Tu ôl i'r Llen yn y Seremoni Raddio
13 Gorffennaf 2012
Sut deimlad yw cerdded ar lwyfan Neuadd Dewi Sant? Ble mae'r lleoliad gorau ar gyfer cael tynnu eich llun? Sut mae gwisgo'r gwn graddio?
Yn ystod yr wythnos raddio, bydd Alex Gravell, myfyrwraig sy'n graddio eleni, yn troedio strydoedd Caerdydd ac yn adroddwraig i ni, yn cyfweld â graddedigion a'u teuluoedd yn ogystal â mynd a ni tu ôl i len Seremoni Raddio 2012.
Bydd hi'n holi Dosbarth 2012 am uchafbwyntiau'r diwrnod ac yn sgwrsio â rhieni balch ac aelodau'r teulu am eu profiad yn y seremoni raddio.
Bydd Alex hefyd yn adroddwraig i ni yn ystod ei seremoni graddio ei hun. Gan ei bod newydd gwblhau ei chwrs ôl-radd yn yr Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol, bydd Alex yn graddio mewn seremoni yn nes ymlaen yn yr wythnos.
Dilynwch Alex ar Twitter @cugradereporter a darllenwch ei negeseuon dyddiol ar ein blog Graddio http://www.cardiff.ac.uk/gradblog
Dewch i gwrdd ag Alex:
Darpar raddedig o'r Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol, blogiwr ffasiwn a newyddiadurwr llawrydd o Dde Cymru, sy'n gobeithio camu i fyd Cysylltiadau Cyhoeddus ar ôl iddi raddio. Mae hi wrth ei bodd â ffotograffiaeth, teithio aThe Cure.