Prosiect y pafiliwn yn cael hwb arian loteri
28 Chwefror 2017
Mae un o bum Prosiect Ymgysylltu Blaenllaw Prifysgol Caerdydd, Porth Cymunedol, wedi llwyddo yn ei gais am grant o £50,000 gan y Gronfa Loteri Fawr i ddatblygu syniadau ar gyfer adnewyddu ac ehangu Pafiliwn Grange, hen bafiliwn a grîn fowlio yng nghanol Grangetown.
Mae Porth Cymunedol Prifysgol Caerdydd wedi sicrhau un o naw grant cychwynnol o hyd at £50,000 yr un i helpu prosiectau i ddatblygu eu syniadau, cyn iddynt gyflwyno ceisiadau datblygedig yn yr ail gyfnod ariannu, gyda’r nod o sicrhau grantiau gwerth rhwng £300,000 a £1,150,000. Darllenwch ddisgrifiadau llawn o'r prosiectau yma.
Dros y tair blynedd diwethaf, mae Porth Cymunedol, sy’n cefnogi'r gwaith o ddatblygu cyfleoedd ymchwil, dysgu a gwirfoddoli yn Grangetown, wedi gweithio gyda grwpiau preswylwyr Grangetown, sef Prosiect Pafiliwn Grange a Gweithredu Cymunedol Grangetown, er mwyn adnewyddu’r hen Bafiliwn Bowlio Gerddi Grange a’i drawsnewid i fod yn lleoliad ffyniannus ar gyfer y gymuned gyfan.
Ganolog o gynaliadwyedd Pafiliwn Grange ar gyfer y dyfodol
Drwy sicrhau trwydded dros dro gan Gyngor Caerdydd, roedd modd i Borth Cymunedol a’i bartneriaid, gyda chefnogaeth gan Glwb Rotari Bae Caerdydd, Penseiri Dan Benham a Grŵp IBI, Mott MacDonald, N&M Construction, IKEA a Choleg Caerdydd a’r Fro, wneud gwaith atgyweirio hanfodol i’r adeilad, a lansiwyd Pafiliwn Grange fel lleoliad cymunedol ym mis Mehefin 2016 am gyfnod prawf. Ers hynny, mae’r prosiect wedi ffynnu ac mae galw mawr am yr adeilad a’r grîn.
Mae Pafiliwn Grange bellach yn cynnal gweithgareddau rheolaidd megis gwersi ESOL, clybiau gwaith cartref, fforwm ieuenctid, clwb stori a darllen, grŵp ffrindiau a chymdogion lleol, cyfarfodydd cymorth cyfeillion, syrjeri gofalwyr, cyfarfodydd synhwyro data ar y cyd ym maes yr amgylchedd i wyddonwyr dinesig, a grŵp garddio cymunedol. Caiff yr hen grîn fowlio ei thrawsnewid yn gae hyfforddiant pêl-droed bob nos Fercher ac mae gardd beillio sy’n groesawgar i wenyn ar ochr y grîn wedi ysbrydoli darn o gelf mewn prosiect celf o’r enw Stiwdio, a fydd yn cynnal arddangosfa yn y brif neuadd ar 3 Mawrth.
Mae datblygu caffi cymunedol yn elfen ganolog o gynaliadwyedd Pafiliwn Grange ar gyfer y dyfodol, a bydd yn lansio yn y gwanwyn. O dan arweiniad dyn busnes lleol, Moseem Suleman o gwmni pwdinau Grangetown, Ice Cream Passion, bydd y caffi yn cynnig te a choffi ac amrywiaeth o fyrbrydau i ddefnyddwyr Gerddi Grange, yn ogystal â chynnig cyfleoedd hyfforddiant i bobl ifanc leol, a fydd yn eu helpu i ennill sgiliau a allai arwain at gyflogaeth bellach.
'Â'r dathliad hir a pharhaus'
Dywedodd Richard Powell, Cadeirydd y Grŵp Preswylwyr, Prosiect Pafiliwn Grange: "Ar ran Prosiect Pafiliwn Grange, hoffwn ddiolch i bawb a wnaeth gredu, ac sy'n parhau i gredu yn ein huchelgais a ddechreuodd fel rhywbeth posibl ond ansicr. Maent wedi siapio a thrawsnewid syniad syml i fod yn brosiect unigryw a chredadwy sy'n llawn potensial ac o ansawdd gwych. Diolch hefyd i bawb a gredodd fod cymuned Grangetown yn gallu creu a chyflawni prosiect o’r fath. Boed yn aelodau o dîm Prifysgol Caerdydd a'r Porth Cymunedol, sydd wedi gweithio mor galed, neu Gyngor Dinas Caerdydd sydd erioed wedi dweud ‘na’, neu’r Clwb Rotari ym Mae Caerdydd, a gynigiodd gymorth mor werthfawr yn y cyfnodau cynnar, neu, yn wir, y Loteri Fawr. Mae pob un ohonynt wedi chwarae rhan sylweddol mewn datblygu'r syniad, ac yn ei lwyddiant heddiw. Mae llawer wedi darganfod bod gan Grangetown lawer i'w gynnig, yn enwedig y ffaith ei bod yn gymuned â chymunedau ynddi. Y cymunedau hyn, gyda'i gilydd, yw'r rheswm dros lwyddiant yr ardal.
