Chwalu Rhwystrau
22 Hydref 2012
Gan mai pobl ifanc yn gadael gofal yw un o'r grwpiau sydd wedi'i dangynrychioli fwyaf yn addysg uwch, mae'r Brifysgol yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau i helpu i chwalu rhwystrau ac ysbrydoli'r bobl ifanc hyn i ystyried dyfodol mewn addysg uwch.
Yn 2011, roedd mwy na 5,000 o blant a phobl ifanc y gofelir amdanynt yng Nghymru, sy'n godiad o bump y cant ar y flwyddyn flaenorol ac 20 y cant dros y pum mlynedd diwethaf. Mae ymchwil hefyd wedi dangos mai dim ond saith y cant o bobl sy'n gadael gofal yn 19 oed sy'n mynd i'r brifysgol, o'i gymharu â 43 y cant o bobl ifanc yn gyffredinol.
Er mwyn helpu i fynd i'r afael â'r cyfranogiad isel ymhlith y grŵp hwn, mae gofalwyr maeth, gweithwyr cymdeithasol, tiwtoriaid derbyn a phobl ifanc yn dod at ei gilydd i gymryd rhan mewn gweithdai a sesiynau gwybodaeth er mwyn iddynt gael gwybod sut i agor rhagor o ddrysau at addysg uwch ar gyfer pobl sy'n gadael gofal.
Er mwyn dathlu diwrnod cyntaf Wythnos Genedlaethol Ymadawyr Gofal 2012 (24 Hydref), bydd y Brifysgol yn cysylltu â Rhwydwaith Maethu Cymru er mwyn cynnig i ofalwyr maeth a'r bobl ifanc yn eu gofal y cyfle i gael gwybod rhagor am sut y gall addysg uwch weithio iddynt. Hefyd bydd y digwyddiad yn cynnwys lansiad 'Canllaw Gofalwr Maeth i Ysbrydoli a Chefnogi Ymadwyr Gofal i fynd i Addysg Uwch'. Mae'r pecyn cymorth, a ddatblygwyd gyda chymorth Prifysgol Caerdydd, ar gyfer gofalwyr maeth sydd mewn sefyllfa i gefnogi ac annog unigolyn ifanc mewn gofal sy'n ystyried gwneud cais, neu sydd wedi gwneud cais yn ddiweddar i astudio yn y brifysgol.
Dywedodd Freda Lewis, cyfarwyddwr Rhwydwaith Maethu Cymru: "Mae gofalwyr maeth yn chwarae rôl hanfodol o ran codi dyheadau pobl ifanc o oedran cynnar. Y gobaith yw y bydd y canllaw hwn yn eu hysbrydoli i fod yn uchelgeisiol ar ran y plant maent yn gofalu amdanynt, ac i'r plant a'r bobl ifanc eu hunain gredu y gallant gyflawni. Ni ddylai bod mewn gofal fod yn rhwystr rhag mynd i'r brifysgol.
"Mae gweithio gyda Phrifysgol Caerdydd yn ein galluogi i gynnig y gefnogaeth ymarferol orau i'r rhai sydd ei hangen. Mae gofalwyr maeth, y Rhwydwaith Maethu, y brifysgol ac yn fwyaf oll y bobl ifanc yn gweithio'n galed er mwyn sicrhau mai ystrydeb sy'n edwino yw'r syniad nad yw pobl ifanc a oedd mewn gofal yn ffynnu mewn addysg uwch."
Ddydd Iau (25 Hydref), bydd y Brifysgol hefyd yn lansio'r Prosiect Dyfodol Hyderus.
Wedi'i anelu at bobl ifanc 14-19 oed mewn gofal, mae'r prosiect yn estyniad o'r cynllun mentora presennol ar gyfer pobl ifanc mewn gofal. Bydd y cwrs, sy'n seiliedig ar sgiliau ar gyfer plant y gofelir amdanynt a rhai sy'n gadael gofal, a ddatblygwyd ar y cyd gyda Gwirfoddoli Myfyrwyr Caerdydd y Brifysgol, yn cael ei gynnal bob pythefnos am saith mis ac yn darparu: mentora; diwrnodau blasu; cefnogaeth gyda cheisiadau, CVs a gwaith ysgol; a phrofiad uniongyrchol o fywyd yn y brifysgol.
