Arloesedd Busnes
26 Mehefin 2012
Mae cydweithrediad ymchwil hirsefydlog yn y Brifysgol sy'n arwain at gyffuriau gwrthfirol newydd, a allai gael dylanwad enfawr ar ofal iechyd yn fyd-eang, wedi ennill gwobr bwysig gan Brifysgol Caerdydd.
Derbyniodd yr Athro Chris McGuigan o Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol Caerdydd a'r cwmni fferyllol Bristol-Myers Squibb (BMS) y Wobr Arloesedd Busnes gan David Willetts, y Gweinidog Gwladol dros Brifysgolion a Gwyddoniaeth, yn seremoni flynyddol Gwobrau Arloesedd a Dylanwad y Brifysgol.
Mae BMS yn bwrw ymlaen ag INX189 (BMS-094), sef cyfansoddyn newydd ar gyfer firws hepatitis C (HCV) trwy gyfrwng treialon effeithiolrwydd pwysig gyda chleifion sy'n dioddef o HCV.
Darganfuwyd INX189 yn wreiddiol gan yr Athro McGuigan a'i dîm yng Nghaerdydd, a chafodd ei ddatblygu ar y cyd ag Inhibitex, sef cwmni bach o'r Unol Daleithiau. Yn flaenorol, roedd y cwmni wedi caffael FV-100, triniaeth newydd bosibl ar gyfer yr eryr, hefyd o labordy Chris McGuigan.
I raddau helaeth ar sail FV-100 ac yn bennaf ar sail INX189, gwerthwyd Inhibitex ym mis Chwefror 2012 i Bristol-Myers Squibb am $2.5bn.
Mae'r Wobr Arloesedd Busnes yn cydnabod yr effaith bwysig ar ofal iechyd, masnach a'r economi sy'n deillio o ddarganfod cyffuriau a'u datblygu'n glinigol. Mae dros 160 miliwn o bobl yn fyd-eang yn dioddef o Hepatitis C, sef 3% o boblogaeth y byd. Yn Ewrop ac America, mae tua miliwn o bobl yn dioddef o'r eryr bob blwyddyn. Os cânt eu cymeradwyo ar gyfer y farchnad, gallai FV-100 ac NX189 fod o fudd enfawr i ofal iechyd mewn perthynas â'r naill afiechyd a'r llall.
Ochr yn ochr â hyn, mae'r cydweithredu wedi rhoi cyfle i ymchwilwyr a myfyrwyr ôl-raddedig i gael profiad ymarferol o ddatblygu cyffuriau - o'u darganfod i dreialon clinigol. Ac mae'r wybodaeth a gânt yn treiglo'n ôl yn uniongyrchol i addysg israddedigion ar gyfer gradd Fferylliaeth yng Nghaerdydd.
Cafodd swyddi â sgiliau uchel eu creu yn y sector Biotechnoleg yng Nghaerdydd ac America fel canlyniad i'r cydweithredu, ac mae Caerdydd wedi elwa'n ariannol ym mhob cam o'r broses ddatblygu.
Dywedodd yr Athro McGuigan, o Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol Caerdydd: "Rwyf wrth fy modd yn derbyn y Wobr Arloesedd Busnes ac rwy'n rhannu'r anrhydedd â fy nhîm yng Nghaerdydd a'n cydweithwyr yn Inhibitex ac yn awr Bristol-Myers Squibb. Ein nod yn wreiddiol oedd cael hyd i gyffuriau newydd, ac mae'r canlyniadau'r treialon cyn-glinigol a chlinigol wedi bod yn well o lawer na'r disgwyl. Mae'r wobr hon yn cydnabod llwyddiant gwyddonol a masnachol i Gaerdydd, Cymru a thu hwnt."
Dywedodd Amadou Diarra, Is-lywydd Ewropeaidd Bristol-Myers Squibb a Rheolwr Gyfarwyddwr y cwmni ar gyfer y DG ac Iwerddon : "Rydym wrth ein bodd yn derbyn y Wobr Arloesedd Busnes. Mae'r cydweithio â'r Athro McGuigan a'i dîm yng Nghaerdydd wedi arwain at enghraifft nodedig o arloesedd ac rydym yn gwerthfawrogi'n fawr y gydnabyddiaeth. Gallai canlyniadau'r bartneriaeth fod o fudd mawr i gleifion sydd ag angen triniaeth."
Mae'r Gwobrau yn gyfle i staff academaidd Prifysgol Caerdydd dynnu sylw at eu cydweithio arloesol â busnes a sefydliadau eraill y tu allan i'r byd academaidd, gan ddangos yr effaith bositif y gall ymchwil academaidd ei gael ar yr economi a chymdeithas yn gyffredinol.
Noddwyd Gwobrau Arloesedd a Dylanwad 2012 gan gwmni cyfreithwyr Geldards a Fusion IP.