Mynd i’r afael â phoen pen-glin
27 Ionawr 2012
Canfu astudiaeth gan y Brifysgol y gall rhedeg am yn ôl gynnig mewnwelediad pwysig i rymoedd yng nghymal y pen-glin, a allai helpu pobl sy'n cael trafferth â phoen pen-glin.
Mae'r astudiaeth, a gynhaliwyd gan ymchwilwyr o Ganolfan Biomecaneg a Biobeirianneg Athritis Research UK yn Ysgol Astudiaethau Gofal Iechyd y Brifysgol, yn dangos sut mae rhedeg am yn ôl yn rhoi llai o bwysau yn gyffredinol ar gymal y pen-glin.
Gan nad yw rhedeg am yn ôl yn ateb ymarferol iawn, mae'r tîm yn gobeithio adeiladu ar ei ganfyddiadau ac awgrymu arddulliau rhedeg ymlaen a allai alluogi pobl sydd â phoen pen-glin anterior i gadw'n actif.
Fe wnaeth yr ymchwilwyr, gan weithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, gasglu a dadansoddi data yn gysylltiedig â'r grymoedd cywasgol sy'n gweithredu ar gymal y pen-glin oddi wrth 20 o bobl a ddysgodd dechnegau i redeg ymlaen ac am yn ôl.
Yn achos 85 y cant o'r rhai a gymerodd ran, darganfu'r ymchwilwyr fod y grymoedd cywasgol y tu ôl i'r badell pen-glin yn cynyddu wrth redeg ymlaen o gymharu â rhedeg am yn ôl.
Cafodd cyfranogwyr eu recriwtio a'u haddysgu i redeg ar gyflymder o rhwng 2.8 a 3.4 milltir yr eiliad. Roedd y cyflymder wrth redeg ymlaen a rhedeg am yn ôl bron yn union yr un fath ar gyfer pawb a gymerodd ran. Casglwyd data trwy osod marcwyr adlewyrchol ar goesau'r cyfranogwyr, recordio'r sesiwn ar fideo gan ddefnyddio camerâu isgoch ac yna asesu'r osgo gan ddefnyddio meddalwedd gyfrifiadurol. Cafodd y grym a roddwyd pan oedd y droed yn taro'r ddaear ei fesur gan ddefnyddio platiau grym o dan y llawr.
Wrth drafod y canfyddiadau, dywedodd Nick Barton, ffisiotherapydd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro: "Mae llawer o bobl, gan gynnwys rhedwyr, yn dioddef problemau gyda'u pen-gliniau. Dangosom fod grymoedd cywasgol y tu ôl i'r badell pen-glin yn cael eu lleihau ym mwyafrif yr achosion, ac roedd hyn yn annibynnol ar gyflymder rhedeg.
"Felly, mae'n bosibl y gall rhedeg am yn ôl, fel rhan o raglen adfer benodol sydd wedi'i rhagnodi gan ffisiotherapydd, helpu cleifion i ddychwelyd i lefel dda o weithgarwch".
Mae pobl sydd â phen-glin rhedwr yn dioddef dolur, anghysur neu hyd yn oed ymdeimlad o grafu yn eu pen-glin pan fydd mwy o bwysau ar y cymal. Mae hyn yn aml yn eu hatal nhw rhag gwneud ymarfer corff mewn ffordd arferol.
Ychwanegodd Dr Paulien Roos, Cymrawd Academaidd yng Nghanolfan Biomecaneg a Biobeirianneg Arthritis Research UK a'r Ysgol Astudiaethau Gofal Iechyd: "Er efallai nad yw rhedeg am yn ôl yn ateb ymarferol, rhoddodd yr astudiaeth hon fewnwelediad pwysig i'r ffordd y gall y llwyth ar gymal y pen-glin gael ei leihau wrth redeg.
"Roedd y rhai a gymerodd ran yn ein hastudiaeth yn glanio ar eu sodlau wrth redeg ymlaen ond roeddent bob amser yn glanio ar flaen eu troed pan oeddent yn rhedeg am yn ôl. Roedd cyswllt cychwynnol y droed yn bwysig wrth ddiffinio'r grymoedd cywasgol yn y pen-glin ac mae'n awgrymu bod cyfle i archwilio amrywiol arddulliau rhedeg y gellid eu defnyddio at ddibenion therapiwtig".
Meddai cyfarwyddwr meddygol Arthritis Research UK, yr Athro Alan Silman, wrth roi sylwadau ar yr astudiaeth: "Rydym yn ariannu ymchwil i helpu i gadw pobl yn weithgar. Mae'r astudiaeth hon yn rhoi syniad gwell i ni o ba arddulliau rhedeg sy'n lleihau grymoedd ar y pen-glin er mwyn helpu i atal anafiadau fel pen-glin rhedwr.
"Mae'n bwysig bod pobl yn defnyddio'r dechneg gywir i ymarfer corff yn ddiogel ond nid ydym yn argymell bod pobl yn dechrau rhedeg am yn ôl oherwydd y posibilrwydd o beryglon baglu. Os nad ydych yn sicr ynghylch eich techneg rhedeg, gall hyfforddwr chwaraeon cymwys, hyfforddwr ffitrwydd neu aelod o staff campfa roi cyngor i chi".
Cyhoeddwyd yr astudiaeth yn Ebrill 2012 yn y Journal of Biomechanics: 'Patellofemoral joint compression forces in backward and forward running', Paulien E. Roos, Nick Barton a Robert W.M. van Deursen.
Adolygwyd y papur hwn ym Mai 2012 yn y cyfnodolyn 'Lower Extremity Review'.