Trafferth yn y gwaith
26 Gorffennaf 2012
Mae gweithwyr sector cyhoeddus dan y lach gan gwsmeriaid, cydweithwyr a rheolwyr, yn ôl llyfr newydd gan ymchwilwyr o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol.
Mae Trouble at Work yn dangos bod gweithwyr sector cyhoeddus yn fwy tebygol o gael eu camdrin, gan gynnwys trais, gan y bobl y maent i fod i'w gwasanaethu, ond hefyd gan eu cydweithwyr a'u rheolwyr.
Mae gweithwyr sector cyhoeddus yn y sefyllfa ddyrys hon gan eu bod yn fwy tebygol na gweithwyr sector preifat o brofi'r ystod lawn o ffactorau sy'n arwain at gamdriniaeth. Er enghraifft, mae gweithwyr ym meysydd gweinyddiaeth gyhoeddus ac amddiffyn, ac iechyd a gwaith cymdeithasol, yn profi cyfuniad gwenwynig o newid yn y gweithle, colli rheolaeth dros eu swyddi, gwaith yn dwysáu a chyflymder gwaith na allant ymdopi ag ef.
Mae cynhwysion eraill yn y rysáit gamdriniaeth yn cynnwys y ffaith bod gweithwyr sector cyhoeddus yn fwy tebygol o fod ag anableddau neu broblemau iechyd hir dymor, yn credu eu bod yn mynd yn groes i'w hegwyddorion yn y gwaith, ac yn meddwl nad yw eu cyflogwr yn eu gwerthfawrogi fel unigolion a bod eu cyflogwr bob amser yn rhoi anghenion y sefydliad yn gyntaf.
Mae pob un o'r cynhwysion camdriniaeth hyn yn debygol o gynyddu wrth i fwy o bwysau gael ei roi ar gostau ac wrth i'r sector cyhoeddus grebachu. Mae'r effaith hon yn amlwg ar gyfer y rhan fwyaf o'r ffactorau sy'n arwain at gamdriniaeth, megis cynnydd mewn gwaith a llai o gyfle i ystyried anghenion unigolion. Ond gallai'r pwysau i leihau costau gynyddu camdriniaeth mewn ffyrdd llai amlwg, megis lleihau absenoldeb salwch ac addasiadau gwaith ar gyfer gweithwyr ag anableddau neu broblemau iechyd. At hynny, mae perygl camdriniaeth, gan gynnwys trais, gan y cyhoedd yn fwy tebygol o gynyddu os gwelant fod cwmpas neu ansawdd gwasanaeth cyhoeddus yn ddiffygiol.
Dywedodd un o awduron y llyfr, yr Athro Ralph Fevre o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol: "Ceir llawer o gamdriniaeth yn y sector cyhoeddus ond i esbonio hyn, mae angen i chi edrych yn fanylach ar yr hyn sy'n gwneud gweithio yno yn wahanol. Nid yw'n fater syml o ymosodiadau ar weithwyr y gwasanaethau brys, neu fod gan weithwyr yn y sector cyhoeddus ddisgwyliadau uwch o ran ymddygiad yn y gweithle. Nid yw'n wir o reidrwydd bod rheolwyr yn y sector cyhoeddus yn waeth na'r rhai yn y sector preifat ychwaith.
"Mae ein hymchwil yn dangos ei bod yn sefyllfa hynod gymhleth lle mae amrywiaeth o ffactorau'n dod at ei gilydd i greu problemau lluosog. Fodd bynnag, ceir un neges syml ar ddiwedd hyn oll. Gallai fod gan weithwyr sector cyhoeddus fwy i'w golli yn sgil symud adnoddau i'r sector preifat na'u pensiynau neu hyd yn oed eu swyddi."
Mae'r llyfr hefyd yn dadansoddi risgiau rhanbarthol camdriniaeth. Gweithwyr yng Nghymru sydd fwyaf tebygol o brofi anghwrteisi a diffyg parch, gan gynnwys bygythiadau a brawychu. Ynghyd â gweithwyr yn Swydd Efrog a Humberside, gweithwyr yng Nghymru sydd fwyaf tebygol o brofi triniaeth afresymol hefyd. Mae problemau'n cynnwys cael gwrthod y cymorth sydd ei angen arnynt i weithio hyd eithaf eu gallu, diffyg sylw i'w barn a'u safbwyntiau, bod yn destun archwiliadau diangen, llwythi gwaith gormodol a methiant cyflogwyr i ddilyn gweithdrefnau priodol. Canfu'r awduron mai gweithwyr yn Llundain oedd lleiaf tebygol o brofi triniaeth afresymol, anghwrteisi a diffyg parch, yn ogystal â thrais ac anafiadau.