Ysgol yn cipio gwobr cydweithio nodedig yn y gwobrau cyflogadwyedd cenedlaethol.
28 Chwefror 2017
Cyflwynwyd gwobr 'Cydweithio Gorau rhwng Prifysgol a Chyflogwr' i Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth eleni yng Ngwobrau Cenedlaethol Cyflogadwyedd Israddedigion.
Cynhaliwyd y seremoni ddydd Gwener 24 Chwefror, gyda'r categori 'Cydweithio gorau rhwng Prifysgol a Chyflogwr' yn dathlu'r cydweithio mwyaf effeithiol a dylanwadol rhwng prifysgol a chyflogwr er mwyn cynnig sgiliau cyflogadwyedd ychwanegol a chyfleoedd i fyfyrwyr.
I'r perwyl hwn, cydnabuwyd yr Ysgol am ei phartneriaeth lwyddiannus gyda chwmni Cyfreithwyr Hugh James sydd wedi'i meithrin a'i datblygu dros gyfnod o dros ddeng mlynedd.
Mae'r berthynas rhwng yr Ysgol a'r cwmni yn werthfawr i'r ddwy ochr. Drwy gefnogi'r Ysgol mewn nifer o ffyrdd, gan gynnwys presenoldeb mewn Ffeiriau'r Gyfraith, ymgynghoriaeth pro bono, cyngor gyrfaoedd a dyddiau agored yn y swyddfa, mae Hugh James i lawer o fyfyrwyr yn ddewis naturiol o gyflogwr ar ôl graddio; hyd yma mae dros 300 o fyfyrwyr wedi cael cyflogaeth a/neu brofiad gwaith gyda'r cwmni.
Ym mis Medi 2016, dechreuodd yr Ysgol a Hugh James fenter newydd bwysig, gyda'r nod o gefnogi dysgu'r myfyrwyr a'u sgiliau cyflogadwyedd. Yn rhan o hyn, lansiwyd rhaglen lleoliadau gwaith newydd i fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd sy'n astudio'r Gyfraith. Hyd yma, mae'r rhaglen wedi rhoi lleoliadau gwaith cyflogedig amser llawn i 18 o fyfyrwyr yn ystod eu trydedd flwyddyn.
Cafwyd cystadleuaeth gref i bartneriaeth yr Ysgol gyda Hugh James yn y categori hwn gan y prifysgolion a'r cyflogwyr canlynol:
- Prifysgol Kent, Ysgol Busnes a Enterprise Rent-A-Car
- Prifysgol Leeds a'r Adran Gwaith a Phensiynau
- Prifysgol Lincoln, y Tîm Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd a Heddlu Swydd Lincoln
- Prifysgol Southampton a Grosvenor Britain and Ireland
Cyflwynodd y Pencampwr Nofio Olympaidd, Rebecca Adlington OBE y wobr i'r darlithydd Hannah Marchant ar ran yr Ysgol a Diane Brooks oedd yn cynrychioli Hugh James.
Dywedodd Hannah Marchant am y wobr, "Rydym yn falch iawn o gael cydnabyddiaeth fel hon i'r cyfleoedd sylweddol a gynigir i'n myfyrwyr sy'n astudio'r Gyfraith er mwyn gwella eu sgiliau cyflogadwyedd. Rydym yn hynod ddiolchgar i Gyfreithwyr Hugh James am barhau i gefnogi'r Ysgol a rhoi lleoliadau gwaith/pro bono amhrisiadwy i'n myfyrwyr. Rydym yn edrych ymlaen at barhau i gydweithio â Hugh James, ac i ddatblygu ymhellach ein perthynas arbennig sy'n fuddiol i bawb."
Ymunodd Dianne Brooks o gwmni Hugh James â hi gan ddweud: "Mae'r dyfarniad hwn yn wobr wych i Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth ac i Gyfreithwyr Hugh James. Ers dros ddegawd rydym wedi cydweithio ar nifer o fentrau gan gynnwys rhaglenni pro bono, lleoliadau gwaith dros yr haf, ffeiriau'r gyfraith a'n rhaglen newydd sy'n cynnig blwyddyn o waith i fyfyrwyr israddedig. Mae'r berthynas yn datblygu o hyd ac mae'r cwmni, y Brifysgol a'r myfyrwyr ar eu hennill.
A ninnau'n gyflogwyr mawr yng Nghymru ac yn gwmni uchelgeisiol sy'n tyfu ym myd y Gyfraith, mae gennym angen cyson i ddenu'r bobl fwyaf talentog at y farchnad. Mae'r mentrau hyn yn hanfodol wrth ein helpu i adnabod myfyrwyr a allai fynd ymlaen i wneud cyfraniad mawr i Hugh James yn y dyfodol. Rydym yn edrych ymlaen at ddatblygu ein perthynas ymhellach a chydweithio'n agos â Phrifysgol Caerdydd dros y degawd nesaf."
Dywedodd Oliver Sidwell, Cyd-sylfaenydd RMP Enterprise, trefnwyr y gwobrau, "Ni fu myfyrwyr erioed mor awyddus i wneud profiad gwaith, ac mae ein Gwobrau yn tynnu sylw at y gwaith rhagorol a wneir mewn sefydliadau, prifysgolion a gan fyfyrwyr ledled y wlad.
Mae'r gystadleuaeth ar gyfer swyddi yn ffyrnig ac mae'n hanfodol bod gan fyfyrwyr y sgiliau, yr adnoddau a'r wybodaeth sydd eu hangen arnynt i wella eu cyflogadwyedd. Mae ein Gwobrau yn meincnodi llwyddiannau israddedigion.
Mae'n wir dweud bod enillwyr blaenorol ein gwobrau ar draws y tri chategori o wobrau wedi rhagori y tu hwnt i ddisgwyliadau."