Rhannu arbenigedd
21 Mehefin 2012
Mae meddygon ymgynghorol a hyfforddeion llawfeddygol thorasig o bob rhan o'r DU ac Ewrop wedi ymgasglu yng Nghaerdydd i astudio technegau llawdriniaeth i'w defnyddio mewn triniaethau canser yr ysgyfaint ar gyfer cleifion yn y DU.
Croesawodd Athrofa Therapïau Lleiaf Ymyrrol Cymru (WIMAT) a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yr arbenigwr ar lawdriniaeth thorasig, Dr Robert J. McKenna Jr, MD, o Cedars-Sinai Medical Center, Los Angeles, ar gyfer y gweithdy cyntaf o'i fath yn y DU.
Roedd y digwyddiad deuddydd yn canolbwyntio ar dechnegau llawdriniaeth thorasig lleiaf ymyrrol y profwyd eu bod yn sicrhau canlyniadau gwell i gleifion a lleihau amser gwella.
Bu Dr McKenna'n trafod datblygiad Lobectomi trwy lawdriniaeth thorasig â chymorth fideo (VATS), sef techneg arloesol ar gyfer echdorri llabedau sy'n cael ei mabwysiadu'n gyflym gan ganolfannau thorasig ledled y DU ar gyfer trin canser yr ysgyfaint.
Mae'r canlyniadau'r cwrs yn adlewyrchu cynllun arfaethedig pum mlynedd Llywodraeth Cymru, "Gyda'n Gilydd dros Iechyd - Cynllun Cyflawni Canser". Mae'r ymgyrch, a lansiwyd yn gynharach ym mis Mehefin gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Leslie Griffiths, yn canolbwyntio ar welliannau o ran adnabod a thrin canser, gyda'r nod o wella gofal cleifion a chynyddu cyfraddau goroesi.
Mae gan ganser yr ysgyfaint un o'r canlyniadau goroesi isaf o'r holl ganserau, oherwydd diagnosis hwyr o gleifion. Drwy hyfforddi llawfeddygon y DU i fabwysiadu techneg echdorri llabedau arloesol Dr McKenna, bydd cleifion canser yr ysgyfaint yn y DU yn elwa ar weithdrefn leiaf ymyrrol, llai o boen a llai o effeithiau andwyol wedi'r llawdriniaeth, yn ogystal â threulio llai o amser yn yr ysbyty, gyda chost economaidd isel i'r GIG.
Yn ystod y cwrs, bu hyfforddeion yn ymweld â chyfleusterau yn Ysgol y Biowyddorau Caerdydd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro. Roedd hyn yn cynnwys arddangosiad byw o Lobectomi VATS, a berfformiwyd gan Dr McKenna, gan wylio drwy gyfrwng cysylltiad dwyffordd unigryw rhwng Ystafell Lawdriniaeth Integredig arloesol Ysbyty Athrofaol Cymru a darlithfa WIMAT ar gampws y Mynydd Bychan.
Bu Ms Margaret Kornaszewska, sy'n Llawfeddyg Thorasig yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd, a threfnydd y Dosbarth Meistr ar VATS, yn ymweld ag adran Dr McKenna yn Cedars-Sinai Medical Center, Los Angeles yn 2011 i astudio'i dechneg hyglod.
Ers iddi ddychwelyd, mae Adran Thorasig Ysbyty Athrofaol Cymru wedi mabwysiadu techneg systematig Dr McKenna o Lobectomi VATS i drin cleifion canser yr ysgyfaint. Mae hyn wedi arwain at gynnydd mawr yn niferoedd y Lobectomïau VATS a gaiff eu perfformio yn Ysbyty Athrofaol Cymru, o 1% yn 2010, i 41% yn 2011.
Dywedodd Ms Margaret Kornaszewska, "Rydym yn falch iawn ein bod wedi croesawu llawfeddyg thorasig mor bwysig i Gymru. Roedd y Dosbarth Meistr yn ddigwyddiad ar y cyd rhwng Prifysgol Caerdydd ac Ysbyty Athrofaol Cymru a chafwyd cyfle unigryw i weld techneg fyd-enwog Dr McKenna yn uniongyrchol a chynnal trafodaeth estynedig ynghylch y weithdrefn.
"Mae hyfforddiant a darpariaeth thorasig yng Nghymru ymhlith y gorau yn y wlad ac mae rhannu syniadau yn y modd hwn yn sicrhau ein bod yn parhau i fod yn gyfredol ac arloesol."