Dywedodd Einir Evans, Swyddog Cyswllt Allweddol y Brifysgol ar gyfer y rhai sy'n gadael gofal: "Mae addysg yn rhan bwysig o fywydau pobl ifanc, ac eto pobl ifanc sy'n gadael gofal yw un o'r grwpiau sydd wedi'u tangynrychioli fwyaf mewn addysg bellach ac uwch yn y DU. Heb gymorth teulu, ac yn aml yn ei chael yn anodd cael digon o arian a lle i fyw, rydym yn cydnabod bod cael mynediad at addysg a llwyddo yn gyflawniad go iawn.
"Ni oedd un o'r prifysgolion cyntaf yng Nghymru i ennill Nod Ansawdd Buttle UK, a gwnaethom ymrwymo i ehangu mynediad ymhlith pobl ifanc sy'n gadael gofal. Rydym yn gobeithio y bydd y digwyddiadau hyn yn codi ymwybyddiaeth o'r rhwystrau y gall y rhai sy'n gadael gofal eu hwynebu'n aml ac, yr un mor bwysig, yn annog ac ysbrydoli pobl a fu mewn gofal i ystyried addysg yn y brifysgol fel posibilrwydd go iawn."
Hefyd yn digwydd yn ystod Wythnos Genedlaethol Ymadawyr Gofal fydd digwyddiad holi ac ateb ar gyfer y rhai sy'n gadael gofal (Dydd Iau 25 Hydref). Wedi'i gynnal ar y cyd rhwng Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol a Voices from Care, bydd gan bobl sy'n gadael gofal ledled Cymru y cyfle i ofyn cwestiynau'n uniongyrchol i wleidyddion ac aelodau eraill o'r panel. Bydd pobl sy'n gadael gofal yn gallu mynegi eu barn am eu profiadau a dylanwadu ar flaenoriaethau'r dyfodol ar gyfer Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol ac asiantaethau eraill. Mae'r panel yn cynnwys Aelodau'r Cynulliad; Ken Skates, Jenny Rathbone, David Melding a Mark Drakeford, Comisiynydd Plant Cymru Keith Towler, Freda Lewis; Prif Swyddog Gweithredol y Rhwydwaith Maethu a Lydia Llewellyn; Cadeirydd y Fforwm Ymadawyr Gofal.
A wyddech chi
- Pobl ifanc sy'n gadael gofal yw un o'r grwpiau a dangynrychiolir fwyaf yn addysg uwch yn y DU. Mae Cyfarwyddiaeth Ystadegau Cymru yn dweud bod 7% o bobl sy'n gadael gofal yn 19 oed mewn addysg uwch amser llawn yn 2011, o'i gymharu â 43% o bobl ifanc yn gyffredinol.
- Prifysgol Caerdydd oedd un o'r prifysgolion cyntaf yng Nghymru i ennill Nod Ansawdd Buttle UK yn 2007. Llwyddodd y Brifysgol i adnewyddu ei chais am y nod ansawdd yn 2010 ac mae wedi ymrwymo i'w adnewyddu eto yn 2013.
- Dyfarnwyd y nod ansawdd i'r Brifysgol er mwyn cydnabod ei hymrwymiad i annog pobl ifanc mewn gofal i astudio ym maes addysg uwch ac mae pecynnau cymorth helaeth ar gael os byddant yn dewis astudio ym Mhrifysgol Caerdydd.
- Mae Ehangu Mynediad yn mynd i'r afael â recriwtio, cadw a dilyniant myfyrwyr o ystod eang o grwpiau a dangynrychiolir yn draddodiadol mewn addysg uwch. Mae'r rhain yn cynnwys pobl o grwpiau lleiafrifoedd ethnig, o gymunedau o dan anfantais, pobl ag anableddau a'r rhai o deuluoedd nad oes ganddynt brofiad blaenorol o addysg uwch.