Taro Aur gan y Brifysgol
24 Gorffennaf 2012
Mae cyn-Bennaeth yr Adran Mwyngloddio a Pheirianneg Mwynau yn yr Ysgol Peirianneg wedi cwblhau cyhoeddiad ar adfer yr hen fwynglawdd aur Rhufeinig ar Ystad Dolaucothi ym Mhumsaint, Sir Gaerfyrddin, yn ne Cymru.
Wedi'i weithio gan y Celtiaid, y Rhufeiniaid ac yn ystod hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif, mae Mwynglawdd Aur Dolaucothi bellach yn enghraifft flaenllaw o dreftadaeth ddiwydiannol Cymru. Fe wnaeth y diddordeb cyffredinol a dyfodd o weithgareddau'r Brifysgol yn y mwynglawdd aur yn ystod blynyddoedd cynnar y gwaith adfer annog datblygu gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol er mwyn agor y mwynglawdd i'r cyhoedd. Bellach, gall ymwelwyr badellu am aur a phrofi taith dywys danddaearol yn y mwyngloddiau ym Mhumsaint.
Roedd Mwynglawdd Aur anghyfannedd Dolaucothi yn safle canolfan faes gan Brifysgol Caerdydd am 21 flynedd o 1978 ymlaen. Staff a myfyrwyr Mwyngloddio a Pheirianneg Mwynau a Daeareg Mwyngloddio a wnaeth ymgymryd â cham cyntaf, pum mlynedd, gwneud y mwynglawdd yn ddiogel. Ar y cyd â'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, fe wnaeth camau datblygu amrywiol arwain at y Mwynglawdd Aur yn ymgymryd â golwg mwynglawdd metelifferaidd o gyfnod y 1930au ac roedd yn cynrychioli enghraifft ar waith o gadwraeth ddiwydiannol.
Yn y cefndir datblygiadol hwn, fe wnaeth y Brifysgol, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Choleg Addysg Uwch Gwent sefydlu Prosiect Addysg tair blynedd. Roedd rhan o'r cydweithredu hyn yn cynnwys gweithio gydag athrawon a phlant ysgol gynradd i lunio deunyddiau adnoddau addysgu wedi'u seilio ar etifeddiaeth lenyddol Cymru ac ar y Rhufeiniaid.
Fel Rheolwr y Mwynglawdd dros gyfnod y brydles a oedd ym meddiant y Brifysgol, cafodd Dr Alun Isaac olwg unigryw ar ddarganfyddiadau hynod a phrofiadau ymarferol y myfyrwyr. Er 2001, mae Dr Isaac wedi golygu a chyhoeddi llyfrau gan nifer o awduron, a wnaeth arwain at y llyfr ar brosiect Dolaucothi. 'Roedd y broses o ysgrifennu ar bwnc a oedd wedi meddiannu cyfnod mor hir a buddiol o'm mywyd, yn ddiddorol ac yn llawn pleser i mi,' meddai Dr Isaac.
Mae llyfr Dr Isaac, Dolaucothi Gold – A Vision Realised, yn adrodd hanes prosiect y mwynglawdd aur, o 1978 i 1999, gan fanylu ar y bartneriaeth unigryw rhwng Prifysgol Caerdydd, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a chymuned Pumsaint a'r Fro.
'Mae hanes cloddio am aur yn Nolaucothi yn un hynod, gyda'i gysylltiadau hanesyddol a diwylliannol sy'n ymestyn o gyfnod cyn-Rufeinig i'r presennol,' dywed Dr Isaac, 'O'r gwaith chwilio cychwynnol am Ganolfan Faes i wireddu'r cyfleoedd a gyflwynwyd yn y mwynglawdd aur yn Nolaucothi a fu'n anghyfannedd ers amser hir, crëwyd gweledigaeth ar gyfer cyrhaeddiad addysgol a diogelu treftadaeth ddiwylliannol.'
Bydd y llyfr yn cael ei lansio'r wythnos hon (dydd Gwener 27 Gorffennaf) yn yr Ysgol Peirianneg ac mae Dr Isaac yn annog ymweliadau â'r mwynglawdd i gael profiad o'r hanes unigryw hwn ac i ddathlu tri deg mlynedd o waith ymchwil archeolegol a daearegol ar y safle. 'Ar hyn o bryd, mae tua 750,000 o ymwelwyr wedi profi budd a mwynhad ymweliad â Mwynglawdd Aur Dolaucothi,' dywed Dr Isaac, 'Mae hyn yn adlewyrchu datblygiad y weledigaeth gynnar am adnodd addysgol hyd at ei statws presennol, yn ganolfan ar gyfer dysgu gydol oes, cadwraeth ddiwydiannol a thwristiaeth.'