Rhannu eu hanes
21 Mehefin 2012
Mae arddangosfa wedi'i lansio yn Amgueddfa Werin Cymru sy'n dangos gwaith plant ysgol o dde Cymru a fu'n mesur tir ac yn cloddio caer anchwiliedig yng Nghaerdydd yn rhan o brosiect a arweiniwyd gan y Brifysgol.
Lansiwyd arddangosfa dreftadaeth CAER (Ailddarganfod Caerau a Threlái) ddydd Llun, 18 Mehefin. Mae'n cynnwys modelau, storïau ac arddangosiadau a grëwyd gan ddisgyblion ysgolion uwchradd Fitzalan, Mary Immaculate a Glyn Derw am eu hamser yn y caer sydd i'w ganfod o fewn ystadau tai cymdeithasol yng Nghaerau a Threlái.
Mae grŵp o 90 myfyrwyr yn ogystal ag aelodau'r gymuned yn cymryd rhan ym mhrosiect CAER dan arweiniad yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd.
Mae'r prosiect yn ceisio gwneud i bobl Trelái a Chaerau fod mor ymwybodol â phosibl o'u hardal. Mae hefyd yn cynnig cyfleoedd addysgol ac yn herio rhai o'r ystrydebau di-sail sy'n aml yn cael eu crybwyll wrth ddisgrifio'r rhan hon o Gaerdydd.
Mae disgyblion ac aelodau'r gymuned wedi cynnal arolwg geoffisegol o'r gaer a oedd yn arfer bod yn gadarnle pwerus i lwyth y Silwriaid yn Oes yr Haearn. Maent hefyd wedi cloddio rhannau allweddol o'r safle gyda chymorth rhaglen Timeteam ar Channel 4 er mwyn creu darlun manwl o hanes yr ardal hon. Mae'r plant ysgol hefyd wedi dylunio logos llwythaidd ac wedi creu cyfres enfawr o waith celf eco-graffiti ar y caer o dan arweiniad yr artist proffesiynol Paul Evans.
Yn ôl Dr Dave Wyatt o'r Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd sy'n cyd-gyfarwyddo prosiect CAER: "Ar ôl treulio amser yn y caer yn rhan o brosiect CAER, mae'r plant ysgol wedi llunio arddangosfeydd pwerus o'u gwaith sy'n rhoi manylion am dreftadaeth anhygoel yr ardal hon.
"Mae'r prosiect yn rhoi'r cyfle i ddisgyblion ac aelodau'r gymuned gymryd rhan mewn ymchwil archeolegol yn ogystal ag amrywiaeth o weithgareddau addysgol a llawn hwyl fel gweithdai crochenwaith Oes yr Haearn, dadansoddi arteffactau a gwaith celf creadigol. Gyda lwc, bydd prosiect CAER yn eu helpu i ganfod cysylltiad rhwng y gorffennol a'r presennol a gwneud treftadaeth Trelái a Chaerau yn berthnasol ac yn bwysig i gymunedau nawr."
Lansiwyd yr arddangosfa ochr yn ochr â digwyddiad Rhannwch Eich Hanes a gynhelir gan yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd. Cyfres o weithgareddau ac arddangosfeydd rhyngweithiol yw hon a luniwyd gan fyfyrwyr ôl-raddedig i ddangos sut gall y Brifysgol helpu cymunedau eraill ailgysylltu â'u treftadaeth.
Ychwanegodd Dr Wyatt: "Mae digwyddiad Rhannwch Eich Hanes hefyd yn amlygu ardaloedd eraill yn y de ac yn dangos y cymorth y gall Prifysgol Caerdydd ei gynnig i brosiectau treftadaeth, y cyfleoedd addysgol y gall prosiectau o'r fath eu creu yn ogystal â sut gall y cynlluniau hyn herio stigma di-sail."
Yn rhan o'r digwyddiad, roedd disgyblion o'r tair ysgol a gymerodd ran yno i siarad am eu gwaith yn y caer. Agorwyd yr arddangosfa'n swyddogol gan Mark Drakeford, Aelod Cynulliad Gorllewin Caerdydd, a Sian Price, cyfarwyddwr cyfres Timeteam ar Channel 4.
Meddai Mark Drakeford AC: "Roedd bod yn Sain Ffagan ddydd Llun yn bleser o'r mwyaf. Rhoddodd y lansiad hynod fywiog gipolwg ar y gwaith gwych sydd wedi cael ei wneud yng Nghaerau a Threlái dros y misoedd diwethaf. Nid yw gwaith o'r fath yn bosibl heb gyfraniad yr holl bartneriaid gwahanol tuag at ei lwyddiant. Heb os, mae'r gaer yn rhan bwysig o hanes de Cymru. Gyda chymorth grwpiau lleol, y Brifysgol a phobl ifanc lleol yn enwedig, mae gennym nawr y cyfle i ddangos y llu o bethau cadarnhaol sydd gan y rhan hon o'r ddinas i'w cynnig."
Bydd arddangosfa Rhannwch eich Hanes i'w gweld yn Sain Ffagan ac wedyn yn symud i Amgueddfa Stori Caerdydd yn yr Aes, Caerdydd. Cynhelir y digwyddiad gyda chymorth Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau, Cymunedau Cysylltiedig, Cronfa Dreftadaeth y Loteri a'r Ganolfan Gydlynu Genedlaethol ar gyfer Ymgysylltu â'r Cyhoedd.