Cymrodoriaethau er Anrhydedd
15 Gorffennaf 2012
Ymhlith y bobl a fydd yn cael eu hanrhydeddu gan y Brifysgol yn ystod y seremonïau graddio blynyddol (16-20 Gorffennaf) mae awdur, darlledydd a chyflwynydd, pennaeth proffesiynol Lluoedd Arfog y DU a'r ferch gyntaf i gael ei phenodi'n farnwr yn yr Uchel Lys.
Bydd Tony Robinson, y Cadfridog Syr David Richards GCB CBE DSO ADC a'r Gwir Anrhydeddus Mrs Ustus Nicola Davies DBE yn ymuno â 10 o unigolion o feysydd meddygaeth, cyllid a gwyddorau, ymhlith eraill, i dderbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd.
Mae Cymrodoriaethau er Anrhydedd yn cael eu dyfarnu i unigolion sydd wedi cyrraedd safon o ragoriaeth ryngwladol yn eu maes.
Bydd mwy na 7000 o fyfyrwyr yn graddio yn y seremonïau eleni, a bydd tua 19,000 o bobl yn cael eu croesawu i'r dathliadau yng Nghaerdydd. Dyma un o ddigwyddiadau mwyaf calendr y Brifysgol a bydd y seremonïau'n cael eu darlledu'n fyw ar Sgrin Fawr y BBC ar yr Aes yng Nghaerdydd a hefyd yn cael ei ffrydio ar wefan y Brifysgol.
Cymrodorion er Anrhydedd 2012 yw:
Lynne Berry OBE yw Dirprwy Gadeirydd yr Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd, Cydymaith yn Civil Exchange ac uwch gydymaith gwadd yn Ysgol Fusnes CASS, Llundain. Roedd yn Brif Weithredwr WRVS, y Cyngor Gofal Cymdeithasol Cyffredinol, y Comisiwn Cydraddoldeb Cyfartal, y Comisiwn Elusennau a'r Gymdeithas Er Lles Teuluoedd. Mae hi wedi gwasanaethu ar lawer o gyrff Llywodraeth ac, yn ddiweddar, fe'i henwyd yn un o gant o fenywod arbennig ('100 Women to Watch') gan Brifysgol Cranfield.
Dr. Jean Botti yw Prif Swyddog Technegol EADS ac mae'n aelod o Bwyllgor Gweithredol EADS. Mae'n meddu ar 12 patent a phedwar cyhoeddiad amddiffynnol am ei waith yn Delphi Corporation a fe'i hetholwyd yn gymrawd fforwm enwogionDelphi; mae hefyd yn meddu ar 11 patent y tu allan i Delphi. Etholwyd Dr. Botti i'r Bwrdd Ymchwil Ewropeaidd fel cynrychiolydd dros Awyrenneg a Gofod ac mae'n aelod bwrdd ONERA (sefydliad ymchwil Ffrainc ar gyfer Awyrenneg a Gofod).
Mae'r Anrh. Mrs Justice Nicola Davies DBE yn Farnwr Uchel Lys. Mynychodd Ysgol Ramadeg Merched Pen-y-bont ar Ogwr ac ar ôl cael ei galw i'r Bar ym 1976, fe'i penodwyd yn Gwnsler y Frenhines (QC) ym 1992. Y gyfraith feddygol oedd ei maes gwaith fel bargyfreithiwr. Y Fonesig Nicola oedd y Gymraes gyntaf i gael ei phenodi'n QC ac yn Farnwr Uchel Lys. Mae'n Feistr o'r Fainc yn Gray's Inn.
Iain Gray – ymunodd â'r Bwrdd Strategaeth Technoleg fel Prif Weithredwr yn 2007. Cyn ymuno â'r Bwrdd Strategaeth Technoleg, Iain oedd Rheolwr Gyfarwyddwr a Rheolwr Cyffredinol Airbus UK. Cafodd ei addysgu ym Mhrifysgol Aberdeen a Phrifysgol Southampton, ac mae Iain yn Beiriannydd Siartredig, yn Gymrawd y Gymdeithas Awyrenegol Frenhinol, yn Gymrawd Academi Frenhinol y Peirianwyr ac, yn 2011, cafodd ei ethol yn Gymrawd Cymdeithas Frenhinol Caeredin.
