Menter gan y Brifysgol yn ysbrydoli disgyblion
16 Chwefror 2017
Ymunodd disgyblion o dde Cymru ag Aelodau Cynulliad ac academyddion o Brifysgol Caerdydd yn y Senedd ym Mae Caerdydd. Diben yr ymweliad oedd edrych ar wleidyddiaeth a'r broses o ddeddfu yng Nghymru.
Trefnwyd yr ymweliad fel rhan o'r "Ysgol Aeaf" sef rhaglen breswyl dri diwrnod i blant 14 a 15 oed o ysgolion ar draws de Cymru er mwyn ysbrydoli'r rhai sy'n llai tebygol o barhau â'u haddysg uwch, i ystyried mynd i brifysgol. Yn ogystal â chanolbwyntio ar Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth fel rhan o'r cwricwlwm craidd, trefnodd academyddion o Brifysgol Caerdydd sesiynau blasu mewn amryw o bynciau gan gynnwys y Gyfraith, Portiwgaleg, Ystadegau a Cherddoriaeth. Y nod oedd rhoi rhyw syniad i'r disgyblion o'r amrywiaeth y gall addysg uwch ei gynnig.
Yn rhan o'r ymweliad â'r Senedd, cafodd y disgyblion y cyfle i gwrdd ag Aelodau Cynulliad lleol i glywed rhagor am eu gwaith.
Mae prosiect yr "Ysgol Aeaf" wedi'i drefnu a'i ariannu drwy bartneriaeth rhwng Campws Cyntaf, Prifysgol Caerdydd a Gwasanaeth Addysg ar y Cyd Consortiwm Canolbarth y De. Mae'r gyd-fenter yn dod ag 80 o ddisgyblion ynghyd o 7 ysgol, ar draws 5 awdurdod lleol.
Hanes cryf o helpu
Mae Prifysgol Caerdydd yn hen law ar helpu myfyrwyr i oresgyn rhwystrau at addysg uwch. Drwy weithio gyda thros 100 o ysgolion a cholegau mewn ardaloedd difreintiedig ledled Cymru, mae'r Brifysgol yn helpu pobl ifanc sy'n llai tebygol o fynd i Brifysgol i ennill yr hyder a'r sgiliau sydd eu hangen arnynt i lwyddo. Mae hyn ochr yn ochr â'r gefnogaeth ystyrlon a roddir i fyfyrwyr yn ystod eu cyfnod yng Nghaerdydd i wneud yn siŵr eu bod yn cael profiad addysg cyfoethog a gwerth chweil.
Dywedodd Yr Athro Amanda Coffey, Dirprwy Is-Ganghellor ar gyfer Profiad Myfyrwyr a Safonau Academaidd ym Mhrifysgol Caerdydd: "I rai pobl ifanc, gall fynd i'r brifysgol ymddangos fel breuddwyd gwrach; yn enwedig os nad ydynt yn adnabod rhywun arall sydd â phrofiad o addysg uwch. Mae'n bosibl nad yw llawer ohonynt yn gwybod am y cyfleoedd eang sydd ar gael, neu nid oes ganddynt yr hyder i ddechrau'r broses o gyflwyno cais..."
"Mae gan fenter yr "Ysgol Aeaf" rôl bwysig wrth helpu pobl ifanc i gymryd y camau cychwynnol ar y daith hon i addysg uwch.”