Pobl ifanc yng Nghymru bellach yn fwy tebygol o lawer o roi cynnig ar e-sigaréts na thybaco
8 Chwefror 2017
Bellach mae pobl ifanc yng Nghymru bron ddwywaith yn fwy tebygol o roi cynnig ar e-sigaréts o gymharu â thybaco, yn ôl ymchwil newydd gan Brifysgol Caerdydd.
Er nad oes unrhyw dystiolaeth bod e-sigaréts yn gwneud pobl ifanc yn fwy tebygol o ysmygu, gallai y defnydd o e-sigaréts ymhlith pobl ifanc ddod yn fater iechyd cyhoeddus os na chaiff ei fonitro. Dyma farn ymchwilwyr o Ganolfan Datblygu a Gwerthuso Ymyriadau Cymhleth er mwyn Gwella Iechyd y Cyhoedd y Brifysgol (DECIPHer), mewn papur a gyhoeddwyd yn y British Medical Journal.
Mewn un o'r astudiaethau mwyaf o ddefnydd e-sigaréts ymhlith pobl ifanc yn y DU, gofynnodd tîm o'r Ganolfan, sydd wedi'u lleoli yn Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol y Brifysgol, i bobl ifanc rhwng 11-16 oed yng Nghymru, gan gynnwys bobl sy'n ysmygu, pobl a oedd yn arfer ysmygu neu'r rhai nad ydynt yn ysmygu, ynghylch eu defnydd o e-sigaréts.
Buon nhw hefyd yn edrych ar y cysylltiadau rhwng defnyddio sylweddau eraill - cannabis, alcohol, meffedron a nwy chwerthin.
Er 2013, canfuwyd bod nifer y bobl ifanc sy'n arbrofi gydag e-sigaréts wedi cynyddu'n sylweddol yng Nghymru a'i fod erbyn hyn bron i ddwywaith mor gyffredin ag arbrofi gyda thybaco, er bod y rhan fwyaf o bobl ifanc sydd wedi defnyddio e-sigaréts a thybaco, wedi defnyddio tybaco yn gyntaf. Mae defnydd cyson o e-sigaréts wedi dyblu bron, a thra bod y nifer yn parhau i fod yn isel iawn ymhlith y rhai nad ydynt yn ysmygu, mae'n cynyddu.
Myfyrwyr hŷn a myfyrwyr gwryw oedd fwyaf tebygol o fod wedi defnyddio e-sigarét.
Roedd yr ymchwil hefyd yn dangos patrwm clir yn ôl nodweddion ysmygu, gyda'r mwyafrif llethol o ysmygwyr arbrofol a'r ysmygwyr rheolaidd, ynghyd â defnyddwyr canabis arbrofol a rheolaidd, yn nodi eu bod nhw hefyd wedi defnyddio e-sigarét. Roedd cysylltiad agos hefyd rhwng defnydd alcohol, meffedron a nwy chwerthin gyda defnydd arbrofol o e-sigaréts.
Dywedodd Elen de Lacy, prif awdur yr astudiaeth: "Mae ein data yn awgrymu bod y defnydd o e-sigaréts yn cynyddu'n gyflym ymhlith pobl ifanc. Er nad oes tystiolaeth ar gael sy'n cysylltu hyn ag ysmygu, mae gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd y cyhoedd a llunwyr polisïau yn bryderus y gallai e-sigaréts arwain at nifer o bobl ifanc sydd erioed wedi ysmygu, ddod yn gaeth i nicotin, petai'r defnydd cyson ohonynt yn dod yn gyffredin.
Mae'r defnydd cyson ohonynt gan bobl nad ydynt yn ymysgu yn parhau'n isel, ond mae'n cynyddu. Os na chaiff hyn ei fonitro, gallai defnydd pobl ifanc o e-sigaréts arwain at broblem iechyd cyhoeddus ni waeth beth yw ei gysylltiad ag ysmygu. Felly, mae'n bwysig deall sut y gallwn atal hyn rhag dod yn broblem.
"Mae gwir angen ymchwil bellach arnom nawr sy'n archwilio defnydd hirdymor e-sigaréts a thybaco ymhlith pobl ifanc, a deall y defnydd o e-sigaréts o safbwynt pobl ifanc. Mae hefyd yn bwysig monitro effaith newidiadau deddfwriaethol diweddar iawn ar y defnydd o e-sigaréts ymhlith pobl ifanc. Ni cheir eu gwerthu i bobl o dan 18 ac mae llawer o ffyrdd o'u marchnata wedi'u gwahardd.
Cymerodd 32,479 o bobl ifanc o 87 o ysgolion yng Nghymru, ran yn yr astudiaeth yn 2015. Casglwyd y data o Rwydwaith Iechyd mewn Ysgolion Cymru, partneriaeth ryngasiantaethol a arweinir gan DECIPHer gyda Llywodraeth Cymru, Bwrdd Iechyd Cyhoeddus Cymru, Ymchwil Canser y DU a 113 o ysgolion uwchradd Cymru. Eu nod yw gwella ansawdd ymchwil ar welliannau iechyd a gynhelir mewn ysgolion yng Nghymru.
Caiff yr astudiaeth drawstoriadol sy'n ymchwilio i gyffredinrwydd, cydberthynas a threfn y defnydd o e-sigaréts a thybaco ymhlith pobl ifanc 11-16 oed mewn ysgolion yng Nghymru ei chyhoeddi ar BMJ Open ac ar-lein yma.