Menywod yn brwydro yn erbyn yr elfennau dros ymchwil canser
21 Mehefin 2012
Mae taith gerdded drwy'r gwynt a'r glaw gan aelodau Clwb Tangent Dinbych-y-pysgod wedi rhoi hwb i ymchwil bôn-gelloedd canser yng Nghaerdydd.
Trefnodd y Clwb daith gerdded elusennol y llynedd i helpu'r Athro Alan Clarke, a chwblhawyd y daith er gwaethaf y tywydd stormus.
Nawr mae aelodau'r Clwb Tangent wedi ymweld â'r Athro Clarke yn y Brifysgol i gyflwyno'r £5,000 a godwyd ac i ddysgu mwy am ei waith fel Cyfarwyddwr y Sefydliad Ymchwil Bôn-gelloedd Canser Ewropeaidd (ECSCRI) .
Mae cysylltiad y Clwb â'r Athro Clarke yn dyddio nôl dros wyth mlynedd. Dechreuodd y cyfan pan ddarllenodd aelod o'r Clwb, Ruth Webb, am waith arloesol yr Athro yn adnabod MBD2, sef protein sy'n gallu cael ei gipio gan gelloedd canser i ddirymu'r cyfryngau amddiffynnol normal a chaniatáu canserau i dyfu.
Dywedodd Averil Upham, aelod o'r Clwb: "Bryd hynny roedd gennym aelod a oedd yn dioddef o ganser y fron terfynol. Gwnaethom benderfyniad i godi arian tuag at ymchwil Alan trwy gynnal taith gerdded 'Merched Mynwesol / Bosom Buddies' trwy Ddinbych-y-pysgod."
Oddi ar hynny, daeth yr Athro Clarke yn Gyfarwyddwr y Sefydliad Ymchwil Bôn-gelloedd Canser Ewropeaidd, sydd â'r nod o fynd i'r afael â chanser trwy ganolbwyntio ar is-gasgliad o gelloedd mewn tyfiannau a allai fod yn ffactorau allweddol i sbarduno datblygiad tyfiannau. Roedd llawer o aelodau'r Clwb Tangent yn adnabod pobl a oedd yn dioddef o ganser a phenderfynwyd cynnal taith gerdded arall o dair milltir drwy'r dref y llynedd.
Dywedodd Averil: "Roedd y tywydd yn ofnadwy, gyda gwynt cryf a glaw trwm. Fodd bynnag, bu tua 150 ohonon ni'n cymryd rhan,. gan gynnwys mamau'n gwthio pramiau. Roedd yn hwyl, er gwaetha'r glaw."
Yn ystod ymweliad y menywod â'r Ysgol Biowyddorau, esboniodd yr Athro Clarke ychydig o'r wyddor y tu ôl i fôn-gelloedd canser, a allai fod yn allweddol o ran ffurfiant, twf ac ymlediad tyfiannau. Hefyd, bu'n eu tywys o gwmpas dau labordy er mwyn dangos enghreifftiau o'r math o gyfarpar y bydd eu harian yn ei brynu. Mae'r £5,000 a godwyd gan y Clwb yn cynnwys rhodd o £750 gan Fanc Barclays.
Dywedodd Jane Meyrick, cadeirydd y Clwb Tangent adeg y daith gerdded: "Mae'r gwaith sy'n cael ei wneud yma gan Alan yn anhygoel. Mae'r cyfarpar sydd ei angen arno yn ddrud iawn a hoffem feddwl fod ein taith gerdded wedi bod yn rhywfaint o gymorth. Rydym yn bwriadu cadw mewn cysylltiad â gwaith y Sefydliad ac yn gobeithio ei gefnogi eto."
Dywedodd yr Athro Clarke: "Rwy'n ddiolchgar dros ben i'r Clwb Tangent am ei ddiddordeb a chymorth parhaus. Ar hyn o bryd rydym yn paratoi i symud i mewn i labordai mewn adeilad newydd, sef Adeilad Hadyn Ellis, a bydd pob cyfraniad fel un y Clwb yn ein helpu gyda'n cynlluniau. Ein nod yn y pen draw yw deall y rhan sydd gan fôn-gelloedd canser i'w chwarae mewn mathau gwahanol o ganser fel y gallwn ddatblygu triniaethau newydd i'w targedu."