Digwyddiad meddalwedd yn 'llwyddiant'
15 Chwefror 2017
Mae Prifysgol Caerdydd yn annog cenhedlaeth newydd o raglenwyr yn ne Affrica i fod yn rhan o ddiwydiant gwerth biliynau o bunnoedd sy'n helpu i bweru brandiau mawr ar y we.
Mae iaith rhaglennu Python yn cael ei ddefnyddio ledled y byd gan gwmnïau fel Google, YouTube, Dropbox ac Instagram.
Nawr mae digwyddiad Python blynyddol yn Namibia, sydd wedi'i gefnogi gan Brosiect Phoenix Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Namibia (UNAM) yn ysbrydoli eraill yn Affrica i ddarganfod potensial yr iaith.
Cynhaliwyd y confensiwn Python cyntaf yn Zimbabwe ym mis Tachwedd 2016, ar ôl i'r trefnwyr gael y syniad ar ôl mynd i'r digwyddiad yn Namibia.
'Yn wych o lwyddiant'
Dywedodd Dr Vincent Knight, un o drefnwyr PyCon Namibia o Ysgol Mathemateg Prifysgol Caerdydd: "Mae dechrau gweld y gymuned yn datblygu yn wych. Mae PyCon Zimbabwe'n enghraifft mor wych o lwyddiant.
"Cymerodd dau berson o Zimbabwe fws i PyCon Namibia a dyna sut cawson nhw'r syniad ar gyfer eu digwyddiad nhw. Llwyddon nhw i godi'r arian ar gyfer y digwyddiad drwy gyllido torfol ymhlith y gymuned Python..."
Bydd digwyddiad PyCon Namibia nesaf, a ddechreuodd yn 2015, yn cael ei gynnal yn Sefydliad Gweinyddiaeth a Rheolaeth Gyhoeddus Namibia yn Windhoek rhwng 21 a 23 Chwefror.
Bydd yn cynnwys darlithoedd, gweithdai a rhwydweithio, ac mae wedi'i anelu at weithwyr proffesiynol, gwyddonwyr, academyddion, myfyrwyr a phobl sy'n ei wneud fel hobi.
Er bod Prifysgol Caerdydd ac UNAM yn cymryd rhan flaenllaw yn y digwyddiad, Cymdeithas Python Namibia sy'n cynnal PyCon Namibia 2017 am yr ail dro. Ffurfiwyd y gymdeithas yn sgîl y digwyddiad yn 2015.
Ar flaen y gad yn datblygu meddalwedd côd agored
Mae Dr Knight yn gobeithio y bydd rhaglenwyr o Affrica ar flaen y gad yn datblygu meddalwedd côd agored un dydd, fel Python, sy'n rhad ac am ddim i'w ddefnyddio, addasu a dosbarthu.
"Gallwch addasu Python ar gyfer chi eich hun yn hytrach na gadael i gwmni masnachol wneud y dewisiadau hynny" meddai.
"Mae hyn yn arbennig o berthnasol i wledydd datblygol oherwydd yn aml mae'r Gorllewin yn dweud wrthyn nhw pa feddalwedd i'w defnyddio, ac mae'n bosibl nad honno yw'r dewis gorau iddynt..."
Mae Prosiect Phoenix Prifysgol Caerdydd, sy'n cefnogi Rhaglen Cymru o Blaid Affrica Llywodraeth Cymru, yn gydweithrediad rhwng y Brifysgol ac UNAM ac mae o fudd i'r naill ochr fel y llall.
Mae'n un o brosiectau ymgysylltu blaenllaw’r Brifysgol, sydd hefyd yn cael ei alw'r Rhaglen Trawsnewid Cymunedau, sy'n gweithio gyda chymunedau yng Nghaerdydd, Cymru a thu hwnt ym meysydd iechyd, addysg a lles ymhlith eraill.