Catapwlt Lled-ddargludyddion Cyfansawdd yn cyhoeddi Cadeirydd
22 Chwefror 2017
Bydd dyn busnes o Galiffornia, Kevin Crofton, yn arwain Catapwlt Lled-ddargludyddion Cyfansawdd £50m Llywodraeth y DU.
Nod y Catapwlt yw cynyddu’r defnydd o ddyfeisiau lled-ddargludo ym myd diwydiant drwy ddatblygu clwstwr o gwmnïau o'r radd flaenaf ar hyd yr M4.
Bydd y Catapwlt yn gweithio gyda'r Ganolfan Lled-ddargludyddion Cyfansawdd – menter ar y cyd rhwng Prifysgol Caerdydd a'r cwmni wafferi mwyaf blaenllaw'r byd, IQE, i ddatblygu technolegau sy'n gyrru dyfeisiau electronig y dyfodol.
Mae Kevin Crofton yn ymuno â'r Catapwlt ar ôl gyrfa 25 mlynedd yn y diwydiant lled-ddargludyddion. Mae ganddo brofiad gweithredol yn y DU ac UDA, ac ar hyn o bryd mae'n Llywydd ar SPTS Technologies yng Nghasnewydd, ac yn Is-Lywydd Corfforaethol Orbotech Inc.
Ganolog i'r dyfeisiau yr ydym yn eu defnyddio heddiw
Mae lled-ddargludyddion cyfansawdd yn ganolog i'r dyfeisiau yr ydym yn eu defnyddio heddiw, gan gynnwys ffonau clyfar, llechi, a systemau cyfathrebu lloeren.
Maent yn ganolog ar gyfer datblygu technolegau newydd, gan gynnwys rhwydweithiau 5G a 6G, goleuo hynod effeithiol, technegau delweddu newydd ym maes diagnostig diogelwch ac iechyd.
Rhagwelir y bydd y farchnad fyd-eang ar gyfer lled-ddargludyddion cyfansawdd yn cyrraedd rhwng £75bn a £125bn erbyn 2025.
Nod y Catapwlt, a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2016, yw creu clwstwr Lled-ddargludyddion Cyfansawdd yn Ne Cymru a Gorllewin Lloegr, gan ddod â chwmnïau o'r radd flaenaf at ei gilydd y greu swyddi sgiliau uchel.
'O dde Califfornia i dde Cymru'
Dywedodd Dr Wyn Meredith, Cyfarwyddwr y Ganolfan Lled-ddargludyddion Cyfansawdd: "Mae penodiad Kevin Crofton yn amserol iawn. Mae'n dod â chyfoeth o brofiad datblygu masnachol i'r Catapult ar yr union adeg yr ydym yn dechrau gweld clwstwr o gwmnïau a fydd yn manteisio ar gymwysiadau lled-ddargludyddion cyfansawdd ac sydd â’r gallu i sbarduno datblygiad technolegau'r 21ain ganrif...”
Ychwanegodd Kevin Crofton: "Edrychaf ymlaen at arwain cyfraniad hanfodol y Catapwlt at y diwydiant lled-ddargludyddion cyfansawdd yn y DU...”
“Dylai hyn helpu i sbarduno arloesedd ymhlith busnesau sydd eisoes yn bodoli, a helpu cwmnïau deillio i lwyddo."
Mae'r Catapwlt Cymwysiadau Lled-ddargludyddion Cyfansawdd yn gam allweddol o ran datblygu'r clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd cyntaf, sy'n cydnabod arbenigedd diwydiannol yn y maes hwn ar hyd coridor yr M4.
'Ar flaen y gad o ran arloesedd'
Dywedodd y Gweinidog Gwladol y DU dros Brifysgolion, Gwyddoniaeth, Ymchwil ac Arloesedd, Jo Johnson: "Mae buddsoddiad y llywodraeth yn y Catapwlt Cymwysiadau Lled-ddargludyddion Cyfansawdd yn dangos bod gennym hanes o fod yn arweinwyr ym maes electroneg uwch – cryfder y byddwn yn ei ddatblygu drwy ein Strategaeth Ddiwydiannol er mwyn sicrhau bod y DU yn parhau i fod ar flaen y gad o ran arloesedd...”
Ychwanegodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns: "Mae llawer o'r gwaith arloesol i ddatblygu'r dechnoleg gymhleth sy'n pweru ein ffonau symudol a dyfeisiau eraill yn cael ei wneud yma yng Nghymru. Bydd y ganolfan ymchwil newydd hon yn pwysleisio ein henw da fel arweinwyr rhyngwladol ym maes lled-ddargludyddion, a chyda Kevin Crofton yn bennaeth, byddwn ar flaen y gad ym maes datblygu digidol...”
Ychwanegodd Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth Cymru, Julie James: "Mae gwyddoniaeth yn sail i arloesedd a datblygiadau technolegol, ac mae'n hynod bwysig ar gyfer twf economaidd ac i greu swyddi o safon yng Nghymru...”