Wythnos Cynaliadwyedd 2012
25 Hydref 2012
Bydd Griff Rhys Jones, y darlledwr, yr awdur, a'r comedïwr sy'n bleidiol dros yr amgylchedd yn arwain dathliad o waith Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy yn ystod Wythnos Cynaliadwyedd 2012.
Bydd Griff Rhys Jones, a ddaeth yn noddwr y Sefydliad yn 2011, yn siarad â gwesteion mewn digwyddiad i ddynodi ail ben-blwydd y Sefydliad Ymchwil, ynghyd â'r Is-Ganghellor, yr Athro Colin Riordan a Carole-Anne Davies, Prif Weithredwr Comisiwn Dylunio Cymru.
Bydd y digwyddiad yn dod ag academyddion y Brifysgol a phobl flaenllaw eraill sy'n ymwneud â gwaith cynaliadwyedd yng Nghymru a'r DU at ei gilydd, ac yn tynnu sylw ar waith arloesol y Sefydliad ym maes gwyddor cynaliadwyedd.
Ers cael ei greu, mae'r Sefydliad wedi cael effaith arwyddocaol ar ymchwil i wneud lleoedd cynaliadwy, gan gynhyrchu syniadau newydd o gwmpas anghenion rheoli a pholisi i gael atebion integredig i fyw cynaliadwy.
Meddai'r Athro Terry Marsden, Cyfarwyddwr y Sefydliad: "Mae hi'n anrhydedd i ni bod Griff Rhys Jones, ein noddwr, yn mynychu ein digwyddiad i ddathlu'r pen-blwydd hwn. Mae'n rhoi cyfle i ni sôn am y cynnydd a wnaed hyd yma ac i edrych i'r dyfodol gan gynnwys dyfarniad £3.5M DURESS, prosiect wedi'i noddi gan NERC ar wasanaethau ecosystemau sy'n cael ei arwain gan y Cymrawd Ymchwil, Dr Isabelle Durance. Yn ogystal rydym eisiau parhau i adeiladu ein rhwydweithiau a'n partneriaethau ac rydyn ni'n astudio gweithredu cynaliadwyedd sy'n cael ei arwain gan lywodraeth leol a'r gymuned. Mae hyn yn cynnwys rhanbarth dinas Caerdydd, lle rydym yn cydweithio ag aelodau o Gyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymru.
Nod Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy yw meddwl am atebion newydd i fynd i'r afael â'r lefelau defnyddio presennol ac i leihau'r pwysau ar yr amgylchedd – mae gennym gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer y blynyddoedd i ddod a fydd yn cadarnhau ymhellach ein lle fel arweinydd ym maes gwyddor gynaliadwy."
Mae'r digwyddiad hwn yn rhan o Wythnos Cynaliadwyedd 2012 y Brifysgol sy'n rhoi cyfle i staff a myfyrwyr ddod at ei gilydd a gwneud ymdrech bendant i leihau ein heffaith ar y blaned.
Mae Wythnos Cynaliadwyedd 2012 yn rhedeg rhwng dydd Llun 29 Hydref a dydd Gwener 2 Tachwedd ac mae'r digwyddiadau eraill sydd ar y gweill yn cynnwys:
- Arddangosfa sy'n dangos gwaith cadwraeth y Brifysgol yn Kinabatangan (drwy'r wythnos, Oriel VJ, y Prif Adeilad)
- Ffair elusennau sy'n tynnu sylw at gyfleoedd gwirfoddoli i staff a myfyrwyr ar brosiectau yn y gymuned a thu hwnt (Dydd Iau 1 Tachwedd, Oriel VJ, y Prif Adeilad o 11am – 3pm)
- Meddygfeydd y doctor beiciau ar gampws Cathays a Parc y Rhath a rhoi marciau diogelwch ar feiciau (Dydd Iau a dydd Gwener 1 a 2 Tachwedd)
- Bwydlenni cinio o fwyd lleol ym mwytai'r Prif Adeilad, ac Adeiladau Trevithick a Julian Hodge. Bydd cogyddion hefyd yn defnyddio perlysiau a dyfwyd gan fyfyrwyr Caerdydd yn eu rhandiroedd mewn rhai seigiau yn ystod yr wythnos
- Arddangosfa yn ardal derbynfa Undeb y Myfyrwyr (o ddydd Iau 30 Hydref) sy'n canolbwyntio ar brosiectau rhandiroedd myfyrwyr Prifysgol Caerdydd
- Lansio Cynllun Teithio'r Brifysgol. Bydd staff o wasanaethau'r Campws yn rhoi mesuryddion camau am ddim i'r 300 aelod o staff a myfyriwr cyntaf sy'n ymweld â'u stondin yn y ffair elusennau.
Mae rhestr lawn digwyddiadau'r Wythnos Cynaliadwyedd ar gael yma