Dyfodol tai ym Mhrydain
31 Gorffennaf 2012
Mae gan gyn-fyfyriwr blaenllaw o'r Brifysgol gyfle i ennill un o wobrau pensaernïol pwysicaf y DU.
Mae Ed Green, a raddiodd yn Ysgol Bensaernïaeth Cymru ac sy'n ddarlithydd rhan-amser, ar y rhestr fer ar gyfer cystadleuaeth ddylunio fawreddog Tai Cenedlaethol y Sunday Times.
Mae dyluniad unigryw Ed Green ar gyfer cartrefi, sef S,M,L (Stacking/Modular/Lifetime) yn cynnig ffordd o adeiladu cartref i'r teulu mewn mis yn unig. Bydd yn gallu ymateb i anghenion cyfnewidiol y bobl sy'n byw ynddo oherwydd gellir ei wneud yn fwy neu'n llai neu hyd yn oed ei symud o le i le.
Meddai Ed Green: "Ai dyma ddyfodol tai ym Mhrydain? Wel, mae'n sicr yn bosibilrwydd.
"Mae'r cartref S,M,L yn cael ei adeiladu mewn unedau parod sy'n gadarn, yn para'n dda ac yn fforddiadwy. Mae preswylwyr yn dewis y lleoedd y maen nhw eu heisiau yn eu cartref mewn catalog cynhwysfawr.
"Dewisir deunyddiau a gorffeniadau yn ôl yr hyn maen nhw'n eu hoffi a gellir ailgylchu'r cyfan yn llawn. Wedi i'r unedau gyrraedd y safle, mae modd dod â'r cartref ynghyd, gofalu ei fod yn gallu ymdopi â'r tywydd a chael pobl yn byw ynddo mewn llai na mis."
Cwmni pensaernïol blaenllaw Partneriaeth Pentan o Gaerdydd sy'n gyfrifol am y dyluniad, a nhw yw'r unig gwmni o Gymru sydd ar restr fer cystadleuaeth fawreddog y Sunday Times.
Chwech yn unig o dros 250 o ymgeiswyr rhyngwladol sydd ar y rhestr fer. Dyluniad Ed yw'r unig un o Gymru a bydd yn cystadlu yn erbyn cwmnïau o Lundain a Sweden.
Pleidlais gan y cyhoedd sy'n cau ar 13 Awst fydd yn dewis y dyluniad buddugol. Bydd yn cael ei adeiladu yn Sioe Cartref Delfrydol 2013 yn Earls Court, Llundain cyn cael ei symud i Barc Arloesedd BRE i fod yn enghraifft fyw o sut y gellir cyfuno dyluniad ardderchog, cynaliadwyedd a thechnolegau medrus.
I gael mwy o wybodaeth am y gystadleuaeth a phleidleisio dros ddyluniad Ed Green, ewch i:
http://features.thesundaytimes.co.uk/public/homesurvey/live/site/registration