Prifysgol Caerdydd yn cyhoeddi Rhag Is-Ganghellor newydd
16 Chwefror 2017
Mae Prifysgol Caerdydd yn falch o gyhoeddi penodiad ei Rhag Is-Ganghellor newydd, yr Athro Karen Holford, FREng, FLSW, CEng FIMechE.
Bydd yr Athro Holford yn dechrau ei swydd newydd ar 3 Ebrill 2017. Dros y pum mlynedd ddiwethaf mae hi wedi arwain Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg ym Mhrifysgol Caerdydd.
Meddai’r Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor y Brifysgol: "Mae’r Athro Holford wedi gwneud gwaith rhagorol fel Dirprwy Is-Ganghellor..."
Dywedodd yr Athro Holford: "Rwy'n hynod falch o gael fy mhenodi'n Rhag Is-Ganghellor ym Mhrifysgol Caerdydd…"
"Mae'r Athro Treasure wedi fy ysbrydoli; rydw i wedi dysgu cymaint ganddi. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at yr her newydd hon. Rwy'n falch o'r holl bethau a gyflawnwyd gennym yng Ngholeg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg, ac rwy'n ddiolchgar i bawb sydd wedi cefnogi ein gweledigaeth strategol."
Mae'r Athro Holford yn cymryd awenau'r rôl ar ôl i'r Athro Elizabeth Treasure gael ei phenodi'n Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth.
Fel Rhag Is-Ganghellor, bydd yr Athro Holford yn cydweithio'n agos â'r Is-Ganghellor a'r Dirprwy Is-Gangellorion i roi arweiniad i'r Brifysgol a chyflawni amcanion strategaeth y sefydliad.
Dechreuodd gyrfa’r Athro Holford yn Rolls-Royce lle cyfrannodd at amrywiaeth o brosiectau technegol, gan gynnwys gwaith ar y peiriannau Adour a Pegasus. Yna, yn AB Electronic Products, bu’n gyfrifol am ddatblygu cynhyrchion modurol i gwmnïau megis BMW, Jaguar a Rover, a chafodd ei dyrchafu mewn dim o dro i rôl uwch-beiriannydd.
Ymunodd â'r Ysgol Peirianneg yng Nghaerdydd fel darlithydd ym 1990, a daeth yn gyfarwyddwr yn 2010.
Ers symud i'r byd academaidd 26 mlynedd yn ôl, mae wedi helpu i ddatblygu enw da rhyngwladol a blaenllaw yr ymchwil allyriadau acwstig a gynhelir ym Mhrifysgol Caerdydd, yn enwedig y gwaith arbrofol a wneir yn un o gyfleusterau gorau Ewrop. Yn sgîl yr ymchwil hon, mae technoleg wedi'i datblygu sy'n gallu monitro diogelwch pontydd a strwythurau eraill yn llawer gwell. Erbyn hyn, mae'r tîm yn defnyddio'r un technegau er mwyn canfod diffygion mewn awyrennau, gan gynnig y posibilrwydd o chwyldroi dyluniadau a chreu awyrennau ysgafnach.
Mae'r Athro Holford wedi cyhoeddi mwy na 160 o ddarnau gwaith ymchwil, gan gynnwys mwy nag 80 o bapurau mewn cyfnodolion a adolygir gan gymheiriaid. Mae hi wedi arwain sawl prosiect ymchwil a noddir gan gynghorau ymchwil a byd diwydiant.
Ochr yn ochr â'i hymchwil, mae'r Athro Holford wedi ymrwymo i sicrhau dysgu o safon, sy'n berthnasol i fyd diwydiant. Hi oedd Cyfarwyddwr y Gyfadran ar gyfer tîm Formula Student am sawl blwyddyn, sy'n adlewyrchu ei diddordeb personol mewn chwaraeon moduro.
Cyd-ysgrifennodd yr adroddiad Menywod Talentog mewn Cymru Lwyddiannus, sy'n amlinellu pa mor bwysig yw cael rhagor o fenywod mewn gyrfaoedd yn y meysydd gwyddoniaeth a pheirianneg, a sut y gellir cyflawni hynny. Ym mis Ionawr eleni, cyhoeddodd y gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James, fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn holl argymhellion yr adroddiad.
Etholwyd yr Athro Holford yn Gymrawd o’r Academi Peirianneg Frenhinol yn 2015 – un o'r anrhydeddau cenedlaethol mwyaf y gall peiriannydd ei chael. Mae hi'n Beiriannydd Siartredig (Cymrawd Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol) ac yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru. Mae hi hefyd yn aelod o rwydwaith Cynghori Strategol EPSRC, ac yn gyn-Gadeirydd Tîm Cynghori Strategol Peirianneg ESPRC. Yn 2016 enwyd yr Athro Holford yn y rhestr gyntaf o'r 50 o Fenywod Mwyaf Blaenllaw ym maes Peirianneg a gyhoeddwyd gan The Daily Telegraph.
Bydd y Brifysgol yn mynd ati nawr i ddechrau'r broses o benodi olynydd yng Ngholeg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg.