Gwobr Ysbrydoli Cymru
15 Mehefin 2012
Nod y gwobrau, a gaiff eu trefnu gan y Sefydliad Materion Cymreig ar y cyd â'r Western Mail, yw gwobrwyo a chydnabod pobl sy'n cael effaith ddwys ar fywyd a chymdeithas Cymru. Noddwyd categori gwobr Addysgwr gan y Brifysgol, ac fe'i cyflwynwyd gan yr Athro Jonathan Osmond, Dirprwy Is-ganghellor Addysg a Myfyrwyr.
Enillodd yr Athro Chris McGuigan, sy'n Athro Cemeg Meddyginiaethol a Dirprwy Is-ganghellor (Ymchwil), y categori Gwyddoniaeth a Thechnoleg a noddwyd gan Western Power Distribution.
Mae'r wobr yn cydnabod gyrfa wyddonol o dros 30 mlynedd yr Athro McGuigan ac yn ystod y cyfnod hwn mae wedi hyfforddi dros 100 o fyfyrwyr ymchwil ac ymchwilwyr. Mae ei labordy'n weithgar iawn o ran darganfod a datblygu cyffuriau ar gyfer nifer o glefydau.
Amlygodd v wobr gyffur arbrofol INX-189, a gafodd ei syntheseiddio am y tro cyntaf lai na thair blynedd yn ôl yn labordy Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol Cymru, a gaiff ei ddefnyddio i drin Hepatitis C. Mae clefyd hwn yn effeithio ar tua 170 miliwn o unigolion ledled y byd (tri y cant o'r boblogaeth ddynol) ac mae'r driniaeth ar hyn o bryd yn anfoddhaol.
Mae'r treialon clinigol yn eu hail gam erbyn hyn, ac mae'r cyffur a ddatblygwyd gan yr Athro McGuigan a'i dîm ymchwil yng Nghaerdydd wedi newid dwylo wrth i Bristol-Myers Squibb gymryd drosodd Inhibitex, sy'n gwmni biotechnegol o'r Unol Daleithiau, am £1.6bn.
Dywedodd yr Athro McGuigan o Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol Cymru: "Rwy'n falch iawn i dderbyn y wobr hon a rhannu yn y gydnabyddiaeth gyda fy nhîm yng Nghaerdydd a'n cydweithwyr yn Inhibitex a BMS hefyd erbyn hyn. Mae'r wobr yn cydnabod llwyddiant gwyddonol a masnachol Caerdydd, Cymru a thu hwnt."
Roedd yr Athro Peter Edwards o Ysgol Cemeg Caerdydd hefyd ar y rhestr fer yng nghategori Addysgwr, ar gyfer unigolyn sydd wedi arloesi menter sydd wedi'i chanmol fel enghraifft o arfer da yn eu hardal leol, rhanbarth neu ledled Cymru.
Mae Gwobrau Ysbrydoli'r Sefydliad Materion Cymreig yn eu trydedd flwyddyn erbyn hyn, ac maen nhw'n dathlu llwyddiant unigolion ledled Cymru ym meysydd busnes, addysg, gwyddoniaeth, y celfyddydau a'r cyfryngau, yr amgylchedd a chwaraeon, yn ogystal â cheisio hyrwyddwyr ar gyfer cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol, dinasyddiaeth a