Memorandwm o Ddealltwriaeth gyda Phrifysgol Monash
23 Chwefror 2017

Mae Sefydliad Ymchwil Systemau Imiwnedd Prifysgol Caerdydd a Sefydliad Darganfod Biofeddygaeth Prifysgol Monash wedi arwyddo memorandwm o ddealltwriaeth. Canlyniad hyn yw y bydd y ddau sefydliad yn ehangu ar y gweithgareddau sy'n digwydd ar y cyd rhyngddynt.
Mae'r cytundeb cydfuddiannol hwn dros bum mlynedd yn cydnabod y prosiectau hynod gynhyrchiol ar y cyd ynglŷn â llid ac imiwnedd sydd eisoes ar y gweill. Mae'n ddull o alluogi prosiectau ychwanegol ar y cyd ym meysydd cydweithio ar ymchwil; cyfnewid deunyddiau, ysgolheigion a myfyrwyr; a seminarau a gweithdai cydweithredol.
'Yn fuddiol i’r naill ochr a’r llall'
Dywedodd yr Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd: "Mae llofnodi'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn dathlu cam arall ymlaen mewn rhaglen gyfnewid a throsglwyddo gwybodaeth rhwng y ddwy wlad a fydd yn parhau i fod yn llwyddiannus iawn, ac yn fuddiol i’r naill ochr a’r llall."

"Rydym yn falch iawn o arwyddo'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth ar ran Prifysgol Caerdydd gyda Sefydliad Darganfod Biofeddygaeth Monash."
Ychwanegodd yr Athro Dylan Jones, Dirprwy Is-ganghellor Coleg y Biowyddorau a Gwyddorau Bywyd, Prifysgol Caerdydd: “Mae Prifysgol Caerdydd eisoes yn cymryd rhan mewn amryw weithgareddau cynhyrchiol gyda Monash ym maes ymchwil fiofeddygol.”
'Llawer o'r un diddordebau ymchwil'
Ymysg y prosiectau proffil uchel sydd ar y gweill ar hyn o bryd mae sawl prosiect am fioleg derbynyddion lymffocyt ac astudiaeth ar y cyd sydd wedi darganfod sut y gall HIV-I osgoi'r system imiwnedd.
Wrth sôn am yr astudiaeth HIV-I, dywedodd yr Athro Jamie Rossjohn, academydd a anwyd yng Nghymru ond sy'n byw yn Awstralia ers 1995, ac sy'n aelod gyfadran o Sefydliad Ymchwil Systemau Imiwnedd: "Roedd darganfod hyn yn annisgwyl ac yn gyffrous ac roedd dim ond yn bosibl o ganlyniad i'r cysylltiadau clòs rhwng ymchwilwyr Monash a Chaerdydd."
Wrth sôn am brosiect ar y cyd a arweiniodd at £2m o gyllid i edrych ar fecanweithiau llidiol sy'n gyfrifol am achosi arthritis a chanser, dywedodd yr Athro Simon Jones o Brifysgol Caerdydd: "Mae Caerdydd a Monash yn rhannu llawer o'r un diddordebau ymchwil, sy'n cefnogi ein huchelgais o wella ein dealltwriaeth o sut y mae clefydau cronig yn datblygu, diagnosis cleifion a thriniaeth."

'Hanes hir o gydweithio cynhyrchiol iawn'
Mae ymchwil ar y cyd rhwng y ddau sefydliad hefyd wedi cynnwys ymweliadau gan sawl ymchwilydd ar ddechrau eu gyrfa, gan gynnwys Cymrodoriaeth Ymchwil Arthritis y DU clodfawr i Dr Gareth Jones sydd wedi gweithio am ddwy flynedd yn Awstralia yn ymchwilio i arthritis llidiol. Yn yr un modd, symudodd Dr Claire Greenhill a Dr Tommy Liu o Melbourne i Gaerdydd i gwblhau astudiaethau ôl-ddoethurol.
Ym mis Mehefin 2015, aeth yr Athro Simon Jones a'r Athro Valerie O'Donnell, Cyd-Gyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil Systemau Imiwnedd, i Monash ar Wobr Teithio Ryngwladol Prifysgol Caerdydd. Diben yr ymweliad oedd cychwyn ar y gwaith o greu Memorandwm o Ddealltwriaeth. Dywedodd Valerie: "Mae gan Brifysgol Caerdydd a Monash hanes hir o gydweithio cynhyrchiol iawn...”

“Bydd cydnabod yr ymchwil hon gyda Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn drawsnewidiol ac yn ein galluogi i barhau â'n gwaith a denu mwy o staff a phrosiectau i gymryd rhan yn y rhaglen gyfnewid hon."