Yr Athro Terry John Lyons – mathemategydd o Brydain ydyw, sy'n arbenigo mewn dadansoddi stocastig. Ef yw Aelod a Chyfarwyddwr sylfaenolOxford-Man Institute of Quantitative Finance ac ef oedd Cyfarwyddwr Sefydliad Gwyddorau Cyfrifiadurol a Mathemategol Cymru rhwng 2007 a 2011. Mae wedi bod yn gymrawd Cymdeithas Frenhinol Caeredin am dros 20 mlynedd ac mae'n Gymrawd y Gymdeithas Frenhinol er 2002.
Y Farwnes Eluned Morgan – fe'i hetholwyd yn Aelod ieuengaf Senedd Ewrop ym 1994 a hithau bryd hynny'n 27 oed. Bu'n gwasanaethu yn y rôl honno am gyfnod o 15 mlynedd gan gynrychioli Cymru ar ran y Blaid Lafur. Yn 2010, fe'i penodwyd yn Gyfarwyddwr Datblygu Busnesau Carbon Isel ar gyfer SSE (Scottish & Southern Energy) yng Nghymru. Cafodd ei hurddo'n arglwyddes yn 2011 ac mae'n eistedd yn Nhŷ'r Arglwyddi fel Barwnes Morgan o Elai.
Dr David Andrew Arlwydd Owen, RTTP, OBE yw dyfeisiwr patent allweddol i drin cleifion â chlefyd Parkinson. Ym 1990, ymunodd â'r Cyngor Ymchwil Feddygol i arwain rhyngweithio â diwydiant, yn creu gweithgareddau megis y prawf cyntaf o gyllido cysyniadau. Ar ôl ymddeol, mae'n parhau i fod yn weithgar ym maes Trosglwyddo Technoleg a buddsoddi.
Y Cadfridog Syr David Richards GCB CBE DSO ADC yw Pennaeth presennol y Staff Amddiffyn, sef pennaeth proffesiynol Lluoedd Arfog y DU, a phrif ymgynghorydd milwrol yr Ysgrifennydd Gwladol dros Amddiffyn a'r Llywodraeth. Yn ystod ei yrfa mae wedi bod yn gweithio yn y Dwyrain Pell, yr Almaen yn ogystal â bod ar ddyletswydd am gyfnodau yng Ngogledd Iwerddon. Mae ei wobrau am ei waith yn cynnwys Enw mewn Adroddiad, Cadlywydd Urdd yr Ymddiriedolaeth Brydeinig, Urdd Gwasanaeth Rhagorol a Chadlywydd Marchog Urdd y Baddon.
Tony Robinson yw cyflwynydd y rhaglen boblogaiddTime Team. Bu'n chwarae rhan Baldrick yn y gyfresBlackadder ac ysgrifennodd gyfres deledu i blant gan serennu ynddi hefyd sef, Maid Marian and Her Merry Men. Mae Tony wedi ysgrifennu 26 o lyfrau i blant ac wedi cyflwyno mwy na 40 o raglenni dogfen ar y teledu gan gynnwys y rhaglen glodfawr Me and My Mum. Fel awdur teledu i blant, mae wedi ennill dwy wobr gan y Gymdeithas Deledu Frenhinol, gwobr BAFTA a gwobr International Prix Jeunesse.
Yr Athro Heather Stevens CBE – roedd yn un o'r pum rheolwr sylfaenol a sefydlodd Admiral Group plc, cwmni mwyaf Cymru ym maes 100 cwmni'r FTSE. Yn 2007, sefydlodd Heather a'i gŵr David, The Waterloo Foundation, sef ymddiriedolaeth elusennol annibynnol y mae'n gadeirydd arni. Mae Heather hefyd ynghlwm wrth raglen Amgylchedd y Sefydliad, gwarchod coedwigoedd glaw a gwaith morol ac, yn ddiweddar, sefydlodd brosiect Maint Cymru i amddiffyn coedwigoedd glaw, y mae Prifysgol Caerdydd yn bartner prosiect ynddo.
