Mae angen eich Cymraeg arnom!
14 Chwefror 2017
Mae’r gwaith i gasglu’r geiriau a’r ymadroddion y mae siaradwyr Cymraeg yn eu defnyddio o ddydd i ddydd ar fin cychwyn wrth i ap arbennig gael ei lansio.
Bydd modd i siaradwyr Cymraeg o bob cefndir recordio eu sgyrsiau i fod yn rhan o brosiect Corpws Cenedlaethol Cymraeg Cyfoes, dan arweiniad Prifysgol Caerdydd.
Nod y prosiect yw datblygu'r casgliad cyntaf erioed ar raddfa fawr o eiriau Cymraeg sy'n cynrychioli'r holl amrywiaeth o iaith fel y mae pobl ar lawr gwlad yn ei defnyddio, gan gynnwys Cymraeg ffurfiol a thafodieithoedd rhanbarthol.
Mae'r prosiect wedi'i arwain gan Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth Prifysgol Caerdydd ac mae'n dod ag amrywiaeth o gydweithwyr at ei gilydd, gan gynnwys prifysgolion Caerdydd, Abertawe, Bangor a Chaerhirfryn; Llywodraeth Cymru; Cynulliad Cenedlaethol Cymru; Llyfrgell Genedlaethol Cymru; CBAC; Cymraeg i Oedolion; S4C; BBC; y Lolfa; SaySomethingin.com a Geiriadur y Gymraeg.
'Y cyntaf o'i fath'
Mae rhyddhau'r ap yn garreg filltir sylweddol ym mhrosiect CorCenCC. Mae'r prosiect yn bwysig nid yn unig ar gyfer y Gymraeg, ond hefyd fel modd o recordio a churadu ieithoedd eraill ledled y byd sydd â diffyg adnoddau.
Dr Dawn Knight, o'r Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth, Prifysgol Caerdydd, yw arweinydd y prosiect: "Mae prosiect CorCenCC yn chwyldroadol am ei fod yn cael ei yrru gan y gymuned, gan ddefnyddio technolegau symudol a digidol er mwyn galluogi'r cyhoedd i gydweithio arno," meddai.
Ychwanegodd Steve Morris, o Adran y Gymraeg, Prifysgol Abertawe: "Mae'r ap yn ei wneud yn hawdd i siaradwyr Cymraeg gymryd rhan yn y prosiect, ac yn galluogi pobl i gyfrannu pryd bynnag mae'n gyfleus iddyn nhw, sy'n ei wneud yn brofiad mwy personol o lawer…”
Gefnogi gan lysgenhadon blaenllaw
Mae CorCenCC wedi’i gefnogi gan lysgenhadon blaenllaw gan gynnwys y bardd Damian Walford Davies, y gerddores a chyflwynydd radio a theledu Cerys Matthews, y cyflwynydd, ymchwilydd a chynhyrchydd teledu Nia Parry, a’r dyfarnwr rygbi rhyngwladol Nigel Owens.
Dywedodd Nia Parry: "Bydd CorCenCC yn llywio dyfodol addysgu a dysgu’r iaith Gymraeg. Bydd yn gyfle i werthfawrogi ein hiaith hynafol, farddonol, gyfoethog, arbennig ni. Byddwn yn dysgu am sut rydym yn strwythuro brawddegau, treigladau, geiriau sathredig, ieithwedd negeseuon testun ac ebost, sut rydym yn talfyrru, beth a ddywedwn a sut rydym yn ei ddweud..."
Ychwanegodd Nigel Owens: "Bydd y corpws yn cynnwys enghreifftiau o’r Gymraeg ym mhob parth: o'r cae rygbi a’r stiwdio deledu, i areithiau gwleidyddol a gwerslyfrau academaidd..."
Mae'r ap yn rhad ac am ddim a gallwch ei lawrlwytho o siop iTunes nawr. Bydd fersiwn Android o'r ap ar gael cyn bo hir.
Ariennir CorCenCC gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol a Chyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau.