Ewch i’r prif gynnwys

Manteision system meddyginiaeth diabetes

14 Chwefror 2017

Doctor administring diabetes needle

Gall dyfais syml ar gyfer rheoli a threfnu meddyginiaeth diabetes atal cleifion rhag datblygu cymhlethdodau sy'n newid eu bywydau ac arbed miliynau o bunnoedd i'r GIG, yn ôl astudiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd.

Cafodd cyfranogwyr yn yr astudiaeth ddyfais NeedleBay, sy'n caniatáu i'r defnyddiwr baratoi nodwyddau inswlin wythnos o flaen llaw, eu gosod a'u tynnu’n ddiogel o'r pin inswlin a gwaredu rhai sydd wedi'u defnyddio heb gyffwrdd â nhw. Yn ogystal mae caead plastig clir yn gadael i'r defnyddwyr weld faint o bigiadau sydd ganddyn nhw, gan ddileu'r risg o golli pigiad neu roi dogn dwbl.

Cyn cyflwyno'r ddyfais, roedd dros ddwy ran o dair o'r 226 cyfranogwr wedi colli pigiadau inswlin neu wedi cymryd dogn dwbl yn ddamweiniol. Yn ystod eu cyfnod yn defnyddio'r ddyfais gostyngodd y nifer o gleifion oedd yn gwneud y camgymeriadau hyn i 20%. Cafwyd gostyngiad sydyn hefyd yn y nifer o bobl oedd yn eu pigo eu hunain yn ddamweiniol wrth osod neu dynnu'r pin inswlin o'r nodwydd, a chynnydd o 20% i 99% yn y nifer o bobl oedd yn gyffredinol yn teimlo  bod eu meddyginiaeth dan reolaeth.

Needlebay diagram

Dywedodd y prif ymchwilydd, yr Athro Molly Courtenay: "Mae'n bwysig iawn fod pobl sydd â diabetes sy'n ddibynnol ar inswlin yn gallu rheoli eu meddyginiaeth yn briodol. Os na chaiff lefelau glwcos eu cynnal ceir risg o gymhlethdodau gan gynnwys colli golwg, methiant yr arennau neu glefyd cardiofasgwlaidd...”

"Mae ein canlyniadau'n dangos bod dyfeisiau cyflenwi inswlin yn fuddiol iawn wrth oresgyn rhwystrau corfforol a seicolegol i therapi inswlin effeithiol. Drwy ddefnyddio'r ddyfais cafwyd 50% o gynnydd mewn ymlyniad."

Yr Athro Molly Courtenay Athro Gwyddorau Iechyd

"O ystyried bod pedair o bob pum punt o wariant y GIG ar ddiabetes yn mynd ar drin cymhlethdodau a achosir gan ymlyniad inswlin gwael, mae'r arbedion posibl, a'r manteision i gleifion, yn sylweddol."

Mae ffigurau diweddar yn dangos bod y cyflwr gan 4.5 miliwn o bobl yn y DU bellach, yn cynnwys 3.5 miliwn o oedolion sydd wedi cael diagnosis, sy'n gynnydd o 119,965 o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol, a chynnydd o 65% dros y degawd diwethaf. Mae tua un ym mhob deg o’r bobl hyn yn ddibynnol ar inswlin.

Dywed Dr Emily Burns, rheolwr cyfathrebu ymchwil Diabetes UK: "Mae'r ffaith fod NeedleBay wedi bod mor ddefnyddiol i rai pobl yn addawol...”

"Mae cannoedd o filoedd o bobl yn y DU sydd â diabetes Math 1 a Math 2 yn trin eu cyflwr gydag inswlin, er mwyn rheoli lefelau glwcos y gwaed ac atal cymhlethdodau fel clefyd yr arennau, torri aelodau o'r corff a dallineb."

Dr Emily Burns Diabetes UK

Dywed Dr Gill Jenkins, meddyg teulu sydd â diabetes math 2: "Mae'n rhyfeddol o hawdd anghofio pigiad, yn enwedig pan fyddwch chi'n teithio. Rwyf i wedi defnyddio'r ddyfais hon ers blwyddyn neu ddwy ac fe wn i ei bod yn eich helpu chi i reoli eich pigiadau a'ch tabledi...”

"Mae'n eithaf hawdd ei gosod a'i defnyddio. Mae'n rhoi gwell rheolaeth i chi ac yn lleihau'r risg o grasho i fyny neu i lawr."

Dr Gill Jenkins Meddyg Teulu

Cafodd gwaith yr Athro Courtenay gymorth £3,000 drwy gyllid cam cynnar y Rhaglen Mewnwelediad Strategol, rhaglen Cymru gyfan a gyllidwyd gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru i helpu academyddion prifysgol i gydweithio gyda chwmnïau i ddatblygu syniadau.

Dywedodd Paul Thomas, Rheolwr Busnes ym Mhrifysgol Caerdydd: "Talodd y rhaglen, sydd bellach wedi dod i ben, am hyd at 50 awr o amser academaidd gyda busnes i archwilio ffyrdd o gydweithio. Roedd Molly wedi'i chyflwyno ei hun i Gyfarwyddwr NeedleBay, oherwydd eu diddordeb cyffredin mewn hunan-reoli inswlin, a helpodd y cyfraniad o £3,000 i bontio'r bwlch. Cyfrannodd NeedleBay gyllid ychwanegol i helpu'r Athro Courtenay i gynnal ymchwil pellach gyda defnyddwyr, ac mae'r canlyniadau wedi bod yn rhagorol...”

“Rydyn ni'n gobeithio y gallai arwain at brosiect ymchwil ehangach o lawer, o bosibl drwy Bartneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth rhwng NeedleBay a'r Athro Courtenay."

Paul Thomas Rheolwr Busnes ym Mhrifysgol Caerdydd

Datblygwyd dyfais NeedleBay gan Diabetes Care Technology (DCT) Ltd mewn ymgynghoriad â chleifion.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn ddeinamig, yn arloesol ac yn flaengar, a chydnabyddir ein rhagoriaeth ym meysydd dysgu, addysgu ac ymchwil.