Cost ddynol rhyfeloedd
10 Chwefror 2017
Mae astudiaeth newydd sy'n cynnwys Prifysgol Caerdydd yn ymchwilio i'r gost ddynol sy'n gysylltiedig â rhyfeloedd cartref.
Mae 'Budd-daliadau, Rhyfel at Atgofion yn ystod ac ar ôl Rhyfeloedd Cartref Lloegr, 1642-1700' yn brosiect pedair blynedd sydd wedi'i ariannu gan grant sylweddol o fwy nag £800,000 gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau.
Mae'r ymchwil wedi'i harwain gan Brifysgol Caerlŷr, a gyda chyd-ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd, Prifysgol Nottingham a Phrifysgol Southampton, a bydd yn dadansoddi sut gofiodd dynion a menywod cyffredin y rhyfel, a'r trafodaethau a gafodd y rhai a effeithiwyd ganddi â'r awdurdodau i gael cymorth elusennol.
Dywedodd Dr Lloyd Bowen, o Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd Prifysgol Caerdydd: "Bydd y prosiect yn archwilio ceisiadau am gymorth gan filwyr a anafwyd yn y rhyfeloedd cartref (1642-60) neu gan weddwon y bu farw eu gŵyr wrth gyflawni gwasanaeth milwrol. Daeth y ceisiadau gan seneddwyr yn ystod y rhyfeloedd eu hunain, ond ar ôl hynny defnyddiwyd y system i gefnogi milwyr a gweddwon brenhingar ar ôl i'r Frenhiniaeth gael ei hadfer yn 1660. Y nod yw cynhyrchu gwefan sy'n cynnwys lluniau a thrawsgrifiadau o'r holl geisiadau hyn at ddefnydd y cyhoedd ac ysgolheigion.
"Fy ffocws penodol yn yr ymchwil hon fydd y deisebau o Gymru a'r Gororau (Swydd Gaer, Swydd Amwythig, Swydd Gaerwrangon a Swydd Gaerloyw). Ceir cyfoeth o ddeunydd o Swydd Gaer yn benodol, ond mae yna ffynonellau hefyd o Gymru sydd heb gael llawer o sylw, o Sir Ddinbych a Sir Gaernarfon. Y gobaith yw y bydd yr adnodd hwn yn helpu ymchwilwyr i ddeall systemau elusen yn y cyfnod modern cynnar, y trafodaethau a gafodd pobl gyffredin â'r wladwriaeth yn yr ail ganrif ar bymtheg, a'r ffyrdd yr oedd pobl yn cofio ac yn dehongli eu profiadau yn y cyfnod cythryblus hwn o ryfeloedd cartref a chwyldro."
Prif nod yr astudiaeth fydd creu gwefan a fydd yn agored i bawb ac yn cynnwys ffotograffau a thrawsgrifiadau o bob cais am gymorth gan filwyr anafus a gweddwon milwyr yng Nghymru a Lloegr o ganlyniad i'w colledion yn ystod y Rhyfeloedd Cartref. Bydd achrestryddion a haneswyr teulu hefyd yn elwa ar restr chwiliadwy o bobl a hawliodd budd-daliadau milwrol yn ystod y blynyddoedd hyn, a fydd yn cynnwys manylion y symiau a roddwyd iddynt. Bydd y wefan hon, ynghyd â gwefan ar wahân ar gyfer ysgolion o'r enw 'Marw a Goroesi yn ystod y Rhyfeloedd Cartref' yn cael ei datblygu a'i chynnal gan Wasanaeth Archif Cyfryngau Ar-lein Prifysgol Nottingham.
Bydd tîm y prosiect yn cydweithio â'r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer y Rhyfel Cartref yn Amgueddfa Newark, Swydd Nottingham. Gan ychwanegu at lwyddiannau arddangosfa 'Battle-Scarred' yr Amgueddfa am fudd-daliadau i filwyr y rhyfeloedd cartref, bydd y prosiect a'r Amgueddfa'n cydweithio drwy drefnu digwyddiadau arbennig, arddangosfeydd a gweithdai ar gyfer athrawon. Bydd y prosiect hefyd yn helpu tîm y prosiect i gynhyrchu monograff ymchwil ac erthyglau, ynghyd â chynhadledd ryngwladol a dau gasgliad o draethodau ysgolheigaidd.