Tyfu eu bwyd eu hunain
25 Hydref 2012
Mae myfyrwyr wedi bod yn tyfu eu ffrwythau, eu llysiau a'u perlysiau eu hunain mewn rhandir yng Nghaerdydd. Mae Megan David, Swyddog Lles a Chymuned yn Undeb y Myfyrwyr, yn egluro rhagor am y prosiect ac yn dweud sut gall staff gymryd rhan.
"Ers rhai blynyddoedd mae Cymdeithas Pobl a'r Blaned yn cydweithio â'r Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr i ddod o hyd i ffordd i alluogi myfyrwyr i gael rhandir i dyfu eu ffrwythau a'u llysiau eu hunain.
"Y llynedd, cafodd y Gymdeithas ganiatâd i ddefnyddio darn o dir o dan Undeb y Myfyrwyr ar Barc y Plas fel lle i'w droi'n rhandir bach i fyfyrwyr ei ddefnyddio.
"Ar ôl llawer o godi sbwriel a chlirio'r lle a llawer o arddio ar brynhawniau dydd Mercher, mae aelodau o Gymdeithas Pobl a'r Blaned wedi rhannu'r llain. Maen nhw wedi gweithio'n galed i dyfu tatws, artisiogau, ffa dringo, blodau'r haul, capanau cornicyll, gold Mair, yn ogystal â rhai llwyni ffrwythau mafon, mwyar, gwsberis, a chyrens duon. Hefyd rydyn ni wedi tyfu troellen berlysiau gyda phenrhudd yr ardd, teim, persli, coriander a llysiau'r gwewyr.
"Roedden ni'n ffodus iawn yn ddiweddar i gael rhandir i fyny yn Allensbank i dyfu llawer mwy, sy'n brosiect tymor hir. Cyn i ni gael y rhandir hwn y tu allan i'r Undeb, roedd myfyrwyr yn arfer helpu gyda chynllun gerddi cymunedol Riverside - bydd y cynllun hwn yn Allensbank yn gallu dod yn lle hwn.
"Mae angen pâr arall o ddwylo bob amser, felly pe hoffai unrhyw aelod o staff ddod i arddio yn unrhyw un o'n rhandiroedd, byddem ni wrth ein bodd. Gallan nhw gysylltu â mi'n uniongyrchol yn welfareofficer@cardiff.ac.uk i gael gwybod rhagor."