhiannon yn helpu i ail-greu tirwedd sydd bellach wedi'i cholli o ganlyniad i lefelau môr sy'n codi, a'i gosod yn ei chyd-destun. Mae hyn yn helpu i gynyddu ein dealltwriaeth o'r bobl a oedd yn byw ynddi.
"O ystyried pa mor fregus yw'r enghreifftiau hyn, a'r newid hinsawdd yn y cyfnod hwnnw a nawr, mae'n bwysig dros ben ein bod yn casglu cymaint o wybodaeth â phosibl pryd bynnag y cawn gyfle," ychwanegodd Rhiannon.
Ariannwyd y dadansoddiad gan Gymdeithas Hynafiaethau Cymru a Chymdeithas Gŵyr. Mae gwaith ymchwil pellach ar y gweill er mwyn cael dealltwriaeth well o'r amgylchedd hynafol a demograffeg y bobl y mae eu holion yn weladwy yn ystod y llanw isel yn unig.