Martyn Williams MBE yw un o'r chwaraewyr rygbi mwyaf llwyddiannus yn hanes y gêm ac mae'n cael ei gydnabod yn un o'r blaenasgellwyr gorau yn y byd. Hyd yma, mae wedi cynrychioli Cymru mewn tair pencampwriaeth Cwpan y Byd ac wedi ennill 100 o gapiau dros Gymru, gan ennill dwy Gamp Lawn a dwy Goron Driphlyg, ac wedi cwblhau tair taith gyda'r Llewod. Hefyd, mae Martyn yn parhau i fod yn llysgennad ar gyfer elusen Canolfan Ganser Felindre, gan arwain a chynorthwyo mentrau codi arian ar eu rhan.
Sian Williams – mae hi wedi bod yn newyddiadurwr darlledu i'r BBC am fwy na 16 mlynedd. Mae hi wedi bod yn uwch gynhyrchydd i Radio 4, helpodd i lansioBBC News 24 ac mae hi wedi gweithio fel gohebydd ym mhedwar ban byd. Bu Sian yn cyflwyno BBC Breakfast am 11 mlynedd, gyda'r gynulleidfa'n cynyddu'n fwy na dwywaith ei maint yn ystod cyfnod ei swydd. Mae'n gyflwynydd Radio 4, gan gydgyflwynoSaturday Live, mae hi'n ddarllenydd newyddion ar BBC1 ac mae'n rhan o dîm cyflwyno Gemau Olympaidd y BBC.
Ewart Wooldridge CBE BA (Oxon) FRSA – mae wedi bod yn Brif Weithredwr y Sefydliad Arweinyddiaeth ar gyfer Addysg Uwch ers ei lansio ym mis Ionawr 2004. Cydnabuwyd y Sefydliad drwy asesiadau annibynnol am drawsnewid gallu'r sector addysg uwch am arweinyddiaeth. Yn ei yrfa flaenorol, roedd yn Bennaeth y Coleg Gwasanaeth Sifil ac mae wedi cyflawni rolau arwain ym maes teledu a'r cyfryngau, llywodraeth leol a'r celfyddydau.
Eleni mae'r Brifysgol hefyd yn cydnabod cyfraniad sylweddol yr Athro Syr Keith Peters, a fu'n Gadeirydd ar Gyngor y Brifysgol rhwng 2004-2011.
Syr Keith mae wedi bod â dylwanad pwysig ar feddygaeth y DU am fwy na thri degawd. Mae ei ymchwil ar esbonio mecanweithiau imiwnolegol sy'n tanategu clefydau yr arennau a'r pibellau gwaed wedi arwain at ffyrdd newydd o drin y clefydau hyn.
Ef oedd Cymrawd sylfaenol Academi'r Gwyddorau Meddygol a chychwynnodd drafodaethau a arweiniodd at sefydlu Canolfan y DU ar gyfer Ymchwil ac Arloesi Meddygol, sef Sefydliad Francis Crick. Cafodd ei eni yng Nghastell-nedd Port Talbot a'i addysgu yn Ysgol Feddygaeth Genedlaethol Cymru, (Prifysgol Caerdydd bellach), ac ef oedd Athro Brenhinol Ffiseg ym Mhrifysgol Caergrawnt o 1987 i 2005, lle'r oedd hefyd yn bennaeth yr Ysgol Meddygaeth Glinigol. Cafodd ei urddo'n farchog ym 1993 a'i ethol yn Gymrawd y Gymdeithas Frenhinol ym 1995.
Bydd Syr Keith yn derbyn Doethuriaeth er Anrhydedd am ei gyfraniad i feddygaeth a'r Brifysgol (ddydd Gwener 20Gorffennaf am 11.00am).