Cyfoethogi gwyliau ysgol
7 Chwefror 2017
Mae rhaglen genedlaethol 'Bwyd a Hwyl' yn cael ei chynnal yn ystod gwyliau'r ysgol a'i nod yw atal plant rhag llwgu yn ystod gwyliau'r haf. Yn ôl gwerthusiad gan Brifysgol Caerdydd, mae'r rhaglen yn helpu i leihau effaith tlodi ac amddifadedd.
Yn ôl yr adroddiad gan Y Lab - partneriaeth rhwng y Brifysgol a NESTA - a gafodd ei lansio yng Nghaerdydd heddiw (8 Chwefror 2017), roedd Bwyd a Hwyl wedi gwneud y plant yn fwy egnïol, gwella eu diet, lleihau allgau cymdeithasol yn ogystal â chynnig cyfleoedd i ddysgu ac ymgysylltu ag ysgolion.
Dangosodd hefyd bod y plant a gymerodd ran yn cael diet iachach a mwy cytbwys a'u bod yn gwneud mwy o ymarfer corff na fydden nhw wedi'i wneud gartref.
Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) sy'n cynnal Bwyd a Hwyl yn rhan o Raglen Cyfoethogi Gwyliau Ysgol (SHEP) Cymru. Dywedodd y Cynghorydd Ali Thomas (Castell-nedd Port Talbot), Llefarydd Materion Addysg WLGA: "Mae'n bleser gan WLGA gynnal digwyddiad cyntaf Rhaglen Cyfoethogi Gwyliau Ysgol (SHEP) Cymru heddiw. Diben y digwyddiad yw rhannu canlyniadau cynllun peilot 2016 a dod â chyrff o bwys ledled Cymru ynghyd i drafod sut byddwn yn dechrau ei chyflwyno yn 2017.
"Mae WLGA wedi croesawu'r cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru y bydd arian ar gyfer y rhaglen werth chweil ac arloesol yma yn y dyfodol. Byddwn yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol ac asiantaethau partner er mwyn eu helpu i gyrraedd y plant a'r teuluoedd a fyddai'n elwa fwyaf o'r fenter.
"Mae'r canlyniadau'r cynllun peilot wedi creu cryn argraff. Yn y deg safle fu'n rhan o gynllun gwyliau'r haf y llynedd, fe fanteisiodd 323 o blant ar y cynllun. Dyma blant a fyddai, o bosibl, wedi mynd heb fwyd neu wedi'u hallgau'n gymdeithasol fel arall. Hoffwn dalu teyrnged i'r staff a'r 49 o gyrff a helpodd i wneud cymaint o wahaniaeth i fywydau'r plant yma.”
Cafodd yr ymchwil ei chynnal gan Y Lab - Labordy Arloesedd Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru - i werthuso cost y clybiau Bwyd a Hwyl, faint o blant ac aelodau o'r teulu a fynychodd, a'r effaith ar iechyd a lles plant a'u rhieni.
Dywedodd Dr Kelly Morgan o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd, ac un o'r prif ymchwilwyr ar ran Y Lab: "Mae’r clwb Bwyd a Hwyl yn ddull arloesol a chost-effeithiol sy’n cynnwys nifer o asiantaethau. Mae modd ei gyflwyno ar draws ystod o safleoedd ysgolion ac awdurdodau lleol yng Nghymru i leihau effaith tlodi ac amddifadedd cymdeithasol yn ystod gwyliau’r ysgol. Yn ôl pob golwg, mae targedu teuluoedd ar sail ardal yn ffordd effeithiol o gyrraedd teuluoedd difreintiedig ac ymgysylltu â nhw. Mae hefyd yn osgoi’r labelu, y stigma a’r deilliannau anfwriadol a ddaw yn sgil dewis teuluoedd unigol".
Cymerodd deg ysgol ran yn y gwerthusiad yn 2016. Yn ôl yr ymchwil, dywedodd y rhan fwyaf o blant eu bod yn bwyta mwy o ffrwythau a llysiau (67%), yn cael llai o fyrbrydau melys (66%) ac yn yfed llai o ddiodydd llawn siwgr/pefriog (81%) ar ddiwrnod y clwb nag oedden nhw gartref. Hefyd yn ôl y data a gasglwyd, roedd plant yn llawer mwy tebygol o gyflawni’r awr o weithgarwch corfforol cymedrol i egnïol a argymhellir os oedden nhw’n mynd i’r clybiau (71%), o’i gymharu â’r diwrnodau eraill (48%).
Daeth manteision cymdeithasol ac addysgol i'r amlwg hefyd gan fod 75% o'r plant wedi dweud eu bod wedi gwneud ffrindiau newydd yn y clwb gwyliau, a bod rhieni a staff yn gweld mwy o agweddau cadarnhaol at yr ysgol ymhlith y plant oedd yn mynychu.
WLGA sy'n rheoli Rhaglen Cyfoethogi Gwyliau Ysgol (SHEP) Cymru, a chaiff arian gan Lywodraeth Cymru ar ei chyfer yn y dyfodol.