Archaeoleg Guerrilla
17 Gorffennaf 2012
Bydd pobl sy'n mynd i bedwar digwyddiad ar draws Cymru a Lloegr yr haf hwn yn cael profiad ymarferol o'r gorffennol yn rhan o weithgaredd gan y Brifysgol i roi bywyd i archaeoleg.
Bydd tîm a arweinir gan Dr Jacqui Mulville, Darlithydd mewn Bioarchaeoleg yn Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd y Brifysgol, yn ymweld â gwyliau Secret Garden, Wilderness, Dyn Gwyrdd a Shambala gyda phrosiect Archaeoleg Guerrilla.
Wedi'i seilio ar thema Pregethwyr Stryd Shamanaidd, bydd y tîm yn cyflwyno cynulleidfaoedd y gwyliau i gyfoeth cymdeithasau dynol y gorffennol.
Wrth siarad am y prosiect, meddai Dr Mulville: "Mae siarad â phobl mewn digwyddiadau o'r fath yn ffordd wych o gyrraedd ystod ehangach o gynulleidfaoedd ac ennyn eu diddordeb yn ein gwaith. Trwy gynnwys ein myfyrwyr gallwn ymgysylltu'n uniongyrchol â chynulleidfa iau, darparu hyfforddiant i fyfyrwyr a rhoi bywyd i archaeoleg. Byddwch yn barod i ryfeddu at gyfoeth cymdeithasau dynol y gorffennol, dilyn ôl troed eich cyndeidiau ac archwilio eich ochr wyllt.
"Mae'r Pregethwyr Stryd Shamanaidd yn defnyddio miloedd o flynyddoedd o brofiad i roi cyfle i bobl edrych ar y byd trwy lygaid newydd. Roedd Shamaniaid yn cyfryngu rhwng anifeiliaid a bodau dynol, rhyngom ni ein hunain a'r byd ysbrydion, a rhwng y byw a'r marw. Roeddent yn iacháu trwy seremoni, defod, cerddoriaeth a dawns. Gyda'n gwisgoedd a'n cuddwisgoedd rydym am roi bywyd newydd i ddelfrydau Shamanaidd.
"Mae fy ymchwil archaeolegol yn gyfuniad o wyddoniaeth, celf a natur, ac mewn cydweithrediad â myfyrwyr ac artistiaid rydym wedi cynllunio amrywiaeth o ddigwyddiadau sy'n darparu gwybodaeth am y gorffennol, yn difyrru ac yn ysgogi trafodaeth fywiog. Eleni rydym yn falch iawn o ddychwelyd i ŵyl y Dyn Gwyrdd, mewn ardal ger un o'n prosiectau yn Llan-gors Grannog yng Nghymru, yn dilyn ein llwyddiant cychwynnol y llynedd. Rydym yn edrych ymlaen at gyfarfod â mwy o bobl wrth deithio o amgylch Prydain yr haf hwn."
Cynhaliwyd Archaeoleg Guerrilla am y tro cyntaf y llynedd, ac ymgysylltodd miloedd o bobl o bob oedran â'r thema Yn ôl i'r gorffennolyn ystod y tri diwrnod yng ngŵyl y Dyn Gwyrdd, gan ryngweithio mewn ffyrdd ystyrlon a ragorodd ar ddisgwyliadau ac a ganmolwyd gan drefnwyr yr ŵyl.
Roedd y rhaglen amrywiol yn cynnwys gweithdai, gosodiadau a pherfformiadau a oedd yn cymysgu gwyddoniaeth a natur ag adloniant, celf, crefft a dylunio. Fe'i cynhaliwyd yn ardal 'Gardd Einstein' yr Ŵyl. Gan weithio gyda'r artist Paul Evans, anogodd yr Archaeolegwyr Guerrilla y cyfranogwyr i ddefnyddio eu dychymyg i deithio'n ôl mewn amser i ddarganfod anifeiliaid y gorffennol, tiroedd boddedig a ffasiwn hynafol. Cawsant gyfle i drin a thrafod arteffactau archaeolegol, dysgu am archaeoleg safle gŵyl y Dyn Gwyrdd a Chymru, a gosod digwyddiadau pwysig ar 'lein ddillad amser' – yn ogystal â chreu ffasiwn, ategolion a modelau'r dyfodol. Gofynnwyd i'r cyhoedd greu a dylunio anifeiliaid y dyfodol, gyda chymorth yr artist.
Cefnogir prosiect gŵyl Archaeoleg Guerrilla gan Brifysgol Caerdydd ac Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Mae mwy o wybodaeth am Archaeoleg Guerrilla ar gael yma http://guerillaarchaeology.wordpress.com/festivals-2012/
Bydd Archaeoleg Guerrilla yn y gwyliau canlynol:
SECRET GARDEN, 19 -22Gorffennaf, Abbots Rippon, Swydd Gaergrawnt
Bydd y Shaman Henry Dosedla a'r cerddor Dylan Adams yn ymuno ag Archaeolegwyr Guerrilla i archwilio'r thema 'Seremoni'.
WILDERNESS, 10 -12 Awst 2012, Parc Cornbury, Swydd Rydychen
Bydd y Pregethwyr Stryd Shamanaidd wrth law i argyhoeddi'r cyhoedd ddydd Gwener 10 Awst am 4pm, a byddant yn cynnal dau weithdy dwy awr o hyd ddydd Sadwrn am 4pm a dydd Sul am 11am pryd y gall y rhai sy'n mynd i'r ŵyl fod yn Shamanaidd trwy seremoni a chuddwisg.
DYN GWYRDD, 17 – 19 Awst, Ystâd Glanwysg, Crucywel, Cymru
Byddwn yn dychwelyd i Ardd Einstein gan ganolbwyntio ar Wyddoniaeth Shamanaidd.
SHAMBALA, 23 – 27 Awst, ger Market Harbourough
Gan ddychwelyd i'r themâu a archwiliwyd yng ngŵyl Secret Garden, bydd yr Archaeolegwyr Guerrilla yn cynnig y cyfle i wneud cerddoriaeth, celf a ffrindiau newydd yn eu gwersyll weithredu a Iwrt Shamanaidd.