£2m i un o ganolfannau'r Brifysgol
27 Chwefror 2017
Mae Canolfan Technolegau Lled-ddargludyddion Cyfansawdd Prifysgol Caerdydd wedi derbyn nawdd o £2m ar gyfer offer o'r radd flaenaf a fydd yn helpu technolegau modern o'r unfed ganrif ar hugain.
Mae'r nawdd gan Gyngor Ymchwil y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg (EPSRC) yn ychwanegu at y £10m a gafwyd ganddynt fis Rhagfyr ddiweddaf. Dyma'r arian a sefydlodd Canolfan Gweithgynhyrchu Lled-ddargludyddion Cyfansawdd EPSRC.
Dywedodd yr Athro Peter Smowton, Cyfarwyddwr y Ganolfan: "Bydd y dyfarniad amserol hwn yn ein helpu i brynu offer a fydd yn ein galluogi i droi ymchwil yn dwf yn nefnydd Lled-ddargludyddion Cyfansawdd ar raddfa fawr a chreu dyfeisiau.
Mae'r dyfarniad hefyd yn ychwanegu at y £13m a gafwyd gan yr Undeb Ewropeaidd er mwyn helpu i adeiladu, prynu cyfarpar a chynnal ystafell lân o'r radd flaenaf yn Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd Prifysgol Caerdydd.
Dywedodd yr Athro Smowton y bydd y dyfarniad diweddaraf o £2m ar gyfer offer yn caniatáu'r Ganolfan i nodweddu a datblygu cyfuniadau newydd o Led-ddargludyddion Cyfansawdd. Bydd hyn yn datblygu technoleg sy'n hwyluso'r tueddiadau diweddaraf fel cerbydau sy'n gyrru eu hunain a chyfathrebu 5G.
Partneriaeth rhwng Prifysgol Caerdydd ac IQE, gwneuthurwr wafferi lled-ddargludyddion uwch byd-eang yw'r Ganolfan, a bydd yn cydweithio'n agos â Chanolfan Gweithgynhyrchu Lled-ddargludyddion Cyfansawdd y Dyfodol EPSRC.
Bellach, mae gan y Ganolfan nifer o gyfleoedd i fyfyrwyr PhD sy'n cael eu hariannu i gydweithio â chwmnïau blaenllaw byd-eang ar dechnoleg Lled-ddargludyddion. Bydd dau gwrs MSc newydd ar Led-ddargludyddion Cyfansawdd hefyd yn cychwyn ym mis Hydref.