Ewch i’r prif gynnwys

Arbed bywyd ar y môr

26 Mehefin 2012

Saving lives at sea
Mae ymchwil Caerdydd yn cael dylanwad uniongyrchol ar ddiogelwch yn y gymuned forol.

Cafodd prosiect ymchwil sy'n cael effaith uniongyrchol ar ddiogelwch yn y gymuned forol ei gydnabod ag un o wobrau Arloesedd a Dylanwad blynyddol y Brifysgol.

Dan arweiniad yr Athro Professor Andrew Smith o'r Ysgol Seicoleg, mae'r prosiect Blinder Mordeithwyr wedi gwella dealltwriaeth o'r ffactorau sy'n cyfrannu at flinder ac mae wedi chwarae rhan mewn deddfwriaeth forol newydd a pholisïau newydd gan gwmnïau.

Fel canlyniad i'w ddylanwad pwysig, enillodd y prosiect y Wobr ar gyfer Dylanwad Cymdeithasol, Diwylliannol neu Bolisi, sy'n dathlu rhagoriaeth nodedig mewn ymchwil yng Nghaerdydd. Cyflwynwyd y Wobr gan David Baynes o Fusion IP, cyd-noddwr Gwobrau 2012.

Wrth sôn am yr ymchwil, dywedodd yr Athro Andrew Smith: "Mae blinder ar y môr yn broblem enfawr i'r diwydiant forol, gyda chanlyniadau ar y lefel unigol, gymunedol a chorfforaethol. Fodd bynnag, dim ond ychydig o ymchwil empirig, a wnaed yn y maes.

"Mae ein gwaith wedi dangos y ffactorau risg sy'n gysylltiedig â blinder morol – megis oriau gwaith hir, cwsg gwael ac unigedd. Wrth ddogfennu'r materion hyn, roedden ni'n dangos fod modd mynd i'r afael â blinder mordeithwyr fel mater iechyd a diogelwch â thair lefel o ymyrraeth - ymwybyddiaeth, archwilio a rheolaeth."

Yn ogystal â dylanwadu ar ddeddfwriaeth ryngwladol ac ar bolisïau cwmnïau mawr, gwnaed canfyddiadau'r ymchwil yn rhan o arferion diwydiant trwy gynhyrchu fideo a wnaed ac a olygwyd gan Paul Allen o'r Ysgol, ac a gafodd ei ddefnyddio i addysgu mordeithwyr presennol am flinder.

Dywedodd Paul: "Wrth deithio ar fwrdd llong yn gwneud y fideo, cefais gip o'r newydd ar amodau gwaith mordeithwyr. Bu modd i ni ddogfennu eu bywydau a defnyddio'r fideo wedyn i godi ymwybyddiaeth. Mae wedi bod yn galonogol i weld y fideo a'n canfyddiadau yn cael eu defnyddio i helpu i hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o fordeithwyr."

Mae Gwobrau Arloesedd a Dylanwad Prifysgol Caerdydd yn gyfle i staff academaidd y Brifysgol dynnu sylw at eu cydweithio arloesol â busnes a sefydliadau eraill y tu allan i'r byd academaidd, gan ddangos yr effaith bositif y gall ymchwil academaidd ei gael ar yr economi a chymdeithas yn gyffredinol.

Yn bresennol yn seremoni Gwobrau Arloesedd a Dylanwad 2012 roedd David Willetts, y Gweinidog Gwladol dros Brifysgolion a Gwyddoniaeth a Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, ynghyd â phobl flaenllaw o ddiwydiant a'r byd academaidd. Noddwyd y gwobrau gan gwmni cyfreithwyr Geldards a Fusion IP.

Rhannu’r stori hon