Ewch i’r prif gynnwys

Dosbarth 2012 Caerdydd

13 Mehefin 2012

2012

Mae'r Brifysgol yn awyddus i roi cyhoeddusrwydd i unrhyw stori ddiddorol neu anarferol sydd y tu ôl i'ch dyfarniad gradd.

A ydych chi wedi cwblhau eich gradd er gwaethaf eich amgylchiadau? Efallai eich bod wedi ennill gwobr am eich cyflawniadau academaidd neu mewn chwaraeon, neu wedi teithio'r byd fel rhan o'ch ymchwil.

Mae tîm Cysylltiadau Cyhoeddus y Brifysgol yn awyddus i glywed gan unrhyw fyfyriwr sy'n graddio ym mis Gorffennaf sydd â stori i'w hadrodd ac sy'n fodlon cael eu cynnwys yng Nghylchlythyr neu wefan y Brifysgol neu yn y cyfryngau lleol yn ystod wythnos graddio (16-20 Gorffennaf 2012).

Mae enghreifftiau blaenorol o straeon sydd wedi derbyn cyhoeddusrwydd yn cynnwys, heb fod yn gyfyngedig i: graddio teuluol (rhieni a'u plant yn graddio gyda'i gilydd); myfyrwyr sydd wedi cyflawni gradd er gwaethaf brwydrau meddygol neu bersonol; myfyrwyr sydd wedi ennill ysgoloriaethau neu wobrau yn ystod eu cyfnod yn y Brifysgol; myfyrwyr sydd wedi sefydlu eu busnes eu hunain neu gyflawni gwaith elusennol.

Os hoffech chi gael eich cynnwys yng nghyhoeddusrwydd y Brifysgol ar gyfer Graddio 2012, gallwch roi eich manylion ipublicrelations@caerdydd.ac.uk. Bydd aelod o'r tîm Cysylltiadau Cyhoeddus yn ymateb ac, os bydd angen, yn gofyn am fwy o wybodaeth. Cofiwch gynnwys y manylion canlynol yn eich e-bost:

Eich enw

Eich rhif ffôn (cartref / ffôn symudol) a chyfeiriad e-bost

Eich gradd neu'r maes ymchwil y buoch yn ei astudio

Eich Ysgol

Dyddiad ac amser y seremoni graddio:

Eich papur newydd lleol:

Eich gwybodaeth sy'n haeddu sylw (e.e. cyflawniadau/diddordebau fel myfyriwr ac ati)

Rhannu’r stori hon