Pigment research is ‘completely novel’
9 Chwefror 2017
Gallai cyfrwng lliwio glas naturiol fod o fudd i'r diwydiannau colur a bwyd
Mae ymchwilwyr yn datblygu dulliau newydd o ddefnyddio pigment glas naturiol fel cyfrwng lliwio mewn diwydiannau megis colur a bwyd.
Mae Prifysgol Caerdydd a 21 o bartneriaid rhyngwladol wedi diogelu €1.6m gan yr Undeb Ewropeaidd er mwyn ymchwilio i gymwysiadau masnachol ar gyfer y pigment, sy'n cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd i gynyddu gwerth wystrys fel rhan o farchnad gwerth miliynau o bunnoedd yn Ffrainc.
Y cyd-arweinwyr yw Dr Rupert Perkins, o Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a'r Amgylchedd ym Mhrifysgol Caerdydd, a Jean-Luc Mouget o Université du Maine yn Ffrainc, sy'n cydlynu'r prosiect.
Dywedodd Dr Perkins: "Algâu ungellog y genws Haslea yw'r diatomau glas, ac maent yn cynhyrchu pigment glas – sy'n brin ym myd natur – y tu mewn i'r celloedd a'r tu allan.
"Maent yn adnabyddus yn y diwydiant wystrys am eu bod yn troi wystrys yn wyrdd, sy'n eu gwneud yn fwy gwerthfawr o lawer. Credir bod y broses yn werth miliynau o ewros yn y diwydiant wystrys yn Ffrainc.
"Mae'r hyn rydym yn ei wneud yn gwbl newydd, ac os yw'n gweithio, byddai'n creu pigment glas naturiol, diogel a bioddiraddadwy i'w ddefnyddio ym myd diwydiant, yn ogystal â chynnig deunydd gwrthfacterol defnyddiol."
Nod Dr Perkins a'r tîm ymchwil yw datrys sut i ddefnyddio algâu i gynhyrchu'r pigment fel cyfrwng lliwio ar gyfer byd diwydiant ar lefel sy'n ymarferol yn fasnachol.
Mae'r prosiect rhyngwladol yn cynnwys partneriaid academaidd ac anacademaidd o wledydd yn Ewrop, megis Groeg, Sbaen a Gwlad Pwyl, ac o wledydd pellach i ffwrdd, gan gynnwys UDA, Awstralia, Indonesia, Algeria a Fietnam.
Daw’r cyllid ar gyfer yr ymchwil o Horizon 2020, y rhaglen Ymchwil ac Arloesi fwyaf erioed yn yr UE, a bydd bron €80bn ar gael i'w fuddsoddi dros gyfnod o saith mlynedd hyd at 2020.
Mae'r grant €1.6m wedi'i neilltuo o Raglen Gyfnewid Staff Ymchwil ac Arloesedd Camau Marie Skłodowska-Curie Actions (MSCA - RISE) sy'n rhan o Horizon 2020, ac sy'n ariannu cyfnodau cyfnewid tymor byr er mwyn i staff ddatblygu eu gyrfaoedd drwy gyfuniad o ragoriaeth wyddonol a phrofiad o fod mewn gwledydd a sectorau eraill.