Dwyieithrwydd a’r celfyddydau dan y chwyddwydr
14 Chwefror 2017
Cynhaliwyd digwyddiad ar ddwyieithrwydd yn y celfyddydau a’r diwydiannau creadigol yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, Ddydd Gwener 27 Ionawr 2017.
Roedd y digwyddiad wedi ei drefnu gan Dr Lisa Sheppard, darlithydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn yr Ysgol, ac wedi ei noddi gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Chynllun Awduron ar Daith Llenyddiaeth Cymru.
Amcan y digwyddiad oedd trafod agweddau ar ddwyieithrwydd mewn llenyddiaeth ac yn y diwydiannau creadigol. Daeth bron i 30 o awduron, dramodwyr, sgriptwyr, academyddion, cyhoeddwr a myfyrwyr at ei gilydd am brynhawn o drafodaethau difyr, bachog a meddylgar. Roedd yn gyfle i drafod yr heriau a’r cyfleoedd y mae dwyieithrwydd yn eu cynnig ym myd y diwydiannau creadigol a’r celfyddydau.
Cafwyd gweithdy diddorol a wnaeth dynnu sylw at brinder yr awduron o gefndir ail iaith sy’n ysgrifennu yn y Gymraeg, a’r diffyg cynrychiolaeth sydd i fywyd Saesneg ei iaith yng Nghymru ar y teledu, ymhlith pethau eraill.
Yn dilyn hyn, cynhaliodd Tony Bianchi, Catrin Dafydd, Alun Saunders a Branwen Davies drafodaeth ford gron am eu profiadau hwy o ysgrifennu testunau dwyieithog, cyn i’r awdur Llwyd Owen a’r dramodydd Ed Thomas gynnal sesiynau holi ac ateb ar natur ddwyieithog eu gwaith.
Dywedodd Dr Lisa Sheppard am y digwyddiad: “Rwy’n hynod ddiolchgar i gefnogwyr y gweithdy ymchwil, yn enwedig ein noddwyr a’r awduron a gyfranodd. Roedd safon y drafodaeth yn uchel iawn a phawb yn gytûn bod modd cynnal digwyddiadau tebyg i ddatblygu’r sgwrs ymhellach, a cheisio datrys rhai o’r problemau sy’n wynebu’r sawl sy’n ysgrifennu mewn dwy iaith yng Nghymru.
“Rydym yn gobeithio y bydd y cysylltiadau a grëwyd ar y dydd a’r trafodaethau a gafwyd yn troi’n rhwydwaith mwy gweithgar sy’n anelu at hybu ysgrifennu’n ddwyieithog a meithrin perthnasau ar draws y ffin ieithyddol yn y byd creadigol. Byddwn yn trefnu digwyddiadau pellach cyn bo hir!”
Am ragor o wybodaeth ar y trafodaethau, cysylltwch â Dr Lisa Sheppard.
Bydd recordiadau o’r drafodaeth ford gron a’r sesiynau holi ac ateb (ynghyd â thrawsgrifiadau Cymraeg a Saesneg o’u cynnwys) ar gael i’w gwylio ar ‘Y Porth’ gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol erbyn diwedd Mawrth.
Mae Ysgol y Gymraeg yn awyddus i rannu ei hymchwil gyda chynulleidfaoedd â diddordeb yn y Gymraeg yn y Gymru gyfoes, boed yn ieithyddol, llenyddol neu’n gymdeithasol. Chwiliwch ein digwyddiadau am ragor o wybodaeth ar ein seminarau a darlithoedd amrywiol.