Newyddiaduraeth gymunedol flaenllaw
25 Mehefin 2012
Mae Damian Radcliffe, Rheolwr y Rhyngrwyd a Chymdeithas yn ictQATAR, wedi cael ei benodi'n Gymrawd Ymchwil Anrhydeddus yn yr Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol.
Bydd Damian yn cyfrannu at brosiect ymchwil Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau (AHRC), dan arweiniad yr Ysgol, ar y Cyfryngau, y Gymuned a'r Dinesydd Creadigol, a fydd yn cael ei gwblhau ym mis Hydref 2014. Bydd ar gael hefyd i ymchwilwyr a myfyrwyr ôl-raddedig eraill yn ystod ei ymweliadau â Chaerdydd.
Mae Damian yn arbenigwr blaenllaw ym maes y cyfryngau newyddion ar-lein a chaiff ei gydnabod yn helaeth am ei waith dylanwadol ym maes newyddiaduraeth hyperleol. Cyn iddo symud i Qatar yn gynt eleni, roedd Damian yn Rheolwr y Cenhedloedd a'r Rhanbarthau gydag Ofcom, rheoleiddiwr cyfathrebiadau'r Deyrnas Unedig.
Mae'n flogiwr poblogaidd iawn ac ef oedd awdur asesiad diweddar o raddfa a chwmpas gwasanaethau hyperleol y Deyrnas Unedig ar gyfer "Destination Local", menter dan arweiniad yr asiantaeth arloesedd NESTA.
Mae wedi cydweithio â nifer o brifysgolion a Choleg Newyddiaduraeth y BBC a'r 'Online Journalism Blog'. Er 2008, bu hefyd yn Gymrawd Cymdeithas Frenhinol y Celfyddydau.
Meddai Damian Radcliffe: "Rwy'n edrych ymlaen at ddysgu a chael fy herio gan gyd-ymchwilwyr a myfyrwyr ôl-raddedig fel ei gilydd, a rhannu hefyd argraffiadau gyda'r Ysgol ynghylch y datblygiadau prysur newid sy'n digwydd yn y Dwyrain Canol.
"Fel yn achos newyddiaduraeth hyperleol a chymunedol, mae stori gyfoethog i'w hadrodd ac rwy'n ddiolchgar i'r Brifysgol am roi cyfle i mi helpu i'w hadrodd."
Meddai Ian Hargreaves, Athro Economi Digidol a Phrif Ymchwilydd ar gyfer prosiect ymchwil yr AHRC: "Daw Damian â safbwynt rhyngwladol ffres a gwybodus i'n diddordeb cynyddol mewn cyfryngau newyddion cymunedol ac rwy'n falch iawn ei fod yn gallu llunio'r cysylltiad hwn gyda ni."
Mae'r Gymrodoriaeth Ymchwil Anrhydeddus yn para tair blynedd.