Meddyliau Creadigol
23 Hydref 2012
Goblygiadau Archwiliad Leveson a rôl ffotograffwyr benywaidd yn yr Ail Ryfel Byd yw dau o'r pynciau, ymhlith nifer, fydd yn cael lle blaenllaw yng Ngŵyl Meddyliau Creadigol y Brifysgol.
Mae'r ŵyl, sy'n ddathliad o ehangder ymchwil ym maes y dyniaethau yng Nghaerdydd, yn rhedeg o fis Hydref i fis Rhagfyr 2012 gyda'r bwriad o ymgysylltu â'r cyhoedd, staff a myfyrwyr yn y maes cyfoethog hwn o waith y Brifysgol.
Yn ogystal, mae'r ŵyl yn cynnig cyfle i awduron, cerddorion a beirdd gyflwyno'u gwaith diweddaraf i'r cyhoedd.
Mae uchafbwyntiau'r rhaglen yn cynnwys digwyddiadau yng nghwmni enillwyr diweddaraf Llyfr y Flwyddyn Cymru, sef Patrick McGuiness, Jon Gower a Richard Gwyn; digwyddiadau BookTalk ar 'The Little Stranger' a 'Maus: A Survivor's Tale'; ac archwiliad i hanes cudd catacwmau cŵn Saqqara yn yr Aifft.
Bydd cerddoriaeth gan Gôr Siambr Prifysgol Caerdydd, y Gerddorfa Symffoni ac ensemble preswyl y Brifysgol, Pedwarawd Carducci, yn rhan o'r digwyddiad hefyd.
Dywedodd James Vilares, y Swyddog Ymgysylltu â'r Gymuned sydd wedi trefnu'r ŵyl: "Mae Meddyliau Creadigol yn cynnig cyfle i'r cyhoedd ymgysylltu â'r gwaith diddorol sy'n cael ei wneud yng Nghaerdydd trwy ddarlithoedd, trafodaethau, cyngherddau a llawer mwy. Gyda dros 50 o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal trwy gydol tymor yr hydref, mae yna rywbeth at ddant pawb."
Mae pob digwyddiad ar agor i'r cyhoedd ac yn rhad ac am ddim, oni bai y nodir yn wahanol. I weld y rhaglen lawn a manylion archebu tocynnau ar gyfer digwyddiadau, ewch i: www.caerdydd.ac.uk/creativeminds