"Diolch o galon, felly, i'r holl breswylwyr yn Grangetown a ddaeth at ei gilydd, ac a dreuliodd amser gwerthfawr yn gwirfoddoli ac yn cynnig anogaeth a chefnogaeth hynod werthfawr. Nawr dylwn wahodd pobl eraill i ymuno â'r dathliad hir a pharhaus. Diolch bawb, ac fe welwn ni chi rywbryd ar gyfer coffi."
Bydd grant datblygu'r Gronfa Loteri Fawr yn galluogi Prifysgol Caerdydd a'i phartneriaid cymunedol, Prosiect Pafiliwn Grange a Gweithredu Cymunedol Grangetown, i ddatblygu cynlluniau pensaernïol a chael caniatâd cynllunio i ailwampio ac ehangu'r adeilad a datblygu'r man awyr agored, gan greu lleoliad o safon sy'n gwbl hygyrch at ddefnydd tymor hir pobl Grangetown. Bydd ail gam y cais yn cael ei gyflwyno i'r Gronfa Loteri Fawr ym mis Medi.
Dywedodd Mhairi McVicar, Cyfarwyddwr Ymgysylltu ym Mhrifysgol Caerdydd: "Rydym wrth ein bodd bod ein partneriaeth rhwng Grangetown a Phrifysgol Caerdydd wedi cael y grant hwn, a fydd yn ein galluogi i ddod yn agosach fyth at helpu cymunedau Grangetown i wireddu eu gweledigaeth ar gyfer Pafiliwn Grange...”
'Perchnogaeth y gymuned'
Dywedodd Ashley Lister, Cadeirydd Gweithredu Cymunedol Grangetown: "Mae'n wych clywed bod Arian Cam Un y Gronfa Loteri Fawr wedi'i ddyfarnu i Bafiliwn Grange. Mae'n rhaid canmol pawb fu'n rhan o'r prosiect, yn enwedig o Borth Cymunedol Prifysgol Caerdydd, Prosiect Pafiliwn Grange, Gweithredu Cymunedol Grangetown a'r cymunedau ehangach. Mae'r cyfle hwn yn golygu bod perchnogaeth y gymuned dros y lleoliad newidiol hwn yn bosibilrwydd cynyddol a chyffrous.
Fel cadeirydd Gweithredu Cymunedol Grangetown, rwy'n edrych ymlaen yn fawr at barhau i weithio gyda phartneriaid a'r gymuned i ddatblygu'r prosiect hwn ymhellach. Yr hyn sy'n gwneud y prosiect hwn yn arbennig yw ymdrechion y gymuned, boed hynny ar gyfer caffi cymunedol, man cyfarfod neu ardd gymunedol fywiog. Mae Pafiliwn Grange yn dod â chymunedau at ei gilydd a byddwn yn annog preswylwyr i gysylltu â ni i gymryd rhan!"
Y Gronfa Loteri Fawr yw'r cyllidwr mwyaf yn y DU ar gyfer gweithgarwch cymunedol, mae'n galluogi pobl i arwain y broses o wella eu bywydau a'u cymunedau, a hynny yn aml drwy brosiectau bach, lleol. Mae'n gyfrifol am roi 40% o'r arian a godir wrth i bobl chwarae'r Loteri Genedlaethol i achosion da, a bob blwyddyn mae'n buddsoddi £650 miliwn ac yn dyfarnu tua 12,000 o grantiau ledled y DU ar gyfer iechyd, addysg, yr amgylchedd neu elusennau. Ers mis Mehefin 2004, mae wedi dyfarnu mwy na £8 biliwn i brosiectau sy'n newid bywydau miliynau o bobl.
Dywedodd John Rose, Cyfarwyddwr y Gronfa Loteri Fawr yng Nghymru: Mae'r rhaglen hon yn helpu cymunedau yng Nghymru i ddod yn gryfach ac yn fwy cynaliadwy drwy eu helpu i gael a datblygu asedau a gwella'r ardal maent yn byw ynddi. Yn y pen draw, drwy helpu i drosglwyddo asedau i sefydliadau mentrus sy'n cynnwys ac yn fuddiol i'w cymunedau, rydym yn helpu mwy a mwy o bobl i elwa ar yr asedau yn eu cymuned leol, ac yn creu incwm a swyddi lleol."
Mae tîm y Porth Cymunedol, Prifysgol Caerdydd, a phartneriaid yn y gymuned yn edrych ymlaen at gydweithio ar gam nesaf y cais, ac at ddatblygu a gweithio ar syniadau ar gyfer dyfodol Pafiliwn Grange yn y tymor hir.
Un o bum prosiect ymgysylltu blaenllaw Prifysgol Caerdydd yw'r Porth Cymunedol, ac mae'n canolbwyntio ar greu cysylltiadau rhwng Grangetown a'r Brifysgol. Drwy ddatblygu cysylltiadau rhwng staff y Brifysgol a phreswylwyr Grangetown, mae'r Porth Cymunedol yn hwyluso'r gwaith o ddatblygu a chynnal prosiectau a gweithgareddau er budd pawb.