Troseddau casineb Brexit
9 Chwefror 2017
Mae grant o £250,000 wedi’i ddyfarnu i’r Labordy Gwyddor Data Cymdeithasol er mwyn sefydlu canolfan a fydd yn monitro troseddau atgasedd cysylltiedig â Brexit ar y cyfryngau cymdeithasol
Mae ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd wedi derbyn chwarter miliwn o bunnau i helpu Llywodraeth y Deyrnas Unedig i fonitro troseddau atgasedd cysylltiedig â Brexit ar y cyfryngau cymdeithasol.
Bydd y ganolfan newydd ar gyfer Ymchwil a Pholisi Seiberatgasedd, a ariannir gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC), yn canolbwyntio ar ddatblygu offeryn monitro sy’n arddangos ffrwd fyw o ledaeniad iaith atgasedd wrth i hynny ddigwydd ar Twitter.
Y gobaith yw y bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gallu defnyddio'r offeryn i ganfod meysydd sydd angen sylw polisi a gwella ymyriadau er mwyn atal troseddau atgasedd rhag ymledu yn y lle cyntaf.
Dywedodd yr Athro Matthew Williams, prif ymchwilydd y prosiect a Chyd-gyfarwyddwr y Labordy Gwyddor Data Cymdeithasol: "Dangoswyd bod troseddau atgasedd yn clystyru gydag amser ac yn tueddu i gynyddu, weithiau’n sylweddol, yn sgîl digwyddiadau "sbarduno”. Mae’r refferendwm ar ddyfodol y Deyrnas Unedig yn yr Undeb Ewropeaidd wedi arwain at fynegi rhai safbwyntiau rhagfarnllyd sy’n eiddo i leiafrif o bobl, ac yn sgîl hynny at doreth o droseddau casineb. Mae llawer o'r troseddau hyn yn digwydd ar y cyfryngau cymdeithasol.
Bydd y tîm ymchwil yn defnyddio Brexit i ddangos sut gall digwyddiad “sbarduno” penodol arwain yn fuan at ledaenu atgasedd sy’n gysylltiedig â chrefydd, mewnfudo a senoffobia ar-lein.
Mae’r tîm yn casglu data dros gyfnod o 12 mis, gan ddechrau o 23 Mehefin 2016 pan bleidleisiodd y Deyrnas Unedig o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd. Byddant yn defnyddio’r technolegau dysgu peiriant diweddaraf i ddosbarthu, dadansoddi a gwerthuso negeseuon trydar mewn amser go iawn.
Yr arloesedd allweddol sy'n deillio o'r prosiect yw offeryn monitro ar-lein a all ganfod iaith atgasedd ar y cyfryngau cymdeithasol cyn gynted ag y bydd yn ymddangos wedi digwyddiad “sbarduno” penodol.
Bydd yr offeryn hwn yn cynnwys dangosfwrdd ar gyfer llunwyr polisi a dadansoddwyr a fydd yn darparu manylion ynghylch rhagflaenwyr iaith atgasedd, megis y math o ddefnyddiwr cyfryngau cymdeithasol, nodweddion eu rhwydwaith, y math o atgasedd sy’n cael ei fynegi, y cynnwys sy’n cael ei bostio (megis URLs a hashnodau) a ffactorau allanol megis adroddiadau yn y cyfryngau torfol.
Mae'r Ganolfan yn gweithio mewn partneriaeth agos gyda Phennaeth Rhaglen Troseddau Atgasedd Trawslywodraethol y Deyrnas Unedig yng Nghyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu (NPCC), y Canolbwynt Troseddau Atgasedd Ar-lein yn Swyddfa Maer Llundain ar gyfer Plismona a Throseddau (MOPAC) a Gwasanaeth yr Heddlu Metropolitan, yn ogystal â sawl elusen amlwg ym maes troseddau atgasedd, gan gynnwys Tell MAMA, Faith Matters a’r Community Security Trust.
Dywedodd Dr Pete Burnap, arweinydd cyfrifiadol y prosiect a Chyd-gyfarwyddwr ar y Labordy Gwyddor Data Cymdeithasol: "Hyd yma mae’r wybodaeth a fu ar gael i'r Llywodraeth ar bynciau megis iaith atgasedd yng nghyswllt Brexit wedi bod ar ffurf deunydd post hoc, disgrifiadol.
Mae adroddiadau am droseddau atgasedd ar-lein ac fel arall wedi cynyddu’n ddramatig ers y refferendwm ar ddyfodol y Deyrnas Unedig yn yr Undeb Ewropeaidd. Mewn ymateb, ac fel rhan o Gynllun Gweithredu Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar Droseddau Atgasedd, mae adnoddau ychwanegol yn cael eu darparu i amddiffyn addoldai, a chynhelir adolygiad o blismona troseddau atgasedd gan Arolygiaeth Cwnstabliaeth ei Mawrhydi.
Mae gan Labordy Gwyddor Data Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd arbenigedd sy’n arwain y byd ym maes defnyddio cyfryngau cymdeithasol i fonitro troseddau, ac mae wedi creu partneriaeth lwyddiannus gyda Gwasanaeth yr Heddlu Metropolitan, y Swyddfa Gartref ac Adran yr Heddlu yn Los Angeles.
Mae’r tîm eisoes wedi cynnal nifer o astudiaethau rhagarweiniol ynghylch lledaenu iaith atgasedd ar y cyfryngau cymdeithasol, yn fwyaf arbennig yng nghyswllt llofruddiaeth Lee Rigby yn Woolwich yn 2013. Yn ystod y misoedd diwethaf mae’r Labordy wedi derbyn cyfanswm cyllid o £700,000 gan ESRC i astudio’r defnydd o Gyfathrebu Ffynhonnell Agored mewn lleoliadau ymchwil academaidd, llywodraethol a thrydydd sector.