Myfyrwraig Ymchwil a'i hantur yn y Ffindir
22 Chwefror 2017
Mae'r myfyrwraig PhD, Kaisa Pankakoski o Ysgol y Gymraeg Prifysgol Caerdydd, wedi cael arian grant gan Fwrdd Addysg y Ffindir a Chymdeithas Ffilolegol Prydain Fawr ar gyfer lleoliad ymchwil estynedig yn y Ffindir.
Bydd Kaisa yn gweithio yn Adran Ieithoedd Modern Prifysgol Helsinki rhwng mis Ebrill a mis Awst 2017 gyda'r Athro Minna Palander-Collin, Cyfarwyddwr Colegiwm Astudiaethau Uwch Helsinki ac Athro'r Saesneg.
Yn ystod ei chyfnod yn Helsinki, bydd Kaisa yn cydweithio ag ymchwilwyr o'r Ffindir i ddatblygu ei thraethawd ymchwil PhD, sy'n ymwneud â theirieithrwydd, ac yn cynnal ymgynghoriadau eang eu cwmpas. Bydd hyn yn cynnwys cydweithio ag ymchwilydd ym maes teirieithrwydd ym Mhrifysgol Turku, yn ogystal â chyfweliadau ag wyth teulu sy'n rhan o astudiaeth achos (y bydd traethawd ymchwil Kaisa yn seiliedig arnynt) ac aelodau o'u teuluoedd estynedig.
Mae Kaisa yn esbonio mai prif nod ei thraethawd ymchwil yw: "...archwilio i ba raddau mae agweddau fel strategaethau iaith teuluoedd neu ffactorau cymdeithasol-ddiwylliannol a chymdeithasol-ieithyddol yn dylanwadu ar drosglwyddiad iaith mewn plant teirieithog. Nid yw gwaith ymchwil blaenorol wedi ystyried safbwyntiau plant ac rydw i'n bwriadu archwilio'r cyswllt posib rhwng profiadau a throsglwyddiad iaith plant. Yn benodol, rydw i'n ymchwilio i blant teirieithog mewn dwy gymdeithas ddwyieithog; sef Cymru a'r Ffindir, ond mae disgwyl i ganfyddiadau'r gwaith ymchwil gael eu trosglwyddo'n hawdd, felly byddant yn berthnasol ac yn bwysig yn rhyngwladol. Bydd hefyd yn darparu dadansoddiad cymharol o deuluoedd teirieithog mewn dwy gymuned ddwyieithog wahanol a'r heriau a'r cyfleoedd sy'n gysylltiedig â magu plant yn deirieithog. Rydw i'n ddiolchgar am yr arian rydw i wedi'i gael a fydd yn fy ngalluogi i gasglu data ansoddol gwerthfawr ac ymgysylltu â chyfranwyr wyneb yn wyneb".
Mae hanes a phrofiad y teulu yn rhan fawr o'r hyn sy'n cymell Kaisa i ysgrifennu ei thraethawd ymchwil ar gyfer ei PhD. Mae ganddi ddau o blant, sy'n 3 a 7 oed, ac maent yn siarad Cymraeg, Saesneg a Ffinneg, a byddant yn mynd gyda Kaisa i'r Ffindir. Byddant yn mynd i sefydliad addysg blynyddoedd cynnar drwy gyfrwng y Ffinneg, y mae Kaisa yn ei ddisgrifio fel "profiad cyfnewid myfyrwyr" ynddo'i hun.
Ychwanegodd Kaisa: "Fe wnes i adael y Ffindir yn 1998 ac ers hynny rydw i wedi byw mewn 13 o ddinasoedd mewn pum gwlad wahanol. Mae gen i deulu yn byw yn y Ffindir o hyd a bydd y daith yma'n bwysig iawn o safbwynt proffesiynol a phersonol. Rydw i'n falch y bydd y plant yn gallu dod gyda mi, ac er na fydd fy mhartner yn gallu dod oherwydd ymrwymiadau gwaith, o leiaf bydd ganddo'r ci i gadw cwmni iddo!"
Mae Dr Jon Morris, o Uned Ymchwil Iaith, Polisi a Chynllunio Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, yn cydnabod pa mor bwysig yw'r daith i waith ymchwil Kaisa. Dywedodd: "Bydd prosiect Kaisa yn gwneud cyfraniad pwysig at waith ar sut mae rhieni'n ceisio defnyddio ieithoedd lleiafrifol gartref. Fodd bynnag, mae ei phrosiect yn unigryw gan ei fod yn ystyried sut y caiff ieithoedd lleiafrifol cenedlaethol fel y Gymraeg yng Nghymru neu'r Swedeg yn y Ffindir eu defnyddio gan rieni sydd eisoes yn siarad iaith arall (yn ogystal â Saesneg neu Ffinneg) ac sydd o bosibl wedi symud o wlad arall. Rydym wrth ein bodd y bydd yn gallu casglu data gan deuluoedd yn Helsinki a fydd yn ei galluogi i gymharu eu profiadau nhw â phrofiadau teuluoedd yng Nghymru.”
Bydd y grant gan Fwrdd Addysg y Ffindir yn talu am gostau byw a gweithio yn Helsinki am bum mis tra bydd yr ysgoloriaeth gan Gymdeithas Ffilolegol Prydain Fawr yn cyfrannu at gostau teithio, cludiant a nwyddau traul.