Ewch i’r prif gynnwys

Croesawu myfyrwyr Fulbright i Gymru

26 Mehefin 2012

Fullbright students

Mae wyth o fyfyrwyr talentog o'r Unol Daleithiau newydd gael eu croesawu i Gymru i astudio diwylliant, gwleidyddiaeth, daearyddiaeth, economi a hanes y genedl.

Cynhelir y cwrs gan Brifysgolion Caerdydd, Bangor ac Aberystwyth, a bydd y myfyrwyr israddedig o America'n cwrdd â phobl ledled y wlad, o gopa Pen y Fan i fwynfeydd copr Mynydd Parys.

Cynhaliwyd Sefydliad Haf Fulbright Cymru gan y tair Prifysgol am y tro cyntaf y llynedd. Nawr, mae Comisiwn Fulbright wedi gofyn iddynt gynnal cwrs arall, a fydd yn cario credydau tuag at radd derfynol y myfyrwyr.

Mae'r wyth myfyriwr a ddewiswyd yn gystadleuol yn dod o Brifysgolion ledled yr UD, o Florida i Washington State. Mae eu harbenigeddau'n cynnwys gwyddoniaeth gyfrifiadurol, daearyddiaeth ddynol, ac economeg. Maen nhw eisoes wedi cael eu tywys o amgylch canolfan ddinesig Caerdydd ac wedi'u plesio gan yr hyn y maen nhw wedi'i weld. Dywedodd Gary Yin, sy'n astudio ym Mhrifysgol Illinois, fod gan lawer yn y grŵp ddiddordeb mewn addysg ac iechyd cyhoeddus a'u bod yn awyddus i ddysgu mwy am y systemau yng Nghymru.

Croesawyd y myfyrwyr yn swyddogol i Gymru gan Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, mewn derbyniad arbennig yn y Senedd yng Nghaerdydd.

Dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones: "Rwy'n falch iawn i groesawu myfyrwyr Fulbright i Gymru unwaith eto. Byddan nhw'n treulio amser yn nhair o Brifysgolion Cymru ac rwy'n gobeithio y bydd yn rhoi blas iddynt ar fywyd myfyrwyr yma yng Nghymru i'w rannu ag eraill nôl gartref.

"Mae hwn yn gyfle i'r myfyrwyr hyn ddysgu mwy am dreftadaeth falch Cymru a'n safle fel cenedl fodern o fewn y DU a'r byd ehangach. Rydym yn falch o'n cysylltiadau hirsefydlog ag America, ond mae'r un mor bwysig i'r genhedlaeth iau wybod yr hyn y gall y berthynas ei gynnig ar gyfer dyfodol ein dwy genedl."

Ym mis Mai eleni, arweiniodd y Prif Weinidog daith fasnach i UDA i ehangu cysylltiadau Cymru gyda'r wlad.

Bydd y cwrs chwe wythnos yn cynnwys arbenigeddau ymchwil ac addysgu y tair Prifysgol, a gydnabyddir yn rhyngwladol. Yn ystod y ddwy wythnos gyntaf yng Nghaerdydd, bydd y myfyrwyr yn astudio newid economaidd a diwydiannol yn Ne Cymru dros y tair canrif ddiwethaf. Bydd yr uchafbwyntiau'n cynnwys taith o amgylch y Pwll Mawr ym Mlaenafon ac ar hyd arfordir Caerdydd ar long arolygu'r Brifysgol, Guiding Light. Ym Mangor, bydd y myfyrwyr yn archwilio effaith diwydiannau megis twristiaeth, mwyngloddio llechi ac amaethyddiaeth yr ucheldir, gan ymweld â'r Wyddfa, Ceudyllau Llechi Llechwedd a Gorsaf Bŵer yr Wylfa ym Môn. Yn olaf, ym Mhrifysgol Aberystwyth, bydd y myfyrwyr yn edrych ar Gymru a'i pherthynas â'r byd ehangach.

Dywedodd Michael Scott-Kline, Cyfarwyddwr Rhaglen Gwobrau Fulbright: "Mae Prifysgol Caerdydd yn parhau i fod yn un o'n prif bartneriaid a'r unig sefydliad yn y DU sy'n gallu brolio cyfnewidiadau Fulbright ar lefelau israddedig, ôl-raddedig a phroffesiynol eleni. Y tu hwnt i'r ddeialog ddiwylliannol gyfoethog y mae hyn yn ei hwyluso, mae cyfnewidiadau o'r fath yn chwarae rhan bwysig yn economi Cymru, felly rwy'n falch iawn ein bod yn gweld mwy o Americanwyr yn dewis Cymru fel eu prif gyrchfan ar gyfer astudio. Mae Comisiwn Fulbright yn parhau â'i ymroddiad i gefnogi prifysgolion Cymru wrth iddynt ddatblygu eu hagendâu rhyngwladoli, ac i bobl Cymru, a gobeithiwn y bydd rhai ohonynt yn croesi'r Iwerydd yn y cyfeiriad arall ar gyfnewidfa Fulbright eu hunain."

Dywedodd Cyfarwyddwr y Cwrs ar ran adran Prifysgol Caerdydd, Dr Bill Jones o Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd y Brifysgol: "Mae dychweliad Sefydliad Haf Fulbright Cymru'n gefnogaeth fawr i addysg uwch Cymru. Rydym yn croesawu rhai myfyrwyr rhagorol o brifysgolion mawr yr UD, a fydd yn dod â dealltwriaeth newydd o'n hanes, daearyddiaeth, iaith a diwylliant. Mae'r ffaith bod y cwrs hwn yn rhoi credydau tuag at raddau terfynol yn adlewyrchu hyder Comisiwn Fulbright yn ansawdd ein haddysgu ac ymchwil. Yma yng Nghaerdydd, mae gennym gyfanswm o 11 o fyfyrwyr Fulbright eleni, sy'n fwy nag unrhyw Brifysgol arall yn y DU."

Mae Comisiwn Fulbright wedi bod yn hyrwyddo heddwch a dealltwriaeth ddiwylliannol drwy ysgoloriaethau addysgol am fwy na 60 mlynedd. Mae'r Sefydliadau Haf wedi'u cynllunio i gyflwyno myfyrwyr i'r DU tra'n datblygu eu sgiliau academaidd ac arweinyddiaeth.

Pennawd: (y rhes flaen, o'r chwith i'r dde) Cyfarwyddwr Cwrs Fulbright, Aberystwyth, Katherine Stewart; Cyfarwyddwr Cwrs Fulbright, Bangor, Tecwyn Vaughan Jones; Myfyrwyr Fulbright, Clara Martinez (Coleg Linfield), Macey Beal (Prifysgol Nebraska-Lincoln); Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones; Emily Mixon (Prifysgol Texas-Austin); Dirprwy Is-ganghellor Prifysgol Caerdydd, yr Athro Terry Threadgold; (y rhes gefn, o'r chwith i'r dde) Cyfarwyddwr y Swyddfa Ryngwladol, Aberystwyth, Rachel Tod; Swyddog Diwylliannol, Llysgenhadaeth yr UD, Monique Quesda; myfyrwyr Fulbright, Christine Goddard (Prifysgol De Florida), Alexandra Rawlings (Prifysgol Louisville), Gary Yin (Prifysgol Illinois, Urbana-Champaign), Daniel Gibson (Prifysgol Washington), Ian Campbell (Prifysgol Rice); Cyfarwyddwr Cyfathrebu a Chysylltiadau Rhyngwladol, Caerdydd, Sandra Elliott.

Rhannu’r stori hon