Adferiad afonydd trefol Prydain
29 Mehefin 2011
Mae afonydd trefol ledled Cymru a Lloegr wedi gwella'n sylweddol o ran ansawdd dŵr a bywyd gwyllt dros yr 20 mlynedd diwethaf.
Dyna gasgliad un o'r astudiaethau mwyaf o dueddiadau cenedlaethol mewn iechyd afonydd a gynhaliwyd erioed.
Wedi degawdau o lygredd, yn nodweddiadol gan garthffosiaeth a gwastraff diwydiannol heb eu trin yn ddigonol, mae afonydd mewn neu ger prif ardaloedd trefol Prydain yn adennill pryfed megis clêr Mai a phryfed y cerrig sy'n nodweddiadol o ddyfroedd llawn ocsigen sy'n llifo'n gyflym. Mae ystod yr infertebratau y daethpwyd o hyd iddynt wedi cynyddu hefyd, ar gyfartaledd, gan tua 20%.
Bu ymchwilwyr o Ysgol y Biowyddorau'n cynnal dadansoddiad annibynnol o ddata a ddarparwyd gan Asiantaeth yr Amgylchedd gan ddefnyddio bron i 50,000 o samplau o filoedd o leoliadau gwledig a threfol.
Creda'r tîm mai dirywiad diwydiant, rheoleiddio llymach a thrin dŵr gwastraff yn well dros y degawdau diwethaf sy'n gyfrifol am y gwelliant cyffredinol.
Ond ni fu adferiad ym mhob man, fodd bynnag. Mae afonydd mewn rhai ardaloedd gwledig yr ucheldir - megis Cymru a rhannau o ogledd Lloegr - yn dangos ychydig o ddirywiad. Nawr, mae'r tîm yn ymchwilio'r tueddiadau hyn ymhellach.
Canfyddiad pwysig arall oedd bod blynyddoedd o sychder wedi gwrthdroi'r adferiad - o leiaf dros dro.
Dywedodd Dr Ian Vaughan, prif awdur yr astudiaeth: "Mae'r canlyniadau pwysig hyn yn dangos sut mae buddion o ran bioamrywiaeth afonydd – sef yr amrywiaeth enfawr o rywogaethau sy'n byw yn ein hafonydd - wedi deillio o fuddsoddi ac adfer hirdymor a fwriadwyd yn bennaf ar gyfer 'gwasanaethau ecosystem afonydd' eraill megis dŵr yfed a glanweithdra."
Ychwanegodd yr Athro Steve Ormerod, sy'n gydawdur: "Er bod rhai llygryddion sy'n parhau i fod yn broblem, nid oes amheuaeth bod hyn yn llwyddiant mawr sy'n dangos beth ellir ei gyflawni gyda rheoli amgylcheddol effeithiol. Mae'r rhain yn welliannau mawr iawn nid yn unig i ecosystemau afonydd, ond hefyd i'r holl bobl sy'n byw, gweithio a chwarae ar hyd eu glannau ym mhob man o Burnley i'r Black Country neu o Ferthyr Tudful i Gaerdydd."
Dywedodd Pennaeth Rheoli Dalgylch Asiantaeth yr Amgylchedd, David Baxter: "Mae amgylcheddau o ansawdd uchel yn hyrwyddo lles a chreadigrwydd, felly mae gwelliannau mewn afonydd yn bwysig i fywyd gwyllt, i bobl ac i'r economi. Mae'n wych gweld y dadansoddiad annibynnol hwn yn cadarnhau bod afonydd trefol yn adfer, ond mae mwy o waith i'w wneud eto. Rydym yn gweithio gyda ffermwyr, busnesau a chwmnïau dŵr i leihau llygredd a gwella ansawdd dŵr ac mae gennym gynlluniau i weddnewid mwy na 9,500 o filltiroedd o afonydd yng Nghymru a Lloegr erbyn 2015."
Mae papur sy'n disgrifio'r astudiaeth yn ymddangos yn rhifyn cyfredol y cylchgrawn o fri rhyngwladol, 'Global Change Biology'.