Tirlithriad yn Wganda
29 Mehefin 2012
Yma mae'n rhoi hanes personol y difrod a wnaed gan y digwyddiad trychinebus hwn:
"Ddydd Mawrth gwnaethom gyrraedd Mbale i gyfarfod â Rob Rowlands o PONT, sef dolen gymunedol rhwng Rhondda Cynon Taf yn Ne Cymru a Mbale, ardal eithriadol o brydferth yn Nwyrain Wganda. Teithiodd Rob gyda ni i'r mynyddoedd i rai o'r meithrinfeydd coed yn Bududa sy'n cymryd rhan ym mhrosiect Miliwn o Goed Maint Cymru.
Pan gyrhaeddon ni fe glywsom am y tirlithriad a oedd yn cael sylw ar fwletinau newyddion y DG . Roedd wedi digwydd lle'r oedden ni i fod i ymweld â phlanhigfa goffi fach. Roedden ni eisoes wedi ymweld ag uned brosesu coffi fasnach deg yn nhre Mbale, cyn teithio i'r mynyddoedd i gwrdd â'r ffermwyr a'r gweithwyr cymunedol a oedd yn gofalu am y meithrinfeydd coed. Gwnaethom fideo byr ar gyfer Maint Cymru, ac yna mynd i ardal y tirlithriad.
Roedd y ffyrdd yn dirywio wrth i ni deithio yn ein blaenau, a mwy a mwy o bobl y cerdded ar hyd ymyl y ffordd, hyd nes i ni gyrraedd lleoliad y drychineb. Roedd yr olygfa gyntaf ar draws y dyffryn – y clai coch a oedd wedi llifo'n gyflym i lawr y llechwedd yn cyferbynnu â'r holl wyrddni o'i gwmpas. Roedd miloedd ar filoedd o dunelli o laid wedi llithro tua chilomedr i lawr y bryn.
Pan ddaethom i'r fan a'r lle a cherdded dros y mwd, roedd hi'n amlwg nad oedd neb bellach yn dal yn fyw o dan y llanastr. Roedd miloedd lawer o bobl ar ochr y mynydd, gan greu golygfa a oedd yn bron yn feiblaidd. Wrth i ni geisio cofnodi'r olygfa ar fideo, teimlem yn euog, ond gallwn ddeall pam roedd yr holl bobl wedi ymgynnull. Pan ddechreuodd lawio, dechreuodd pawb adael , a dyna a wnaethom ninnau.
Rwy'n falch ein bod wedi tynnu'r lluniau er mwyn dangos effaith torcalonnus datgoedwigo. Mae'n siŵr taw'r daith o ochr y mynydd oedd y daith fwyaf arwyddocaol oddi ar y ffordd i mi ei gwneud erioed. Dydw i ddim yn rhywun sy'n crefu am y fath brofiad ag a gefais. Roedd yn ddirdynnol a doeddwn i ddim eisiau ychwanegu at y baich. Erbyn i ni gyrraedd nôl yn nhref Mbale, roeddwn wedi cael fy nghyfweld gan y BBC a'r Western Mail. Aethom yn ôl wedyn i Tororo yn y tywyllwch, a bu Lee yn trosglwyddo lluniau o sawl camera i gyfrifiaduron. Bu Rob Rowlands o PONT yn egluro strwythur PONT a'r gwersi a ddysgwyd yma yn Mbale, Wganda."
Mae Prifysgol Caerdydd yn Bartner Coedwig i'r elusen amgylcheddol 'Maint Cymru' - sy'n anelu at ddod â phawb yng Nghymru at ei gilydd i helpu i gynnal darn o goedwig drofannol o'r un maint â Chymru fel rhan o ymateb cenedlaethol i newid yn yr hinsawdd.
Mae'r Brifysgol eisoes yn chwarae rhan flaenllaw mewn gwyddor gynaliadwyedd gyda'r nod o gael hyd i atebion i'r heriau o adnoddau sy'n crebachu a newid yn yr hinsawdd.