Mynnwch y ffeithiau ar anhwylder deubegynol
26 Mehefin 2012
Beth sy'n digwydd os ydych chi'n dioddef rhag anhwylder deubegynol? Sut gallwch chi reoli eich hwyliau ansad? Sut gallwch chi helpu anwylyd sy'n dioddef anhwylder deubegynol?
Er mwyn nodi Diwrnod Ymwybyddiaeth Anhwylder Deubegynol yr wythnos hon (27 Mehefin), mae taflen newydd yn cynnig gwybodaeth allweddol am anhwylder deubegynol ar gyfer cleifion, perthnasau a gofalwyr.
Mae'r daflen, a gafodd ei chyhoeddi gan y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl (NCMH), yn esbonio'n glir a syml yr hyn yw anhwylder deubegynol a pha arwyddion i edrych amdanynt. Mae'n esbonio'r camau gall cleifion eu cymryd i fyw bywyd mor normal â phosibl. Mae hefyd yn cynnig cyngor ar gyfer y rhai hynny sy'n edrych ar ôl dioddefwyr y cyflwr hwn sy'n aml yn dorcalonnus.
Y Cyngor Cenedlaethol ar gyfer Iechyd Meddygol yw Canolfan Ymchwil Biofeddygol gyntaf Cymru, sy'n anelu at wella dealltwriaeth o salwch meddwl a gwella'r driniaeth i'r rhai hynny sy'n dioddef. Yn ôl y Cyfarwyddwr, yr Athro Nick Craddock o'r Ysgol Feddygaeth: "Gall Anhwylder Deubegynol achosi llawer o boen calon i gleifion a'r rhai hynny sy'n gofalu amdanynt. Gall hyn fod yn waeth oherwydd diffyg gwybodaeth – problem mae'r daflen hon a Diwrnod Ymwybyddiaeth Anhwylder Deubegynol yn gobeithio mynd i'r afael ag ef.
"Mae camau ymarferol gall pobl eu cymryd i gadw mor iach â phosibl. Yn ein taflen, ein nod yw darparu gwybodaeth sylfaenol, ychydig o gyngor adeiladol, ffynonellau ar gyfer rhagor o wybodaeth a chymorth. Dyma'r cyntaf mewn cyfres rydym yn eu cynllunio a fydd yn cynnig help ar gyfer anhwylderau meddyliol."
Mae'r daflen i'w chael ar wefan NCMH ar http://ncmh.info/.
Mae Diwrnod Cenedlaethol Ymwybyddiaeth Anhwylder Deubegynol 2012 ar ddydd Mercher 27 Mehefin, ac yn cael ei gynnal gan Bipolar UK er mwyn gwella dealltwriaeth y cyhoedd am y salwch.