Ewch i’r prif gynnwys

Gwrthsefyll temtasiwn

15 Mehefin 2012

Resisting temptation

Mae ymchwil newydd gan seicolegwyr ym Mhrifysgol Caerwysg a Phrifysgol Caerdydd yn dangos y gall pobl hyfforddi eu hymennydd i ddod yn llai byrbwyll, gan arwain at gymryd llai o risgiau wrth gamblo.

Gallai'r ymchwil arwain y ffordd o ran triniaethau newydd ar gyfer pobl sy'n gaeth i gambo, cyffuriau neu alcohol yn ogystal ag anhwylderau rheoli symbyliadau, megis Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD).

Asesodd yr astudiaeth a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn Psychological Science, p'un a oedd gofyn i bobl roi'r gorau i wneud symudiadau syml mewn sefyllfa gamblo ffug yn effeithio ar ba mor fentrus neu ofalus roeddent wrth fetio.

Yn yr arbrawf cyntaf, gofynnwyd i gyfranogwyr roi bet mewn tasg gamblo. Roedd y cyfranogwyr i gyd yn fyfyrwyr mewn iechyd da. Cyflwynwyd y dewisiadau diogel iddynt (elw isel, tebygolrwydd mawr) a dewisiadau mwy mentrus (elw uchel, tebygolrwydd bach) a gofynnwyd iddynt ddangos eu dewis drwy bwyso bysell ar fysellfwrdd cyfrifiadur. Archwiliodd yr ymchwilwyr y ffafriaeth tuag at ddewisiadau mwy diogel. Weithiau, cafodd y dasg gamblo ei chyfuno â 'thasg ataliaeth', yn debyg i'r rhai a ddefnyddir i astudio rheoli symbyliadau yn y labordy. Roedd yn rhaid i gyfranogwyr gadw'r ymateb o'u dewis pan gyflwynwyd signal 'stopio' iddynt, gan eu gorfodi i atal eu hunain rhag pwyso bysell ar y bysellfwrdd.

O bryd i'w gilydd, pan oedd angen i gyfranogwyr stopio'r ymateb o'u dewis, gwnaethant arafu ac yn bwysig, daethant yn fwy gofalus o ran yr arian roeddent yn ei fetio bob tro. Mae hyn yn awgrymu bod dod yn fwy gofalus o ran symudiadau syml yn lleihau'r tebygolrwydd o wneud penderfyniadau mentrus am arian.

Yn yr ail a'r trydydd arbrawf, ystyriodd yr ymchwilwyr p'un a fyddai hyfforddi pobl i roi'r gorau i ymatebion llaw i ysgogiadau mympwyol wedi'u cyflwyno ar sgrin gyfrifiadur hefyd yn cael effeithiau yn y tymor hirach ar gamblo. Gwnaethant ganfod bod cyfnod byr o hyfforddiant ataliaeth yn lleihau gamblo rhwng 10% a 15%, sef lleihad bach ond sy'n ystadegol bwysig, a bod yr effaith hon wedi para o leiaf ddwy awr.

Dywedodd yr ymchwilydd arweiniol, Dr Frederick Verbruggen o Brifysgol Caerwysg: "Mae ein hymchwil yn dangos drwy hyfforddi eu hunain i roi'r gorau i symudiadau llaw syml, bod pobl hefyd yn dysgu i reoli eu prosesau penderfynu er mwyn osgoi rhoi betiau mentrus.

"Gallai fod i'r gwaith hwn oblygiadau ymarferol pwysig o ran trin dibyniaethau ymddygiadol, megis gamblo patholegol, sydd wedi bod yn gysylltiedig yn flaenorol â diffyg rheolaeth ar ysgogiadau, ac yn fwy penodol, diffygion o ran rhoi terfyn ar weithrediadau. Rydym erbyn hyn yn archwilio perthnasedd ein canfyddiadau i ddibyniaethau eraill, megis ysmygu neu orfwyta, nad ymdriniom â nhw yn yr astudiaeth hon. Mae dibyniaethau yn gymhleth ac yn unigol iawn, a byddai ein hymagwedd yn targedu un agwedd ar y broblem yn unig. Fodd bynnag, rydym yn gyffrous iawn am y posibilrwydd o helpu cyfran o bobl y mae eu bywydau wedi'u heffeithio gan gamblo a dibyniaethau eraill."

Ychwanegodd Dr Chris Chambers o Ysgol Seicoleg Prifysgol Caerdydd: "Mae'r canlyniadau hyn yn awgrymu bod ein symbyliadau yn cael eu rheoli gan systemau hynod gysylltiedig yn yr ymennydd, gan ymestyn o'r gweithrediadau symud mwyaf sylfaenol i benderfyniadau mwy mentrus a chymhleth. Mae ein hastudiaeth yn dangos bod hyfforddiant ataliaeth yn lleihau risgiau wrth gamblo yn achos gwirfoddolwyr iach ond nid yw'n dangos bod hyfforddiant ataliaeth yn lleihau caethiwed i gamblo. Mae angen rhagor o astudiaethau erbyn hyn er mwyn darganfod p'un a allai hyfforddi pobl i wthio 'cyhyr ataliol' lefel isel helpu i drin dibyniaethau, ond mae'r canfyddiadau hyn yn addawol."

Am resymau moesegol, gwnaeth yr arbrofion gamblo ond dynwared rhai agweddau ar gamblo go iawn. Er i gyfranogwyr chwarae am arian go iawn, roedd y symiau'n fach (yr uchafswm i'w ennill oedd £4.20) ac ni allai cyfranogwyr hel dyledion.

Cafodd yr astudiaeth hon ei hariannu gan Gyngor Ymchwil Biotechnoleg a'r Gwyddorau Biolegol, Sefydliad Ymchwil Flanders, a Sefydliad Niwrowyddoniaeth Wybyddol Cymru.

Mae crynodeb o'r astudiaeth ymchwil hon ar gael yma:

http://neurochambers.blogspot.co.uk/2012/06/inhibition-help-resist-temptation.html

Mae Dr Verbruggen a Dr Chambers wedi cael cyllid gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol er mwyn darganfod mwy am sail y ffenomen hon a gweithio tuag at ymyriad clinigol posibl. Mae rhagor o fanylion am y prosiect hwn a ariennir ar gael yma:http://www.esrc.ac.uk/my-esrc/grants/ES.J00815X.1/read

Rhannu’r stori hon