Ysgrifennydd Gwladol yn ymweld â disgyblion ysgol i roi gwers gwleidyddiaeth
21 Chwefror 2017
Yn ddiweddar aeth Dr Einion Dafydd, Darlithydd mewn Astudiaethau Seneddol, gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru , y Gwir Anrhydeddus Alun Cairns AS, i ymweld ag ysgol gyfun i annog disgyblion i astudio Gwleidyddiaeth yn y Brifysgol.
Cafodd yr ymweliad ag Ysgol Gyfun y Barri ei drefnu fel rhan o raglen 'Siaradwyr i Ysgolion' y Gymdeithas Astudiaethau Gwleidyddol, sy'n trefnu i academyddion ym maes gwleidyddiaeth ymweld ag ysgolion yn rhad ac am ddim i roi darlithoedd i ddisgyblion am amrywiaeth o bynciau.
Yn ddiweddar, cafodd Bil Cymru ei dywys drwy'r Senedd yn San Steffan gan yr Ysgrifennydd Gwladol, gan sefydlu fframwaith cyfansoddiadol newydd ar gyfer datganoli yng Nghymru. O ganlyniad, treuliwyd llawer o'r ymweliad yn trafod yr heriau allweddol y mae Cymru a'r DU yn eu hwynebu, gan gynnwys Brexit, yr economi, a dyfodol y GIG. Roedd y disgyblion o flynyddoedd 11-13 yn frwd am y digwyddiad, a chafwyd trafodaeth fywiog â'r Ysgrifennydd Gwladol ynglŷn â'r heriau sy’n gysylltiedig â bod yn Weinidog Cabinet ac AS lleol, ac am y gwahaniaethau rhwng natur gwleidyddiaeth San Steffan a Bae Caerdydd.
Ar ôl yr ymweliad, dywedodd Dr Dafydd: "Mae ymweld ag ysgolion yn ffordd bwysig o ennyn diddordeb pobl ifanc yn y pynciau y gallant eu hastudio yn y Brifysgol. O ystyried y sefyllfa wleidyddol bresennol yma yng Nghymru ac yn Ewrop ac UDA, mae hon yn adeg wych i ddangos disgyblion faint o effaith y bydd gwleidyddiaeth yn ei chael ar eu bywydau nawr, ac yn y dyfodol wrth iddynt ddod yn oedolion. Roeddwn i'n falch iawn o weld faint o'r disgyblion hyn oedd yn dangos diddordeb a brwdfrydedd am ein hymweliad, ac rwy'n gobeithio y bydd eu diddordeb yn y maes yn parhau wrth iddynt dyfu'n hŷn."