Creu sescwiterpenau yn y labordy
17 Chwefror 2017
Mae grŵp o wyddonwyr ym Mhrifysgol Caerdydd wedi dyfeisio ffordd newydd i gynhyrchu sescwiterpenau yn effeithlon yn y labordy.
Mae rhai o'r cynhyrchion naturiol hyn i'w canfod mewn bwyd sbeislyd, pryfed, dail planhigion a chwrw, a dangoswyd eu bod yn driniaeth effeithiol ar gyfer annwyd, clefyd cardiofasgwlaidd, canser a malaria.
Mewn meddyginiaethau gwerin, sescwiterpenau yw’r cynhwysyn gweithredol mewn triniaethau fel rhai ar gyfer dolur rhydd, llosgiadau, ffliw a niwroddirywio.
Mae'r tîm o Ysgol Cemeg y Brifysgol bellach wedi traswnewid y dull o syntheseiddio sescwiterpenau'n broses lawer gyflymach a mwy effeithlon, sy'n caniatáu iddynt ddyblu cynhyrchedd o'i gymharu â dulliau blaenorol.
Dorri'r adwaith
Yn eu hastudiaeth, defnyddiodd yr ymchwilwyr ffordd gain i ryddhau'r sescwiterpenau o'r biocatalyddion ensym a ddefnyddid yn y broses gynhyrchu drwy dorri'r adwaith yn filoedd o adweithiau bach unigol.
Hyd at nawr, bu’n anodd iawn creu sescwiterpenau yn y labordy ac mae'r broses yn aml yn cymryd llawer o amser ac yn ddrud. Mae hyn yn rhannol oherwydd bod y sescwiterpenau yn 'ludiog' iawn ac yn tueddu i rwymo i'r ensym sy'n eu cynhyrchu. Drwy wasgu'r adwaith ar hyd tiwb plastig troellog, roedd modd iddynt wahanu'r cyfansoddyn oddi wrth yr ensym mewn miloedd o ddarnau bach a chasglu'r cynhyrchion dymunol ar ddiwedd yr arbrawf.
Bydd y dull newydd hwn yn rhoi mynediad hawdd i ymchwilwyr at gyfansoddion gwerthfawr er mwyn ymchwilio ymhellach i'w heffeithiolrwydd ar gyfer trin rhai o'r cyflyrau meddygol mwyaf dybryd fel malaria a chanser.
Dywedodd yr Athro Rudolf Allemann, Pennaeth yr Ysgol Cemeg: "Mae cynhyrchu terpenau yn aml yn dibynnu ar eu hechdynnu o ffynonellau naturiol..."